Adroddiadau Sefydliadau Allanol
- C3
- Cyfres = Series
- 2007
Adroddiadau a strategaethau cyhoeddedig gan gyrff allanol - megis Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chyngor Ewrop – sy’n cefnogi darparu addysg trwy gyfrwng ieithoedd lleiafrifol.
Adroddiadau Sefydliadau Allanol
Adroddiadau a strategaethau cyhoeddedig gan gyrff allanol - megis Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chyngor Ewrop – sy’n cefnogi darparu addysg trwy gyfrwng ieithoedd lleiafrifol.
Grŵp Llywio y Cynllun Noddi a Datblygu Myfyrwyr Cymraeg
Deunydd sy'n ymwneud â gwaith y grŵp, a grëwyd i gyfrannu at weledigaeth o Gymru ddwyieithog drwy gynllun ymarferol i noddi a datblygu myfyrwyr Cymraeg, gan ddatblygu partneriaeth gref rhwng cyrff amgylcheddol a'r sector addysg ôl 16. Mae'r deunydd yn cynnwys agendâu a chofnodion cyfarfodydd, nod ac amcanion drafft y grŵp, a phapurau cysylltiedig.
Grŵp Sector Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg
Papurau sy'n ymwneud â gwaith y Grŵp gan gynnwys agenda, cofnodion, adroddiadau, strategaethau a phapurau eraill.
Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Gweithgor Iaith Gymraeg y Sector Amgylcheddol
Gofnodion sy'n ymwneud â gwaith y Grŵp, a grëwyd i ddatblygu a gweithredu partneriaeth gref rhwng cyrff amgylcheddol a'i gilydd a phartneriaid eraill er mwyn hybu a datblygu defnydd y Gymraeg mewn modd strategol a chydlynol o fewn y sector amgylcheddol yng Nghymru. Mae'r cofnodion yn cynnwys strwythur, nod ac amcanion y gweithgor; papurau trafod cysylltiedig.
Papurau yn ymwneud â'r e-gyfnodolyn academaidd Gwerddon, yn arbennig cofnodion y panel golygyddol.
Is-grŵp E-ddysgu a Dysgu Cyfunol
Gofnodion y Grŵp, a grëwyd i gynorthwyo Grŵp Sector Addysg Uwch (AU) Cyfrwng Cymraeg a'r sector i ddelio â materion sy'n ymwneud âg E-ddysgu a Dysgu Cyfunol. Mae prif amcanion y grŵp yn cynnwys pennu cyfeiriad ar gyfer datblygiad darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y cyd-destun hwn, creu strwythur sector-cyfan ar gyfer rhannu arbenigedd ac arfer da, ac i baratoi adroddiad (gyda phartneriaid eraill) ar y defnydd o dechnegau E ddysgu a Dysgu cyfunol mewn perthynas â dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Agendâu, cofnodion a phapurau cysylltiedig.
Is-grŵp Hyfforddiant a Datblygu Staff
Gofnodion y Grŵp, a grëwyd i gynorthwyo Grŵp Sector Addysg Uwch (AU) Cyfrwng Cymraeg a'r sector i ddelio â materion sy'n ymwneud â hyfforddiant a datblygiad staff. Papurau cyfarfod yn bennaf sy'n cynnwys agandâu, cofnodion a phapurau trafod cysylltiedig.
Is-grŵp Marchnata, Dilyniant ac Ysgogi Galw
Deunydd sy'n ymwneud â gwaith y grŵp, a grëwyd i farchnata a'r hyrwyddo'r defnydd o'r iaith Gymraeg mewn addysg uwch. Mae'r ffeil yn cynnwys hefyd cofnodion, 2004-2006, Is-grŵp Marchnata a Dilyniant a oedd yn rhan o'r Grŵp Llywio Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg. Mae papurau yn cynnwys agendâu, cofnodion ac adroddiadau.
Deunydd yn ymwneud â 'Mantais', ymgyrch farchnata fawr i hyrwyddo addysg uwch cyfrwng Cymraeg yng Nghymru i addysgwyr a myfyrwyr. Mae’r deunydd yn cynnwys gohebiaeth, papurau ac adroddiadau'r gweithgor, adroddiadau a strategaethau gan y sector addysg yng Nghymru, print marchnata a phapurau yn ymwneud â digwyddiadau a chynadleddau.