Showing 34 results

Archival description
Archif Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Rhanbarth Morgannwg Gwent File Welsh
Print preview View:

Teithio a Thrafnidiaeth

Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, nodiadau, a phapurau, 1989-1999, yn ymwneud â pholisïau iaith cwmnïau a gwasanaethau trafnidiaeth amrywiol. Mae’r rhan fwyaf o’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth a nodiadau yn trafod polisi iaith Maes Awyr Caerdydd, yn cynnwys llythyrau oddi wrth sawl Aelod Seneddol Cymraeg; Aelodau Seneddol Ewropeaidd; Yr Arglwydd Prys-Davies; y cwmni TBI Airport Holdings; a gohebiaeth ar y mater yn gysylltiedig â’r papur Cymraeg Americanaidd, Ninnau. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys gohebiaeth a datganiadau i’r wasg yn ymwneud â pholisïau iaith sawl cwmni trafnidiaeth.

Asiantwyr Tai a Chyfrifwyr Siartredig

Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth a nodiadau, 1989-1999, oddi wrth Gymdeithas yr Iaith a’i Grŵp Diwylliant; llyfrgelloedd Caerdydd; asiantwyr tai; a chyfrifwyr siartredig, yn ymwneud â statws yr iaith Gymraeg yng Nghaerdydd. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys rhaglennu radio a cherddoriaeth; datganiad i’r wasg; copi o’r Llawlyfr Deddf Eiddo; a nifer o ffotograffau.

Office World; Richer Sounds; Safeway; Sainsburys; H. Samuel; Tesco; Specsavers; Superdrug; Sport & Soccer

Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1989-2001, oddi wrth Gymdeithas yr Iaith yn trafod gweithredu polisi iaith Gymraeg mewn nifer o siopau lleol ac archfarchnadoedd. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys datganiadau i’r wasg (1993-1996); cofnodion cyfarfodydd (1990-1991); a nifer fach o daflenni.

Colegau

Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1988-1997, yn trafod polisïau iaith Gymraeg o fewn sefydliadau addysgol yng Nghaerdydd. Mae’n cynnwys gohebiaeth rhwng Cymdeithas yr Iaith a'r Swyddfa Gymraeg; y Gymdeithas Myfyrwyr De-ddwyrain Cymru; Coleg Cerdd a Drama Cymru; Coleg Glan Hafren; Coleg Castell Nedd; a Phrifysgol Morgannwg. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys copi o’r Cynllun Iaith Gymraeg (1997) Cyngor Hyfforddi a Menter Morgannwg Canol; copi o adroddiad interim ‘Cwricwlwm Cenedlaethol Y Gweithgor Cymraeg’ (1988); datganiad i’r wasg (1989); a chopi o Gynllun Strategol y Coleg Cerdd a Drama Cymru (1990).

Results 1 to 20 of 34