Showing 19 results

Archival description
CMA: Cofysgrifau Eglwys Engedi, Ffestiniog
Print preview View:

CMA: Cofysgrifau Eglwys Engedi, Ffestiniog

  • GB 0210 ENGFFE
  • fonds
  • 1881-1948

Mae'r fonds yn cynnwys cofysgrifau yn ymwneud â materion ariannol y capel, yr ochr weinyddol a'r Ysgol Sul. Ceir llyfr yr eisteddleoedd, 1881-1945, llyfrau casgliad y Weinidogaeth, 1881-1948, llyfrau aelodaeth yr eglwys, 1887-1948, llyfr y Trysorydd, 1888-1930, cofrestri'r Ysgol Sul, 1911-1946, a llyfr Ysgrifennydd yr Ysgol Sul, 1939-1948, yn eu plith.

Eglwys Engedi (Ffestiniog, Wales)

Cofnodion ariannol

Mae'r gyfres yn cynnwys llyfr yr eisteddleoedd, 1881-1945, llyfrau cyfraniadau at y Weinidogaeth, 1881-1948, llyfr cyfrifon, 1881-1948, llyfr y Trysorydd, 1888-1930, a llyfrau casgliad y ddyled, 1926-1948.

Cofrestr Eglwysig

Mae'r ffeil yn cynnwys enwau'r cymunwyr, 1887-1923, a'u cyfeiriadau, ynghyd ag unrhyw wybodaeth pellach ynglŷn â'u symudiadau. Yn ail adran y gyfrol ceir cofrestr o blant yr eglwys, 1889-1931, sy'n nodi eu rhieni a phryd y'u derbyniwyd yn aelodau.

Llyfr cyfrifon

Mae'r ffeil yn cynnwys manylion y derbyniadau a'r taliadau cyffredinol, 1881-1948, gan gynnwys casgliadau amrywiol ac adysgrif o daflen yn dangos treuliau atgyweirio Capel Peniel yn Ffestiniog ac adeiladu Engedi yn 1881.