Showing 14 results

Archival description
Papurau Walter Rees Jones (Birkenhead) File
Advanced search options
Print preview View:

Tysteb Walter Rees Jones

Ceir o fewn y ffeil bapurau a thorion papur newydd yn ymdrin â chyflwyno tysteb i Walter Rees Jones i gydnabod ei wasanaeth diflino fel ysgrifennydd Eisteddod y G'lomen Wen, Birkenhead, ers 1919. Cyflwynwyd y tysteb iddo mewn cyfarfod cyhoeddus yn ysgoldy Capel Parkfield, 3 Ionawr 1930.

'Welsh Notes'

Mae'r ffeil yn cynnwys copïau teipysgrif a wnaed gan Walter Rees Jones o'r golofn 'Welsh Notes' a ymddangosodd yn y Birkenhead News and Advertiser rhwng Mehefin 1956 ac Awst 1960.

Papurau amrywiol Eglwys Parkfield

Mae'r ffeil yn cynnwys papurau amrywiol, llawer yn ymdrin ag eglwys y Methodistiaid Calfinaidd Parkfield, Birkenhead. Yn eu plith ceir llyfryn ar hanes yr achos, 1834-1934, gan P. H. Jones, a theipysgrifau yn Gymraeg a Saesneg ar 'Hanes Dechreuad Achosion y Methodistiaid Calfinaidd Cymraeg yn Birkenhead' gan Walter Rees Jones, 1996-1997.

Eglwys y Trefnyddion Calfinaidd Parkfield (Liverpool, England)

Llyfr cofnodion eglwysi Cymraeg Birkenhead

Mae'r ffeil yn cynnwys cofnodion gofalaeth eglwysi Salem, Birkenhead, a Wallasey, 1974-1981, gan gynnwys eglwysi Ellesmere Port, 1981; ynghyd â chofnodion gofalaeth y Glannau: eglwysi Salem, Stanley Road, Waterloo a Wallasey, 1984-1985.

Eglwys Bresbyteraidd Cymru Salem (Birkenhead, England)

'Spotlight on Wales in Birkenhead'

Mae'r gyfrol yn cynnwys toriadau o'r golofn 'Spotlight on Wales in Birkenhead' a luniwyd gan Walter Rees Jones ac a ymddangosodd yn y Birkenhead News rhwng Medi 1947 a Chwefror 1956. Ceir o fewn y gyfrol hefyd ychydig o dorion amrywiol eraill a nifer fechan o lythyrau at W. Rees Jones yn ystod yr un cyfnod.