Showing 17 results

Archival description
CMA: Cofysgrifau Eglwys Bethel, Dyserth
Print preview View:

Llyfr cyfrifon

Mae'r ffeil yn cynnwys manylion y derbyniadau a'r taliadau cyffredinol, 1908-1921, gan gynnwys treuliau yn ymwneud ag arian a gasglwyd tuag at anghenion milwyr y Rhyfel Byd Cyntaf.

Llyfr cofnodion

Mae'r ffeil yn cynnwys cofnodion, 1916-1949, am bwyllgorau'r eglwys, sefydlu gweinidogion, teyrngedau i aelodau a gweinidogion yr eglwys a gweithgareddau'r eglwys fel eisteddfod. Ceir rhaglenni Urdd y Bobl Ifanc, 1927-1935.

Cofrestr eglwysig

Mae'r ffeil yn cynnwys rhestri o'r cymunwyr yn rhan gyntaf y gyfrol gyda nodiadau am weithgareddau'r eglwys, 1900-1924, ac yn yr ail ran ceir rhestri o blant yr eglwys, 1902-1974, enwau eu rhieni, eu cartref a pryd y'u bedyddiwyd.

CMA: Cofysgrifau Eglwys Bethel, Dyserth

  • GB 0210 BETDYS
  • fonds
  • 1854-1974

Mae'r fonds yn cynnwys cofysgrifau gweinyddol ac ariannol Eglwys Bethel, Dyserth. Ceir yn eu plith llyfrau cyfrifon, 1854-1951, llyfrau casgliad y weinidogaeth, 1915-1967, cofrestri eglwysig, 1900-1974, llyfrau cofnodion, 1916-1966, a thaflenni ystadegol, 1952-1962.

Eglwys (MC) Bethel (Dyserth, Wales)