Dangos 90 canlyniad

Disgrifiad archifol
Archif Dolen Cymru
Rhagolwg argraffu Gweld:

Papurau pwyllgor

Agendâu, adroddiadau, cofnodion a phapurau cysylltiedig, gan gynnwys cyfrifon blynyddol 1993/94, 1994/95 a 1997/98.

Strategaeth

Papurau'n ymwneud â strategaeth Dolen Cymru, gan gynnwys strategaethau drafft 1995-2000 a 2001-2006; cais Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol, 2001; penodi cyfarwyddwr datblygu, 2001-2002; a chodi arian ar gyfer swyddog addysg.

Toriadau o'r wasg

Toriadau o bapurau newydd, papurau bro, cylchgronau ac ati am weithgareddau Dolen Cymru a Lesotho yn gyffredinol.

Uchel Comisiwn

Gohebiaeth amrywiol a phapurau eraill, yn bennaf gydag Uchel Gomisiwn Teyrnas Lesotho, Llundain.

Y Cyngor Prydeinig

Gohebiaeth amrywiol gyda'r Cyngor Prydeinig, yn ymwneud yn bennaf â datblygu cysylltiadau, a threfnu ac ariannu teithiau rhwng Cymru a Lesotho.

Ymweliadau

Llythyrau, teithlenni, adroddiadau a phapurau eraill yn ymwneud ag ymweliadau gan ddirprwyaethau Lesotho â Chymru a'r DU, ac ymweliadau gan ddirprwyaethau o Gymru i Lesotho.

Ymweliadau

Papurau paratoadol ac adroddiadau ar ymweliadau gan ddirprwyaethau Cymreig i Lesotho, 1987-1997, ac ymweliadau gan ddirprwyaethau Lesotho â Chymru, 1990-1998.

Canlyniadau 81 i 90 o 90