Showing 11 results

Archival description
Papurau F. Wynn Jones
Print preview View:

1 results with digital objects Show results with digital objects

Godre'r Berwyn

Llawysgrif wreiddiol Godre'r Berwyn (Caerdydd, 1953), atgofion bore oes o'i ieuenctid yn Llandrillo, gyda chywiriadau; llythyrau yn ymwneud â'r cyhoeddi a'r gwerthiant oddi wrth Hughes a'i Fab, 1952-1961, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Kate Roberts a Hugh Evans, Lerpwl, yn gwrthod cyhoeddi'r gyfrol; adolygiadau, 1953-1954, o'r llyfr, gan gynnwys sgript adolygiad Gwyn Erfyl (Jones), 1954, a ddarlledwyd gan y BBC. Ceir hefyd lythyrau'n canmol y gyfrol, 1952-1955, gan gynnwys rhai oddi wrth Arthur [ap Gwynn], J. Gwyn Griffiths, T. H. Parry-Williams, Cassie Davies (4), David Thomas, Thomas Jones, Dora Herbert Jones, R[obert] Richards (2), John Cecil-Williams, E. Tegla Davies (2) a D. R. Hughes (2).

Roberts, Kate, 1891-1985

Llyfryddiaeth F. Wynn Jones

'Rhai o gyhoeddiadau F. Wynn Jones', 1923-1971, a luniwyd gan Emrys Wynn Jones yn cynnwys englyn gan Derwyn Jones i wrthrych y gwaith.

Jones, Derwyn

T. Gwynn Jones: cyfansoddiadau

Ymhlith y papurau mae llythyr oddi wrth R. Brinley Jones, Gwasg Prifysgol Cymru, 1970; grŵp o lythyrau oddi wrth Derwyn Jones, Llyfrgell y Brifysgol, Bangor, 1968-1970; torion o Papur Pawb, 1907; llythyr oddi wrth L. Haydn Lewis, 1965, gyda cherddi teyrnged a luniodd i T. Gwynn Jones; ac adysgrifau gan F. Wynn Jones o'i gerddi. -- Ceir hefyd daflenni a gyhoeddwyd gan y Weinyddiaeth Amaeth a Physgodfeydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac a gyfieithwyd gan T. Gwynn Jones, [1942]-[1943], yn y cyfresi 'Dig for Victory' a 'Growmore'.

Jones, R. Brinley

T. Gwynn Jones: llyfryddiaeth

Llyfrau nodiadau ymchwil F. Wynn Jones, gan gynnwys fframwaith o'r llyfryddiaeth yn ei law. Ceir hefyd lythyrau, 1959-1960, yn ymwneud â'i ymchwil, gan gynnwys rhai oddi wrth Kate Roberts (4), Erfyl Fychan (2), D. J. Williams (2), E. Tegla Davies, T. J. Jenkin, David Jenkins a D. Tecwyn Lloyd (2).

Roberts, Kate, 1891-1985

Canmlwydd Siloh

Papurau gan gynnwys teipysgrif wreiddiol Canmlwydd Siloh, Aberystwyth (Aberystwyth, 1963) wedi'i chywiro, ynghyd â nodiadau ymchwil F. Wynn Jones ac atgynhyrchiad o lythyr, 1874, oddi wrth Richard Morris a D. Williams at D. J. Davies a dau lun pensaernïol o'r adeilad.

T. Gwynn Jones: gwaith creadigol

Nodiadau F. Wynn Jones o ddarlithiau Cymraeg Timothy Lewis a T. Gwynn Jones, 1919-1920; llungopi o juvenilia [T. Gwynn Jones] sef 'Darluniau Cymdeithasol' gan Syr Pedr Bennwann; llungopïau o sonedau T. Gwynn Jones 'dedicated to my dear friend and true comrade Robert Bryan', 1904; llungopi o 'Fel y bu Bili Bola yn hogyn da iawn' sef stori a ysgrifennwyd gan T. Gwynn Jones i'w wyres Nia, Nadolig 1933, ynghyd â rhai o'r cerddi ganddo yn ei law, 1928-1929, a gyhoeddwyd yn ddiweddarach yn Llyfr Nia Fach (Wrecsam, 1932); llungopi o lythyr, 1919, oddi wrth 'Tom' (T. Gwynn Jones) at ei dad yn dweud iddo gael ei benodi yn Athro'r Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. -- Ceir hefyd nodiadau F. Wynn Jones ar gyfer ei ysgrif 'Yr Arian Mawr' a gyhoeddwyd yn Cylchgrawn Cymdeithas Hanes Sir Feirionnydd, 1966, ynghyd â llawysgrif o'i gyfieithiad i'r Saesneg ohoni.

Llythyrau Rhyfel Byd Cyntaf

Llythyrau, 1916-1918, yn ymwneud â phrofiadau F. Wynn Jones yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac fel carcharor rhyfel yn Yr Almaen yn 1918 ac o'r Iseldiroedd wedi iddo gael ei ryddhau, gan gynnwys llythyr, 1918, a anfonwyd at ei rieni yn eu hysbysebu ei fod ar goll a llythyr, 1918, a gylchredwyd oddi wrth y Brenin George VI, yn estyn croeso nôl iddo; a llythyrau, 1918, oddi wrth aelodau'r teulu a chyfeillion yn cydymdeimlo gyda hwy pan ofnwyd ei fod wedi colli'i fywyd, ynghyd â thri llythyr, [1918]-1919, oddi wrth Thomas Jones, brawd F. Wynn Jones, at y teulu.

George VI, King of Great Britain, 1895-1952

Papurau F. Wynn Jones

  • GB 0210 FRANWYJO
  • fonds
  • [?1872]-[2003] (crynhowyd [1916]-2003)

Papurau, 1916-1971, yn ymwneud â chyhoeddiadau F. Wynn Jones sef Godre'r Berwyn (1953) a Canmlwydd Siloh (1962), ynghyd â phapurau ymchwil yn ymwneud â'r cofiant arfaethedig i'w dad-yng-nghyfraith T. Gwynn Jones. Ceir hefyd rhai o'i bapurau personol ef ei hun sy'n cynnwys llythyrau, 1916-1918, a anfonodd tra'n filwr adeg y Rhyfel Byd Cyntaf ac fel carcharor rhyfel yn 1918; a llythyrau'n ei longyfarch ar gael OBE yn 1957. Ychwanegwyd rhai nodiadau cefndirol gan Emrys Wynn Jones.

Jones, Francis Wynn, 1898-1970

T. Gwynn Jones: gweithiau

Torion o'r Cymro a'r County Leader, 1908, yn cynnwys y nofel 'A fated feud' gan Iwan de Galles (T. Gwynn Jones) a gyhoeddwyd fesul pennod ond a ymddangosodd yn gyntaf yn y Gymraeg fel 'Glyn Hefin' yn Papur Pawb, 1905-1906; llungopïau o bennod 1, 2 a'r olaf o 'Llwybr gwaed ac angau' a gyhoeddwyd yn Yr Herald Cymraeg, 1903; llungopïau o ysgrifau T. Gwynn Jones a gyhoeddwyd yn bennaf yn Y Faner, 1891-1893, ac mewn papurau eraill, 1902-1944 (gyda bylchau); adysgrifau gan F. Wynn Jones o'i gerddi cynnar, 1887-1904; cyfeiriadau at T. Gwynn Jones yn y wasg wedi'u casglu gan F. Wynn Jones; cerddi Saesneg yn llaw T. Gwynn Jones, [1917]-[1943]; rhestr o ganeuon a chyfieithiadau gan T. Gwynn Jones yng nghyhoeddiadau Cwmni Cyhoeddi Gwynn, [1961]; nodiadau gan W. Llewelyn Jones ar gyfer darlith ar T. Gwynn Jones; a nodiadau yn llaw Arthur ap Gwynn yn seiliedig ar atgofion ei dad T. Gwynn Jones yn 1945.

Arthur ap Gwynn, 1902-1987

Llythyrau F. Wynn Jones

Llythyrau a dderbyniodd F. Wynn Jones ar achlysur ei anrhydeddu gydag OBE yn 1957. Ymhlith y gohebwyr mae Arthur ap Gwynn, Syr Wynn Wheldon, John Cecil-Williams. Llythyrau amrywiol, [?1872]-1974, oddi wrth J[ohn] Morris Jones [?at T. Gwynn Jones], Bob [Robert] Richards (at [F.] Wynn [Jones]), William Eames (at Mrs Gwynn [Jones]) ac E. Morgan Humphreys (at F. Wynn Jones). Ceir llythyrau hefyd at Mrs Eluned Wynn Jones. -- Ceir hefyd lythyrau a chardiau o gydymdeimlad, 1970-1971, a anfonwyd at ei deulu wedi marwolaeth F. Wynn Jones yn 1970, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Syr Goronwy Daniel, Cassie Davies, Norah Isaac, Dafydd Jenkins, Dora Herbert Jones, Derwyn Jones, A. O. H. Jarman, E. D. Jones, Ieuan Gwynedd Jones, Yr Athro Thomas Jones, Beverley Smith, Ben [Bowen Thomas], Gwilym R. Tilsley, J. E. Caerwyn Williams, J. Tysul Jones, D. Tecwyn Lloyd, Thomas Parry, Iorwerth Peate a Brinley Thomas.

Arthur ap Gwynn, 1902-1987