Showing 18 results

Archival description
Papurau Mudiad a Chwmni Adfer
Print preview View:

Papurau Mudiad a Chwmni Adfer

  • GB 0210 ADFER
  • Fonds
  • 1971-2012

Papurau Mudiad a Chwmni Adfer, 1971-2012, yn ymwneud â gweinyddu'r cwmni, gosod tai, ymgyrchoedd y mudiad, ynghyd â gohebiaeth a phapurau ariannol.

Adfer.

Twristiaeth, gwaith a datblygu

Papurau, 1981-1988, gan gynnwys gohebiaeth, polisïau twristiaeth y mudiad a llythyr oddi wrth R. S. Thomas a phapurau'n ymwneud â phynciau fel Marina'r Penrhyn, Gwersyll Glyn Rhonwy a Chanolfan Wyliau yn Llanllechid.

Cau Cwmni Adfer Cyf.

Tystysgrifau stoc Adfer, 1971-1973, ynghyd â bonion, derbynebau, 1971-1972, cyfrifon, llythyrau cyfreithiol, 2000-2002, yn ymwneud ag ymddatod y cwmni.

Gohebiaethau

Gohebiaeth, [1971]-2002, yn cynnwys llythyrau o'r cyfnod cynnar, ymholiadau am hanes y mudiad a llythyrau oddi wrth aelodau o Gymdeithas yr Iaith.

Deunydd hyrwyddo

Papurau, [1975]-1985, gan gynnwys datganiadau i'r wasg ac enghreifftiau o daflenni a chardiau aelodaeth a gynhyrchwyd gan y mudiad, ynghyd â chyhoeddiad gan y mudiad, Marina - twristiaeth a'r fro Gymraeg.

Y gadeiryddiaeth

Papurau, 1975-2001, gan gynnwys cyfansoddiad y mudiad, cofnodion y Cyngor Cenedlaethol, datganiadau i'r wasg a gohebiaeth Howard Huws fel cadeirydd y mudiad.