Print preview Close

Showing 42 results

Archival description
Papurau T. Glynne Davies
Print preview View:

Cerddi

Cyfrol o gerddi yn ei law, ynghyd â cherddi teipysgrif yn rhydd yn y gyfrol. Nodir lle cyfansoddwyd y cerddi, nifer ohonynt ym Machynlleth a hefyd os cawsant eu cyhoeddi, yn Y Faner yn bennaf.

Marged

Copi printiedig o'i nofel a gyhoedwyd yn 1974 gyda nodiadau a chywiriadau ganddo, ynghyd â drafftiau a chyfieithiad anghyflawn i'r Saesneg, 1977.

Llythyrau, 1941-[1971]

Llythyrau a phapurau'n ymwneud â'i yrfa, ynghyd â llythyr o Malta, 1948, yn nodi iddo fynychu cyfres o ddarlithiau ar Gemeg Organig yn y Brifysgol yn Valletta a'i gerdyn adnabyddiaeth fel gohebyddd i'r BBC, [1971].

Ffotograffau

Ymhlith y ffotograffau mae un o David Lloyd wedi’i lofnodi ganddo yn 1963, T. Glynne Davies ac Alan Llwyd yn Eisteddfod Genedlaethol [Machynlleth 1981] a gyda Mary Hopkin ac eraill yng ngwesty’r Savoy, [Llundain].

Caneuon cynnar

Cyfrol o gerddi, 1945 -1949, yn ei law. Nodir lle cyfansoddwyd y cerddi, nifer ohonynt yn Valetta, Malta, a hefyd os cawsant eu cyhoeddi, yn Y Faner yn bennaf.

Sgriptiau radio

Sgriptiau rhaglenni radio, 1957-1988, yn y cyfresi 'Ddoe yn ôl', 'Tasa' ac ' Ar fynd' (cyfres am jazz); ‘Fy nghydymaith fy hun’, 1957; rhaglen nodwedd ar Sir Drefaldwyn, 1957; Wales Today, 1967, a rhaglen nodwedd ar David Lloyd’, ynghyd â sgriptiau 'Dathlu'r trigain', i ddathlu darlledu yn Gymraeg yn 1983 a syniadau am sgriptiau, 1979-80.

Papurau T. Glynne Davies

  • GB 0210 TGLYVES
  • Fonds
  • [1822]-2010 (gyda bylchau)

Papurau T. Glynne Davies, [1822]-2010 (gyda bylchau), yn cynnwys gohebiaeth; dyddiaduron; drafftiau cynnar o’i bryddest fuddugol ‘Adfeilion’ y dyfarnwyd iddo’r goron yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst yn 1951; cyfrol o’i gerddi cynnar; cynllun o’i nofel Marged (Llandysul, 1974) a chopi gyda nodiadau a chywiriadau yn ei law; a sgriptiau dramâu a rhaglenni radio. = Papers of T. Glynne Davies, [1822]-2010 (with gaps), including correspondence; diaries; early drafts of his winning poem ‘Adfeilion’ (Ruins) which was awarded the crown at the National Eisteddfod at Llanrwst in 1951; a volume of his early poems; an outline of his novel Marged (Llandysul, 1974) and a copy with notes and revisions in his hand; and drama and radio scripts.

Davies, T. Glynne (Thomas Glynne)

Papurau amrywiol

Papurau amrywiol, gan gynnwys ei ddogfen awdurdodi adeg Yr Arwisgo, 1969, fel newyddiadurwr i’r BBC; rhaglenni cymdeithasau y bu’n eu hannerch am farddoni yn 1957, a Chymdeithas Gymreig Sir Gaerloyw, 1982; ynghyd â thaflen ei angladd ar 14 Ebrill 1988; llythyrau cydymdeimlad i'w deulu; sgript (camera) ‘T. Glynne Davies’ sef teyrnged Vaughan Hughes iddo; llythyr, 1990, [at ei weddw], yn ymwneud â sefydlu Ysgoloriaeth Newyddiaduraeth T. Glynne Davies ym Mhrifysgol Caerdydd; sgript 'Teyrnged T. Glynne' gydag aelodau o'r teulu yn cymryd rhan; a llungopi o erthygl amdano 'From reporter to bard', Cambrian News, 2010 .

Cerddi, 1946-1986

Cerddi gan gynnwys 'Ruins', cyfieithiad ganddo o'i bryddest 'Adfeilion' a thorion o gerddi a gyhoeddwyd yn y wasg a sylwadau amdanynt.

Hedydd yn yr haul

Rhan o'r sgript radio (comisiwn, 1965) a newidiwyd pan gafodd ei chyhoeddi yn 1969, ynghyd â throsiad i'r Saesneg: 'The gander and the lark’ (poem for voices and music), addasiad T. Glynne Davies, 1970, o ddetholiad o’i gerdd ‘Hedydd yn yr haul’. Fe’i defnyddiwyd gan ei fab Gareth Glyn ar gyfer gosodiad cerddorol, 1971, tra’n astudio cerddoriaeth yng Ngholeg Merton, Rhydychen.

Wynebau

Copi o bryddest anfuddugol Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth, 1981, ynghyd â nodiadau'r awdur i Barddas, 1981, a'i fersiwn newydd, 1986, ar gyfer y Cerddi.

Rhyddiaith

Sgriptiau dramâu, sgriptiau ar gyfer rhaglenni radio a phapurau'n ymwneud â'i nofel Marged.

Results 21 to 40 of 42