- C5/14.
- Ffeil
- 1975-1985.
Dwy lawysgrif o gyfansoddiad Gilmor Griffiths. Emyn i blant neu gôr pedwar llais ifanc, geiriau 'Ynfyd ydym, ac ni feiddiwn' gan y Parch. Dafydd Owen.
Dwy lawysgrif o gyfansoddiad Gilmor Griffiths. Emyn i blant neu gôr pedwar llais ifanc, geiriau 'Ynfyd ydym, ac ni feiddiwn' gan y Parch. Dafydd Owen.
Braslun mewn llawysgrif o sgôr 'Liebeslied' cyfansoddiad a geiriau Gilmor Griffiths ar gyfer unsain.
Brasluniau anghyflawn o drefniant Gilmor Griffiths o'r gân diolchgarwch 'Laudamus te' (heb ei orffen).
Trefniant o'r alaw 'June is bustin out all over' ar gyfer y Rhyl Operatic Society. Llawysgrif o drefniant Gilmor Griffiths o gyfansoddiad Rogers and Hammerstein (Carousel). Sgôr yn yr hen nodiant a chopi sol-ffa. Hefyd llungopi o sgôr 'Out of my dreams' o 'Oklahoma'.
Llungopi o sgôr 'Iesu faban Mair', trefniant unsain, gan Gilmor Griffiths, geiriau Vincent H. Timothy.
Copi sgôr o 'Hwyrgan yr Hydref' (Autumn Nocturn) i Euphonium neu glarinét B♭ gyda chyfeiliant. Hefyd brasluniau ar gyfer offerynnau pres. Sgôr o drefniant William (Bill) Hind, Gorffennaf 1981[82].
Hwyl ar y gân, 7 o ganeuon i blant, gan Gilmor Griffiths, cyhoeddwyd gan Y Lolfa, Rhagfyr 1984. Cynnwys: Wedi'r gaeaf; Breuddwydio; Gwylanod; Lliwiau'r Hydref; Y deffro; Cwymp y dail; Santa bach.
Hwn yw fy mhlentyn i (Carol Catrin),
Llungopi o 'Hwn yw fy mhlentyn i' (Carol Catrin) gan Gilmor Griffiths, S.S.A.A., geiriau gan Aneurin Prys Williams.
Trefniant Gilmor Griffiths o 'Huw Puw', ar gyfer pedwar llais (S.A.T.B.), yr alaw allan o gasgliad J. Glyn Davies.
Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Pen y Cei' gan Trebor Roberts (Porthmadog), i'r alaw 'Hiraethog' gan Haydn Morris. Braslun mewn llawysgrif.
Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Y ceiliog dandi' gan Geraint Lloyd Owen, i'r gainc 'Hawys' gan Mona Meirion.
Copi sgôr a geiriau 'Gwna Gymwynas' gan Gilmor Griffiths, ar gyfer lleisiau S.A., geiriau gan H. D. Healy.
Gwledda canoloesol a Rhyl Operatic Society,
Casgliad o ganeuon, wedi'u trefnu neu eu cyfansoddi ar gyfer perfformiadau yn y Gwleddoedd Canoloesol poblogaidd a gynhaliwyd yng Nghastell Rhuthun. Hefyd darnau a berfformiwyd gan Gymdeithas Operatig Amatur y Rhyl pan fu Gilmor yn Gyfarwyddwr Cerdd.
Sgôr mewn llawysgrif a llungopïau o 'Gwennol y bondo' gan Gilmor Griffiths, geiriau gan Dorothy Jones. Trefniant ar gyfer lleisiau merched neu blant (S.A.).
Cyfansoddiad 'Gwenan' gan Gilmor Griffiths.
Cyfansoddiadau a threfniadau gan Gilmor Griffiths ar gyfer prosiectau cerddorol.
Ffeil gwreiddiol o lungopïau a llawysgrif darnau cerddoriaeth amrywiol. Nifer ohonynt yn anhysbys ac yn anghyflawn.
Cyfansoddiad Gilmor Griffiths, geiriau gan Leslie Harries.
Sgôr mewn llawysgrif a llungopi o 'Gwalia' gan Gilmor Griffith. Cân cadeirio eisteddfod leol.
Copi mewn llawysgrif o drefniant Gilmor Griffiths o 'Gwaith yr Iesu', o'r alaw 'Saron' gan Thomas Hughes, Gendros, ar gyfer S.A.T.B., geiriau Cymraeg gan Elfed.