Showing 9 results

Archival description
Papurau Ffowc Williams,
Print preview View:

Gohebiaeth a nodiadau,

Gohebiaeth gyffredinol, 1929-81, gan gynnwys llythyrau a chardiau oddi wrth y canlynol: W. Ambrose Bebb (1/27), Henry Brooke [y Barwn Brooke, Cumnor] (1/212, 1/216), Cassie Davies (1/88, 1/147), W.T. Pennar Davies (1/187), Ifan ab Owen Edwards (1/111), T. I. Ellis (1/101, 1/103-4, 1/113, 1/122-3, 1/133-4, 1/139), J. J. Evans (1/100, 1/117), D. Lloyd George (1/8), W. J. Gruffydd (1/95-6), W. T. Havard [Esgob Llanelwy] (1/124), I. D. Hooson (1/92), John Gwilym Jones (1/183), Thomas Jones [C.H.] (1/29), yr Athro E. A. Lewis (1/1), yr Athro Henry Lewis (1/196), John Edward Llovd (1/2-3), yr Arglwydd Morris, Borth-y-Cest (1/217), Iorwerth C. Peate (1/23, 1/176), Ben Bowen Thomas (1/172), Georse Thomas [A.S.] (1/207), D.J. Williams [Llanbedr] (1/105, 1/142), Jac L. Williams (1/151, 1/154, 1/158), Stephen J. Williams (1/146, 1/148, 1/156, 1/223), T .H. Parry-Williams (1/157), W.D. Williams [Abermo] (1/149, 1/168, 1/173, 1/177-9, 1/204), Harold Wilson (1/213). Nodiadau: pum llyfr nodiadau yn cynnwys nodiadau coleg, 1920-1, ar Addysg, Saesneg, a Seicoleg. Llyfrau nodiadau yn cynnwys darlithiau ar gyfer cyrsiau blwyddyn, o dan nawdd Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, mewn Seicoleg, 1931-3, 1938-40, a Hanes Addysg yng Nghymru, 1942, ynghyd â deunydd arall yn gysylltiedig â'r Gymdeithas, 1937-9. Nodiadau ar gyfer anerchiadau, sgyrsiau, etc., ar nifer o wahanol bynciau, ynghyd â darlithiau ac erthyglau gorffenedig.

Deunydd yn ymwneud ag Eglwys yr Annibynwyr, Deganwy Avenue, Llandudno, gan gynnwys Cofrestr Aelodaeth, 1938-42, ynghyd â llythyrau perthnasol; cofnodion ...,

Deunydd yn ymwneud ag Eglwys yr Annibynwyr, Deganwy Avenue, Llandudno, gan gynnwys Cofrestr Aelodaeth, 1938-42, ynghyd â llythyrau perthnasol; cofnodion cyfarfodydd diaconiaid ac ymddiriedolwyr, 1910-19, 1945, 1959; llythyrau a phlaniau ynglyn â phrynu'r organ, 1938-9, a'i glanhau, 1959; eitemau'n gysylltiedig â Chyfarfod Ymadawol y Parch. Llewelyn Williams, Llandudno, 6 Mai 1936; deunydd teipysgrif a phrintiedig yn ymwneud â Chyngor Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, 1960-4; llyfr casgliadau eglwys ddi-enw, 1865-7; ac eitemau amrywiol eraill. Deunydd ynglyn ag Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol Cymru Llandudno a'r Cylch, 1963, gan gynnwys deunydd yn gysylltiedig â'r ymweliad brenhinol. Ffeil yn cynnwys nodiadau, sgript radio (1954), torion papur ac eitemau eraill yn ymwneud â'r Athro W.J. Gruffydd. Nodiadau ar gyfer traethawd ymchwil Ffowc Williams 'The educational aims of pioneers in elementary Welsh education, 1730-1870' (MA Prifysgol Cymru, 1929), ynghyd â gohebiaeth berthnasol, 1925-8. Teipysgrif 'Hunangofiant' Ffowc Williams [79 tt.].

Y Gymanfa Ganu,

Deunydd yn ymwneud â Chymanfa Gerddorol Annibynwyr Sir Gaernarfon, 'Y Gymanfa Fawr', 1885-1978, gan gynnwys llyfrau cofnodion, 1885-1960; cyfrifon, 1921-39; cerddoriaeth wedi'i threfnu ar gyfer gwahanol offerynnau'r gerddorfa; ynghyd â gohebiaeth ac eitemau perthnasol eraill.

'Byd Natur', sgriptiau a phwyllgorau,

Pymtheg ar hugain o lyfrau nodiadau yn cynnwys nodiadau a sgriptiau drafft ar gyfer y gyfres radio 'Byd Natur: Seiat - Holi'r Naturiaethwyr', 1951-72, ynghyd â llythyrau, barddoniaeth, ac eitemau perthnasol eraill. Cwestiynau ar gyfer rhaglenni 'Byd Natur', 1952-7, 1972. Sgriptiau 'Byd Natur', 1956 a 1958. Amlen, ac arni'r geiriau 'Colledion Byd Natur', yn cynnwys deunydd ynglyn â marwolaeth tri aelod o banel y naturiaethwyr, sef Robert D. Parry, Amlwch, R.E. Vaughan-Roberts, a'r Dr. R. Alun Roberts. Sgriptiau radio a theledu, d.d. [? 1954], 1958, 1972, a sgript Pasiant Nadolig, 1955. Pwyllgorau: deunydd yn ymwneud â'r cynghorau a'r cymdeithasau lleol canlynol: Y.M.C.A., 1914-26; Clwb Cerdd Llandudno a'r Cylch, 1975-6; Cyngor Gwlad Gwynedd, 1976-7; Clwb Y Gogarth, 1978-9; a'r 'Probus Club of Llandudno', 1979.

Undeb Cymru Fydd ac Urdd Gobaith Cymru,

Deunydd yn ymwneud ag Undeb Cymru Fydd, yn arbennig Adrannau Llandudno a'r Cylch a Dyffryn Conwy, 1941-9, gan gynnwys gohebiaeth, cyfrifon, cofnodion cyfarfodydd, rhestri aelodau a chyfraniadau, etc. Calendrau U.C.F., 1949-65, ynghyd â gohebiaeth, 1945, ynglyn â chalendr 1946. Urdd Gobaith Cymru: deunydd yn ymwneud ag Aelwyd yr Urdd, Llandudno, gan gynnwys mantolenni, 1942-50; cofnodion, cyfrifon, etc., yn gysylltiedig â gwaith y Pwyllgor Cyllid, 1942-4; gohebiaeth a phapurau eraill, 1941-9, ynglyn â grantiau i'r Aelwyd; a biliau, derbynebau, etc., 1942-50.

Dogfennau Personol, deunydd printiedig a lluniau,

Llythyrau cymeradwyaeth, 1923 a 1927. Llythyr cais am swydd Prifathro Ysgol Ganol Llandudno, Hydref 1932. Dogfennau a phapurau'n gysylltiedig ag ymweliad â'r Cyfandir, 1954, ac â theithiau eraill. Dogfen, 4 Awst 1955, ynglyn â chyflenwad dwr ar gyfer Rhos Chwilog, Bethel, Llanddeiniolen. Deunydd printiedig: rhaglenni, taflenni, cardiau, etc., 1923-76. Rhaglenni Cymdeithas Gorawl Llandudno, 1942-68, a Chymdeithas Gorawl Bae Colwyn a'r Cylch, 1951 a 1964. Cylchgronau, pamffledi, etc., 1897-1975, a chopi o Len Howard, Birds as Individuals (Llundain, 1952), rhodd, 1972, gan un o wrandawyr cyson rhaglenni 'Byd Natur'. Sypyn o dorion papur. Lluniau: nifer fach o luniau pobl a golygfeydd, gan gynnwys llun yr Athro J. Glyn Davies, a lluniau'n gysylltiedig â Chapel yr Annibynwyr, Bethel, Llanddeiniolen.

Papurau Ffowc Williams,

  • GB 0210 FFLIAMS
  • fonds
  • 1865-1981 /

Papurau Ffowc Williams, Llandudno,1865-1981, yn cynnwys gohebiaeth, 1929-1981; nodiadau coleg, cwrs a darlithoedd Cymdeithas Addysg y Gweithwyr (WEA), 1920-1942; llyfrau nodiadau, sgriptiau a phapurau eraill yn ymwneud â'r gyfres radio 'Byd Natur', 1951-1972; papurau Undeb Cymru Fydd,1941-1965, yn bennaf papurau Adrannau Llandudno a'r Cylch a Dyffryn Conwy, 1941-1949; Urdd Gobaith Cymru, Llandudno, 1941-1950; cofnodion Eglwys yr Annibynwyr, Deganwy Avenue, Llandudno,1910-1958, a chofnodion eraill a deunydd printiedig, 1865-1964; nodiadau, 1925-1928, ar gyfer ei draethawd ymchwil M.A., (Prifysgol Cymru), 'The educational aims of pioneers in elementary Welsh education, 1730-1870'; papurau'r pwyllgor addysg, Cyngor Ysgolion a Chyd-bwyllgor Addysg Cymru, 1931-1978; cofnodion 'Y Gymanfa Fawr', 1885-1978; sgorau cerddorol a phapurau pwyllgor cyd-enwadol cerddoriaeth eglwysig, 1955-1977; papurau personol a chofnodion cymdeithasau lleol,1914-1979; deunydd printiedig,1897-1976; a lluniau, [20fed ganrif]. = Papers of Ffowc Williams of Llandudno, 1865-1981, including correspondence, 1929-1981; college, WEA course and lectures notes, 1920-1942; notebooks, scripts and other papers relating to the radio series 'Byd Natur', 1951-1972; Undeb Cymru Fydd papers, 1941-1965, mainly Adrannau Llandudno a'r Cylch a Dyffryn Conwy, 1941-1949; Urdd Gobaith Cymru, Llandudno, papers, 1941-1950; records of Eglwys yr Annibynnwyr, Deganwy Avenue, Llandudno, 1910-1958, and other records and printed materials, 1865-1964; research notes for his M. A. thesis 'The educational aims of pioneers in elementary Welsh education, 1730-1870' (University of Wales), 1925-1928; education committee, Schools Council and Welsh Joint Education Committee papers, 1931-1978; records of 'Y Gymanfa Fawr', 1885-1978; musical scores and inter-denominational church music committee papers, 1955-1977; personal papers and records of local societies, 1914-1979; printed materials, 1897-1976; and photographs, [20th century].

Williams, Ffowc, of Llandudno.

Addysg,

Deunydd yn ymwneud ag addysg gynradd ac uwchradd yng Nghymru, ac yn arbennig yn Sir Gaernarfon, 1931-77, gan gynnwys deunydd, 1976, ynglyn ag ad-drefnu addysg gynradd ac uwchradd yng nghylchoedd Llandudno a Chonwy, a deunydd, 1970-7, yn ymwneud â'r Coleg Normal, Bangor. Wyth ffeil yn cynnwys adroddiadau, cofnodion, llythyrau, ac eitemau eraill yn gysylltiedig â gwalth gwahanol bwyllgorau Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru, 1967-78. Ffeil yn cynnwys adroddiadau gwahanol is-bwyllgorau Pwyllgor Cymru'r Cyngor Ysgolion, 1969-74. Dwy ffeil yn cynnwys gohebiaeth, cofnodion, lluniau, ac eitemau eraill, 1974-8, yn ymwneud â Chanolfan Rhyd-ddu, Gwynedd.

Cerddoriaeth a barddoniaeth,

Deunydd yn gysylltiedig â gwaith Pwyllgor Cyd-Enwadol Caniadaeth Y Cysegr, 1955-9, gan gynnwys gohebiaeth, cofnodion, etc. Ymhlith y gohebwyr gellir nodi Gwynfor Evans, Llangadog, John Hughes, Dolgellau, Haydn Morris, Llanelli, a Syr David Hughes-Parry. Gohebiaeth, adroddiadau, cofnodion, etc., 1973-7, yn berthnasol i waith Is-Bwyllgor Golygyddol Caniedydd Yr Ifanc (Abertawe, 1980). Cerddoriaeth brintiedig a llawysgrif, gan gynnwys copau printiedig o nifer o weithiau corawl Handel a chopi llawysgrif o 'Pan Oeddwn Fachgen' gan Robert Smith, gwaith a gomisiynwyd ar gyfer Gwyl Môn, 1962. Rhestri, cynllun llwyfan ac eitemau eraill yn gysylltiedig â Chymdeithas Gorawl Llandudno ac â cherddoriaeth yn gyffredinol. Llyfr cerddoriaeth o eiddo 'Mr. Foulk Williams, Blaen Y Rhos, Bethel, Llanddeiniolen'. Barddoniaeth: copau llawysgrif o gerddi o waith gwahanol awduron, gan gynnwys cerddi coffa i R. Williams Parry.