Cynllun safle pensaernïol Nant Gwrtheyrn
- E/2
- File
- [?1985]x[?1995]
Cynllun pensaernïol bras o'r safle pentref Nant Gwrtheyrn, [?1985]x[?1995].
Nant Gwrtheyrn Welsh Language and Heritage Centre
Cynllun safle pensaernïol Nant Gwrtheyrn
Cynllun pensaernïol bras o'r safle pentref Nant Gwrtheyrn, [?1985]x[?1995].
Nant Gwrtheyrn Welsh Language and Heritage Centre
Gwaith celf 'Ymweliad â Nant Gwrtheyrn'
Gwaith celf plant Ysgol Parc y Bont, Llanedwen, 'Ymweliad â Nant Gwrtheyrn' (1987).
Nant Gwrtheyrn Welsh Language and Heritage Centre
Gohebiaeth a phapurau, 1986-1992, yn ymwneud â phrynu a gwerthu Plas Pistyll ac ymgyfreitha cysylltiedig, (1989-1992); statws yr Ymddiriedolaeth (1986-1992); y Bwrdd Datblygu Cymru (1989-1991); ac awdurdodau lleol (1988-1990). Yn ogystal, ceir copi o’r ‘Welsh for Adults National Register’ (1990); a nifer o daflenni yn hysbysebu’r Nant (1985 - 2015).
Gohebiaeth, papurau ac adroddiadau, yn ymwneud â phrynu a gwerthu Plas Pistyll (1985-1995); ac achos llys HTV (1995). Yn ogystal, ceir taflenni yn hysbysebu sefydliad y Canolfan Ewropeaidd (1989), a Gŵyl Gwrtheyrn (1988); a phrint lliw o’r Nant ([?1989]).
Gohebiaeth a papurau,1987-1988, yn ymwneud a threfnu Gwŷl y Nant; papurau a gohebiaeth yn ymwneud â phrynu a gwerthu Plas Pistyll, 1991-1993, yn cynnwys ymatebion Kynric Lewis (1992), a datganiadau aelodau’r Ymddiriedolaeth (1992-1993); a chofnodion cyfarfodydd yr Ymddiriedolwyr (1983-1987 a 1990-1992).
Gwerthiant Plas Pistyll; anfonebau; holiaduron; nawdd; EWROSGOL; taflenni gwaith staff
Mae’r rhan fwyaf o’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth a phapurau, 1990-1993, yn ymwneud â gwerthu Plas Pistyll, ac anfonebau (1986-1989). Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys holiaduron (1993), a cheisiadau am gyrsiau (1982-1988); gohebiaeth yn ymwneud â nawdd a grantiau (1982-1991); cofnodion cyfarfodydd yr Ymddiriedolwyr (1980-1981; 1986; 1990-1991); taflenni amser staff (1981; 1988-1991); a dogfennaeth ‘Ewrosgol’ (1990).
Pryniant Plas Pistyll a'r datblygiad arfaethedig; achos llys HTV, a phapurau Kynric Lewis
Papurau a gohebiaeth, yn ymwneud â phrynu a datblygu Plas Pistyll, a’r ymgyfreitha cysylltiedig (1980-1992); ac achos lys HTV a phapurau Kynric Lewis (1992-1995).
Gohebiaeth a phapurau, 1984-1995, yn ymwneud â phrynu a gwerthu Plas Pistyll, ac achos lys HTV (1989-1995); mae’r ffeil hefyd yn cynnwys cynlluniau busnes (1991); anfonebau (1989-1992); atodiadau achos llys (1989-1992); a chofnodion cyfarfodydd yr Ymddiriedolaeth, (1980-1988).
Pryniant a sêl Plas Pistyll, yr achos llys HTV, a’r ymgyfreitha cysylltiedig
Gohebiaeth a phapurau, yn ymwneud a phryniant a sêl Plas Pistyll, yr achos llys, a'r ymgyfreitha cysylltiedig, 1989 - 1995, yn cynnwys cofnodion y bwrdd ymddiriedolwyr a phwyllgor staff (1980-1992); a chopïau o Gweithred Ymddiriedaeth (1983), Datganiad yr Ymddiriedolaeth (1984), a Trawsgludiad Plas Pistyll (1989).
Prynu Plas Pistyll; achos llys HTV, yn cynnwys datganiadau tyst a'r manylion achos
Gohebiaeth a phapurau, 1978-1995, yn ymwneud â phrynu Plas Pistyll a’r achos enllib yn erbyn HTV, yn cynnwys copïau o ddatganiadau cyfrif (1989-1992); copi o drawsgludiad Plas Pistyll (1989); datganiadau tyst (1995); manylion achos (1989-1995); manylion achos a’r canlyniad (1992-1995); a dogfennaeth yn ymwneud â phrynu Plas Pistyll, y trawsgludiad, a’r Cynllun Busnes (1978-1992).
Papurau a gohebiaeth, 1989-1993, yn ymwneud â datblygu Plas Pistyll, yn cynnwys cynllun costau gwaith (1989-1993), a cheisiadau ariannol (1989-1990); tendrau gwaith (1990); cynlluniau busnes (1989-1991); a chynlluniau pensaernïol (1990).
Gohebiaeth a chofnodion cyfarfod yn trafod gwerthu Plas Pistyll, 1987-1992, yn cynnwys trafod datblygu Plas Pistyll (1989); Cynlluniau Busnes Plas Pistyll, (1989-1991); cynlluniau adeilad a disgrifiad sêl (1989); cynnig adnewyddu (1989); cofnodion y Gyfarfod Gweithgor Plas Pistyll (1990); materion ariannol (1991-1992); codi arian (1990-1993); copi Adroddiad Nant Gwrtheyrn Plas Pistyll (1987-1992), ac ymgyfreitha cysylltiedig. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys gohebiaeth a phapurau yn ymwneud â’r achos HTV (1992-1995).
Achos llys HTV, yn cynnwys datgeliadau i'r llys
Papurau gweinyddol, gohebiaeth, a chofnodion cyfarfod, 1978-1979 a 1989-1992, yn ymwneud ag achos llys Plas Pistyll ac ymgyfreitha cysylltiedig. Mae’r ffeil yn cynnwys cyfieithiad o ddatgeliadau, yn cynnwys gohebiaeth a phapurau (1989-1992), yn ymwneud â’r ymddiriedolaeth, datblygu Plas Pistyll, costau, cynllun busnes, cyfweliadau, copïau o’r tystysgrifau cofrestru morgais, copi o’r sgript rhaglen ‘Y Byd ar Bedwar’ (1992) a chofnodion cyfarfod, manylion costau a chredwyr; bwndl wedi’i labelu ‘File/Bundle 2’, yn cynnwys gohebiaeth a phapurau amrywiol (1989-1992), yn ymwneud a phrynu Plas Pistyll , y cynlluniau datblygu, a materion ariannol; a chopïau o atodiadau wedi’i rhifo 1, 3-6, yn cynnwys papurau a gohebiaeth (1978-1979 a 1989-1991), yn ymwneud a prynu a datblygu Plas Pistyll, a chopïau o gweithredoedd ymddiriedolaeth.
Gohebiaeth, 1986-1994, parthed nifer o faterion gweinyddol yn ymwneud â datblygu safle Nant Gwrtheyrn, yn cynnwys cyfleusterau anabl; arwyddion; cerbydau; diwrnodau agored; Ymgyrch Marchnata Dwyfor; diogelwch tân, ail-adeiladu Trem-y-Môr; cyflenwad dŵr, hyfforddiant staff; y Pwyllgor Datblygu Addysg Cymraeg; ac ymweliadau dyddiol. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys nifer o dorion a chopïau o’r wasg (1988-1990).
Gohebiaeth a phapurau, 1986-1990, yn trafod gwella’r ffordd i’r Nant, yn cynnwys un ffotograff lliw (1988); materion yr Ymddiriedolaeth, y swyddfa yn Llithfaen, materion ariannol, a chofnodion cyfarfod (1989); pryniant a chynlluniau Plas Pistyll, swyddi, grantiau, y Ganolfan Ewropeaidd, marchnata, swyddfa Llithfaen, a chynlluniau pensaernïol o dai’r Nant (1990). Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys papur trafod (1986); ac adroddiad cynnydd a chost (1986).
Gohebiaeth a phapurau, 1986-1988, yn ymwneud â nifer o faterion a digwyddiadau yn y Nant, yn cynnwys trafod cyfleusterau anabl (1988); arwyddion (1986); ysgoloriaethau (1987); tiwtoriaid (1987); cyrsiau preswyl (1987); cyrsiau dyddiol (1987); deunydd cyrsiau (1987); pamffledi a llyfrynnau (1987), yn cynnwys tri ffotograff; eisteddfod Genedlaethol (1987-1988); cynlluniau adeilad (1987); deunydd marchnata (1988), yn cynnwys tri ffotograff; Y Panel Iaith (1986-1988); dyddiadau agored (1987-1988); datganiadau i’r wasg (1986-1987); a nawdd (1986-1988).
Cynlluniau busnes; Antur Llŷn; y Fforwm Iaith Genedlaethol; Pwyllgor Apêl
Papurau a gohebiaeth, 1985-1992, yn ymwneud â strategaethau, chynlluniau busnes, y Fforwm Iaith Genedlaethol, a datblygu gwasanaethau Nant Gwrtheyrn. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys papurau yn ymwneud â rhoddion (1990-1991); ac Antur Llŷn (1990).
Gohebiaeth yn ymwneud â rhoddion a grantiau 1985-1990; gohebiaeth amrywiol (1985-1987), yn ymwneud ag archebu cyrsiau; a gohebiaeth yn trafod datblygu’r Canolfan Ewropeaidd yr Ieithoedd Llai eu Defnydd (1988-1990).
Gohebaieth a phapurau, yn ymwneud â Chomisiwn y Gweithly (1987), Cymraeg Yn Y Gweithle (1990), Bwrdd yr Iaith Gymraeg (1995), a chyrsiau (1992-1993); cofnodion cyfarfodydd yr Ymddiriedolwyr (1984-1986); papurau trafod (1987-1988); apêl ariannol (1983); digwyddiadau (1986-1988); a datblygu Plas Pistyll (1989-1991).
Gohebiaeth a phapurau, 1978-1993, yn ymwneud â phryniant ac apêl Nant Gwrtheyrn, datblygu’r safle, a threfnu gweithgareddau (1978-1988); rhoddion (1980-1982); pwyllgor apêl (1986); ceisiadau grant (1988); cofnodion cyfeillion y Nant, (1984-1986); gwerthiant Craig y Nos (1988); a gwerthiant Plas Pistyll (1993). Yn ogystal, ceir copi o 'MA Language Studies' (1992); a ffurflenni gwirfoddolwyr (1980-1981).