Showing 19 results

Archival description
CMA: Cofysgrifau Eglwys y Tabernacl, Porthmadog Welsh
Advanced search options
Print preview View:

CMA: Cofysgrifau Eglwys y Tabernacl, Porthmadog

  • GB 0210 TABPOR
  • fonds
  • 1860-1985

Mae'r fonds yn cynnwys cofnodion ariannol, cofnodion gweithgareddau diwylliannol a chofnodion gweinyddol Capel y Tabernacl, Porthmadog. Ceir llyfr cyfrifon, 1860-1917, llyfrau casgliad y Weinidogaeth, 1927-1937, llyfrau derbyniadau a thaliadau, 1968-1985, rhaglenni ac anerchiadau Cymdeithas Lenyddol y Tabernacl, 1884-[1923], llyfrau cofnodion cyfarfodydd y blaenoriaid, 1891-1935, llyfr cofnodion Pwyllgor y Chwiorydd a hanes yr Eglwys, 1862-1891, yn eu plith.

Cofysgrifau ychwanegol yn perthyn i'r capel, yn cynnwys llyfr casgliadau, 1955-1967; dwy gyfrol yr Ysgrifennydd, 1964-1971 a 1972-1981; a tudalen yn nodi cynnwys llyfrgell y capel, 1946-1968 a 1975.

Eglwys y Tabernacl (Porthmadog, Wales)

Hanes Eglwys y Tabernacl

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr nodiadau dienw gyda 'Hanes Eglwys y Tabernacl, Porthmadog. 1862-1891', [1891] ac ysgrif Jonathan Davies, [1914x1922], ar hanes yr eglwys, 1862-1912; anerchiad, 1899, a draddodwyd i Gyfarfod Misol Llŷn ac Eifionydd gan y llywydd Jon[athan] Davies; dau lythyr, 1913, oddi wrth Y Parchedig John Roberts, Lerpwl at Mr Davies, ynghyd â thorion o'r wasg yn cynnwys erthygl am Gymdeithasfa Porthmadog, Y Cymro, 1927; teyrnged i Richard Davies, Porthmadog, Y Goleuad, 1922, a Jonathan Davies, Y Goleuad, 1933.

Llyfr cyfrifon

Mae'r ffeil, 1860-1917, yn cynnwys cyfrifon yn ymwneud â chost adeiladu'r capel, y ddyled, yr eisteddleoedd, y Tŷ Capel, y Weinidogaeth, yr Ysgol Sul, y llyfrgell, amrywion, cymdeithasau, ynghyd â chyfriflenni.