Showing 11 results

Archival description
Papurau Lily a Herbert Protheroe Richards, Caerffili,
Print preview View:

Papurau, 1963, yn ymwneud â dathlu pen-blwydd Aelwyd yr Urdd Caerffili yn un-ar-hugain, gan gynnwys cyfarchion oddi wrth Jac L ...,

Papurau, 1963, yn ymwneud â dathlu pen-blwydd Aelwyd yr Urdd Caerffili yn un-ar-hugain, gan gynnwys cyfarchion oddi wrth Jac L. Williams ar yr achlysur (yn yr Aelwyd y cyfarfu â'i wraig); ynghyd â rhaglenni gweithgareddau'r Aelwyd, 1943-56, a mudiadau eraill fel Adran Caerffili o Undeb Cymru Fydd, 1959-6 (H. P. Richards oedd y trysorydd); cymdeithas fwyngloddio myfyrwyr Caint, 1938-9 (ef oedd yr ysgrifennydd a'r trysorydd anrhydeddus); a cherdyn aelodaeth anrhydeddus H. P. Richards, 1948-9, o Aelwyd Aberpennar pan draddodwyd anerchiad ganddo ar lywodraeth leol.

Papurau Lily a Herbert Protheroe Richards, Caerffili,

  • GB 0210 LILHERB
  • fonds
  • 1929-1981 /

Papurau, 1942-1981, yn ymwneud ag Aelwyd yr Urdd, Caerffili, yn cynnwys cofnodion, 1942-1948, a phapurau, 1963, yn ymwneud â dathlu pen blwydd Aelwyd Caerffili yn un-ar-hugain; a phapurau amrywiol,1929-1952. = Papers, 1942-1981, relating to Aelwyd yr Urdd, Caerphilly, including minutes, 1942-1948, and papers, 1963, relating to the celebrations held to mark the twenty-first anniversary of the aelwyd at Caerphilly; and miscellaneous papers, 1929-1952.

Richards, Lily, 1923-1998.

Papurau amrywiol gan gynnwys rhestr, 1929-52, o'r siaradwyr yng nghyfarfodydd Urdd y Brifysgol yn yr Eisteddfod Genedlaethol; llyfryn Brethyn Cymru ...,

Papurau amrywiol gan gynnwys rhestr, 1929-52, o'r siaradwyr yng nghyfarfodydd Urdd y Brifysgol yn yr Eisteddfod Genedlaethol; llyfryn Brethyn Cymru, sef rhestr, 1948, o ffatrïoedd oedd yn cynhyrchu brethyn yng Nghymru a luniwyd gan Bryn John a H. P. Richards, a llythyr, 1950, yn ymwneud ag allforio nwyddau o felinau gwlân Cymru i'r Amerig; ynghyd â llythyrau, 1946-50, yn trafod gwerthu'r defnydd yn Chicago; a phrydles, Gorffennaf 1963, yn ymwneud â phrynu llain o dir yng Nghlywedog, Llanidloes, er mwyn ei arbed rhag ei droi'n Gronfa Ddr, ynghyd â chylchlythyr oddi wrth Elwyn Roberts ar ran Plaid Cymru.