- P/2.
- Ffeil
- 1976-1983.
Tudalennau a chloriau rhaglenni eisteddfodau ple oedd Gilmor yn feirniad neu ar bwyllgor gwaith.
Tudalennau a chloriau rhaglenni eisteddfodau ple oedd Gilmor yn feirniad neu ar bwyllgor gwaith.
Cyfansoddiad Gilmor Griffiths, geiriau gan Leslie Harries ar gyfer côr pedwar llais.
Bathodyn Cymdeithas Cerdd Dant, stamp 'Musicians Union', stamp boglynwaith a 7 trawffyrch.
Trefniant a gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Y doethion' gan I. D. Hooson, i'r alaw Edinburgh'.
Trefniant o'r alaw 'Early one morning' ar gyfer Gwledda Canoloesol, yng Nghastell Rhuthun. Llawysgrif o sgôr, sol-ffa a geiriau.
Trefniant gan Gilmor Griffiths o gyfansoddiad Charles Crozat Converse ar gyfer lleisiau merched neu blant.
Dwy gân i'r Glöwr / Pwll yr Hafod,
Llyfr gwaith cyfansoddi Gilmor Griffiths, geiriau gan Leslie Harries. Ar gyfer rhaglen Radio B.B.C. 'Second Stages in Welsh', 1961.
Brasluniau a llungopïau o'r alaw 'Duw Hollalluog' ar gyfer unawd contralto neu fâs, gan Gilmor Griffiths, geiriau gan Leslie Harries.
Sgôr mewn llawysgrif o 'Duw Abram a Duw Jacob gynt', trefniant y desgant gan Gilmor Griffiths. Marciau sol-ffa mewn pensil. I gorau merched neu blant.
Sgôr mewn llawysgrif a llungopi o 'Diolch', trefniant ar gyfer merched neu blant gan Gilmor Griffiths, geiriau Aeres Evans.
Braslun a llungopi o ddarn cerddoriaeth anhysbys.
Arweinydd, cyfeilydd, treialai cŵn defaid a digwyddiadau cymdeithasol eraill.
Llawysgrif, frasluniau a llungopïau o'r cyfansoddiad gan Gilmor Griffiths, 1976. Cyflwynwyd i Ceinwen, Telynores Dyfrdwy.
Sgôr mewn llawysgrif a llungopïau o'r alaw 'Deffro mae'r gwanwyn' gan Gilmor Griffiths ar gyfer lleisiau merched, geiriau ( Awel yn sibrwd ) gan Dorothy Jones.
Trefniant S.A.T.B. gan Gilmor Griffiths o 'Deep Harmony' gan Handel Parker, dau fersiwn o eiriau gan David Charles a Mairlyn Lewis. Un fersiwn mewn tonic sol-ffa.
Sgôr mewn llawysgrif a llungopïau o 'Deep Harmony', trefniant Gilmor Griffiths ar gyfer corau merched (S.S.A.A.). Geiriau 'Ein tad o glyw ein hymbil taer'.
Dau cân dienw sy'n dathlu'r flwyddyn newydd. Cyfansoddiadau Gilmor Griffiths ar gyfer S.A.T.B..
Llawysgrif, lungopïau ac ychydig o frasluniau o ddarnau i'r delyn neu delynau. Cynnwys nifer o nodiadau a newidiadau. Nodyn ar yr amlen wreiddiol yn awgrymu bod y darnau, a'r nodiadau ar gyfer Ceinwen Stuart, Ysgol Uwchradd Glan Clwyd.
Copi o garol gan Gilmor Griffiths, 'Daethost yma'n dlawd fel ni', geiriau gan Dorothy Jones.
Llungopi o sgôr 'Daeth y dydd', trefniant Gilmor Griffiths o garol Ffrengig, y geiriau Cymraeg gan James Arnold Jones.