Dangos 134 canlyniad

Disgrifiad archifol
Archif Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cyfres / Series
Rhagolwg argraffu Gweld:

Pwyllgor Ymchwilio i’r heintiad E.coli yng Nghymru (A-DEB-45),

Ffeiliau Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor. Gall y ffeiliau hyn yn cynnwys yr agenda ar gyfer y cyfarfodydd, cofnodion, adroddiadau, gohebiaeth, gwahoddiadau a mynychwyr, ac eitemau printiedig.
Cylch gorchwyl y Pwyllogr oedd trafod telerau ac amodau ar gyfer ymchwiliad to Io dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005 ac adrodd ar ei gasgliadau i’r Cynulliad Cenedlaethol erbyn 7 Rhagfyr 2005.

Pwyllgor ar y Papur Gwyn - Trefn Lywodraethu Well i Gymru (A-DEB-43),

Ffeiliau Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor. Gall y ffeiliau hyn yn cynnwys yr agenda ar gyfer y cyfarfodydd, cofnodion, adroddiadau, gohebiaeth, gwahoddiadau a mynychwyr, ac eitemau printiedig. Cyhoeddwyd y Papur Gwyn ar ddyfodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trefn Lywodraethu Well i Gymru) ar 15 Mehefin 2005. Mae'n cynnig newidiadau i strwythur y Cynulliad, ei bwerau deddfwriaethol a'i drefniadau etholiadol. Cylch gorchwyl y Pwyllgor yw ystyried y cynigion a nodwyd yn y Papur Gwyn i’r graddau eu bod yn berthnasol i strwythur newydd arfaethedig y Cynulliad a’i bwerau deddfwriaethol arfaethedig; Cymryd tystiolaeth gan sefydliadau ac unigolion sydd â diddordeb uniongyrchol yn strwythur newydd arfaethedig y Cynulliad a’i bwerau deddfwriaethol arfaethedig.

Pwyllgor Rhanbarth y Canolbarth a'r Gorllewin. (A-DEB-03),

Ffeiliau Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor. Gall y ffeiliau hyn cynnwys yr agenda ar gyfer y cyfarfodydd, cofnodion, adroddiadau, dogfennau print a gohebiaeth.
Roedd Rhanbarth y Canolbarth a'r Gorllewin yn cwmpasu Brycheiniog a Sir Faesyfed; Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr; Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro; Ceredigion; Llanelli; Meirionnydd Nant Conwy; Sir Drefaldwyn; a Phreseli Sir Benfro. Swyddogaeth y pwyllgor rhanbarth oedd rhoi cyngor i'r Cynulliad ar faterion oedd yn effeithio ar y rhanbarth; effaith polisïau'r Cynulliad yn y rhanbarth; gwaith cyrff cyhoeddus yn y rhanbarthau.

Pwyllgor Rhanbarth y Gogledd (A-DEB-04),

Ffeiliau Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor. Gall y ffeiliau hyn cynnwys yr agenda ar gyfer y cyfarfodydd, cofnodion, adroddiadau, dogfennau print a gohebiaeth.
Roedd Rhanbarth y Gogledd yn cynnwys ardaloedd Alun, Glannau Dyfrdwy, Caernarfon, Dyffryn Clwyd, Gorllewin Clwyd, De Clwyd, Conwy, Delyn, Wrecsam ac Ynys Môn. Swyddogaeth y pwyllgor rhanbarth oedd rhoi cyngor i'r Cynulliad ar faterion oedd yn effeithio ar y rhanbarth; effaith polisïau'r Cynulliad yn y rhanbarth; gwaith cyrff cyhoeddus yn y rhanbarthau.

Canlyniadau 1 i 20 o 134