Showing 2 results

Archival description
Papurau Ymgyrch Ysgol Gymraeg Penmaenmawr,
Print preview View:

Papurau Pwyllgor Ymgyrch Ysgol Gynradd Gymraeg Penmaen-mawr, yn ddiweddarach Cymdeithas Rhieni a Chyfeillion Ysgol Gymraeg Penmaen-mawr,

Y mae'r papurau'n ymwneud â sefydlu ysgol feithrin Gymraeg ym Mhenmaen-mawr yn 1965 a'r ymgyrch aflwyddiannus i sicrhau ysgol gynradd Gymraeg yno. Yn eu plith ceir cofnodion, 1964-1968; copi o gyfansoddiad y gymdeithas; gohebiaeth gyffredinol, 1964-1967 (gan gynnwys llythyrau oddi wrth Dr Kate Roberts a Ffowc Williams, Llandudno); a gohebiaeth gyda Phwyllgor Addysg Sir Gaernarfon, 1964-1967, (llythyrau oddi wrth Mansel Williams, y cyfarwyddwr addysg, ac Eluned Ellis Jones, arolygydd ysgolion cynradd y sir), Undeb Rhieni Ysgolion Cymraeg, 1964-1966 (gan gynnwys llythyrau oddi wrth Cassie Davies), Pwyllgor Cyd-enwadol yr Iaith Gymraeg ac Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru, 1964-1966, ac aelodau seneddol, 1964-1965 (llythyrau oddi wrth Denis Howells, Goronwy Roberts a Peter Thomas).

Papurau Ymgyrch Ysgol Gymraeg Penmaenmawr,

  • GB 0210 YSGOLPEN
  • fonds
  • 1964-1968 /

Papurau Pwyllgor Ymgyrch Ysgol Gynradd Gymraeg Penmaen-mawr,1964-1968, yn ymwneud â sefydlu ysgol feithrin Gymraeg a'r ymgyrch dros ysgol gynradd Gymraeg, yn cynnwys cofnodion,1964-1968, copi o'r cyfansoddiad, gohebiaeth gyffredinol,1964-1967, a gohebiaeth gyda'r awdurdod lleol, sefydliadau rhieni ac athrawon Cymru, ac Aelodau Seneddol, 1964-1967 = Papers of the Penmaenmawr Welsh Primary School Campaign Committee, 1964-1968, relating to the establishment of a Welsh nursery school and the campaign for a Welsh primary school, comprising minutes, 1964-1968, a copy of the constitution, general correspondence, 1964-1967, and correspondence with the local authority, Welsh parents' and teachers' organisations, and Members of Parliament, 1964-1967.

Ymgyrch Ysgol Gynradd Gymraeg Penmaenmawr.