Showing 82 results

Archival description
Archif Dolen Cymru File Welsh
Advanced search options
Print preview View:

Papurau pwyllgor

Agendâu, adroddiadau, cofnodion a phapurau cysylltiedig, gan gynnwys cyfrifon blynyddol 2003/04 and 2004/05.

Papurau pwyllgor

Agendâu, adroddiadau, cofnodion a phapurau cysylltiedig, gan gynnwys cyfrifon blynyddol 2005/06, 2006/07, 2007/08 a 2008/09.

Papurau pwyllgor

Agendâu, adroddiadau, cofnodion a phapurau cysylltiedig cyfarfodydd ymddiriedolwyr a phwyllgorau gweithredol a phwyllgorau iechyd, gan gynnwys cyfrifon blynyddol ar gyfer 2009/10, 2010/11, 2012/13 a 2014/15.

Llythyrau a phapurau eraill

Llythyrau a phapurau eraill, gan gynnwys datganiad ymddiriedaeth, 1985; apêl am flancedi ar gyfer Lesotho, 1986; rhestr o gysylltiadau ysgol, 1987; cynnig i gysylltu dinasoedd Caerdydd a Maseru, 1989; a chynnwys gohebiaeth rhwng aelodau a chydag Uchel Gomisiwn Lesotho, y Cyngor Prydeinig a'r Comisiynwyr Elusennau.

Llywodraeth lleol

Llythyrau yn ymwneud â chysylltiadau Lesotho â Solace (Prif Weithredwyr Cymdeithas Awdurdodau Lleol), yn enwedig Basildon, 1986, a Chaerdydd, 1988.

Strategaeth

Papurau'n ymwneud â strategaeth Dolen Cymru, gan gynnwys strategaethau drafft 1995-2000 a 2001-2006; cais Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol, 2001; penodi cyfarwyddwr datblygu, 2001-2002; a chodi arian ar gyfer swyddog addysg.

Papurau iechyd amrywiol

Papurau iechyd amrywiol, gan gynnwys dyddiadur o daith Dr Dyfed Huws a Dr Graham Thomas i Lesotho ar ran Pwyllgor Iechyd Dolen Cymru, Ion., a'u hadroddiad, Mawrth; cynllun cyfnewid gweithwyr iechyd Cymru a Lesotho 2002-2003, Hydref; a chynigion cydweithredol ar gyfer datblygu gofal iechyd yn Lesotho gan Ddolen Cymru a Lesotho Wales Link, Tach.

Papurau iechyd amrywiol

Papurau iechyd amrywiol, gan gynnwys adroddiad gwerthuso cymuned Ardal Quthing 2007; Comisiwn Cenedlaethol AIDS Lesotho, 'Coordination framework for the national response to HIV and AIDS', Mawrth 2007; ac adroddiad gan Manon Dafydd, 'Sut mae llywodraethau Cymru a Lesotho yn ôl i'r clefyd HIV yn y ddwy wlad', [c.2007].

Papurau iechyd amrywiol

Papurau iechyd amrywiol, gan gynnwys llythyrau i Dr Carl Clowes oddi wrth Dr Tony Jewell, prif swyddog meddygol Llywodraeth Cynulliad Cymru, Ion., a Michael Williams, cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Mawrth; ac adroddiad ar ymweliad gan Dr Jewell â Lesotho, Hydref.

Papurau iechyd amrywiol

Papurau iechyd amrywiol, gan gynnwys asesiad anghenion cychwynnol ar gyfer partneriaeth Ysbyty Gwynedd-Ysbyty Quthing, Mawrth; adroddiad blynyddol Dolen Cymru 2011/12; ac adrodd ar Lesotho Wales Link ar gyfer bwrdd Dolen Cymru, [c.Rhag.].

Cyffredinol

Llythyrau amrywiol a phapurau eraill, gan gynnwys taith gwesteion Lesotho Wales Link, Ion.; cynnig am swydd swyddog addysg, Chw.; dinistrio a disodli llyfrau a gasglwyd yn ysgolion Cymru i'w defnyddio yn ysgolion Lesotho, Mawrth; ymweliad y Frenhines Mamahoto â Thyddewi am ei gefeillio â Matsieng, pentref brenhinol Lesotho, Mai; araith yn senedd Lesotho gan Benjamin Masilo ar ei benodiad fel dirprwy siaradwr, Awst; ymweliad asesu â Lesotho i Blaid Cymru, Tachwedd; a phriodas y Brenin Letsie III yn 2000.

Cyffredinol

Llythyrau amrywiol a phapurau eraill, gan gynnwys anogaeth i'r Frenhines Seeiso i ymweld â Chymru ym mis Medi-Hydref, Ebrill; cerdyn diolch (yn Gymraeg) o Ysgol Hafod Lon am gael ei ddewis ar gyfer ymweliad gan y frenhines; adroddiad cynnydd ar ymgyrch ATOM PR i hyrwyddo dathliadau 25 mlynedd Dolen Cymru, Gorff.; a datganiad gan Pakalitha B. Mosisili, prif weinidog Lesotho, i Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Medi.

Toriadau o'r wasg

Toriadau o bapurau newydd, papurau bro, cylchgronau ac ati am weithgareddau Dolen Cymru a Lesotho yn gyffredinol.

Results 1 to 20 of 82