Showing 17 results

Archival description
Papurau T. Glynne Davies File
Print preview View:

Torion

Torion yn ymwneud â’i lwyddiannau llenyddol, yn arbennig ennill y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst yn 1951; adolygiadau o’i nofel Marged; ei erthyglau i’r Western Mail; a theyrngedau iddo.

Llongyfarchiadau, 1951

Llythyrau a thelegramau'n ei longyfarch ar ennill y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst, 1951, ynghyd â'r dystysgrif a dderbyniodd oddi wrth Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol.

Sgriptiau radio

Sgriptiau rhaglenni radio, 1957-1988, yn y cyfresi 'Ddoe yn ôl', 'Tasa' ac ' Ar fynd' (cyfres am jazz); ‘Fy nghydymaith fy hun’, 1957; rhaglen nodwedd ar Sir Drefaldwyn, 1957; Wales Today, 1967, a rhaglen nodwedd ar David Lloyd’, ynghyd â sgriptiau 'Dathlu'r trigain', i ddathlu darlledu yn Gymraeg yn 1983 a syniadau am sgriptiau, 1979-80.

Papurau amrywiol

Papurau amrywiol, gan gynnwys ei ddogfen awdurdodi adeg Yr Arwisgo, 1969, fel newyddiadurwr i’r BBC; rhaglenni cymdeithasau y bu’n eu hannerch am farddoni yn 1957, a Chymdeithas Gymreig Sir Gaerloyw, 1982; ynghyd â thaflen ei angladd ar 14 Ebrill 1988; llythyrau cydymdeimlad i'w deulu; sgript (camera) ‘T. Glynne Davies’ sef teyrnged Vaughan Hughes iddo; llythyr, 1990, [at ei weddw], yn ymwneud â sefydlu Ysgoloriaeth Newyddiaduraeth T. Glynne Davies ym Mhrifysgol Caerdydd; sgript 'Teyrnged T. Glynne' gydag aelodau o'r teulu yn cymryd rhan; a llungopi o erthygl amdano 'From reporter to bard', Cambrian News, 2010 .

Hedydd yn yr haul

Rhan o'r sgript radio (comisiwn, 1965) a newidiwyd pan gafodd ei chyhoeddi yn 1969, ynghyd â throsiad i'r Saesneg: 'The gander and the lark’ (poem for voices and music), addasiad T. Glynne Davies, 1970, o ddetholiad o’i gerdd ‘Hedydd yn yr haul’. Fe’i defnyddiwyd gan ei fab Gareth Glyn ar gyfer gosodiad cerddorol, 1971, tra’n astudio cerddoriaeth yng Ngholeg Merton, Rhydychen.

Sgriptiau dramâu radio

Sgriptiau 'Tro byd' (fersiwn radio gwreiddiol); 'Y ddawns'; 'Miriam. Alegori radio', drama anorffenedig, 1950, gyda nodyn ganddo, 1986; 'Pan euthum yn ŵr', 1957; 'Tachwedd o fyd', 1966 a 'Now in November'.