- C1/6.
- Ffeil
- [1960x1980].
Llyfryn heb glawr [hunan cyhoeddiad?], sy'n cynnwys geiriau a sgôr i'r caneuon 'Cân diolch', 'Croeso'r gwanwyn', Cân i'r gwanwyn', 'Gwanwyn', 'Y deffro', 'Cân y tylwyth teg', 'Y coedlan', 'Y glöwr'.
Llyfryn heb glawr [hunan cyhoeddiad?], sy'n cynnwys geiriau a sgôr i'r caneuon 'Cân diolch', 'Croeso'r gwanwyn', Cân i'r gwanwyn', 'Gwanwyn', 'Y deffro', 'Cân y tylwyth teg', 'Y coedlan', 'Y glöwr'.
Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Guto Benfelyn' gan I. D. Hooson i'r alaw 'Llyn Llech-Owain'. Ychwanegiad tonig sol-ffa mewn pencil.
Llawysgrif o'r alaw 'Llys Ifan' Gilmor Griffiths i bedwar llais. Heb eiriau.
Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Yr Hafod Lom' gan A. Gwyn Jones i'r gainc 'Maes Garmon' gan Edna Wyn Griffiths. Dau sgôr, un ar gyfer lleisiau yn unig, y llall yn cynnwys y gainc.
Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Cymer, Arglwydd, f'einioes i', gan F. R. Havergal i'r alaw 'Maes Garmon' gan Edna Wyn Griffiths.
Gosodiad mewn llawysgrif gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Cwningod' gan I. D. Hooson i'r alaw 'Manon' gan Nan Jones.
Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Cantre'r Gwaelod' gan R. Williams Parry, i'r gainc 'Mantell Siani'.
Neges o ddiolch; trefn gwasanaeth; Cerdyn gair o gysur; teyrnged; englynion coffa Gilmor; toriadau papur newydd; Y Faner.
Sgôr mewn llawysgrif gyda chopïau a brasluniau o 'Mary Carol', geiriau a cherddoriaeth gan Gilmor Griffiths.
Llungopïau o rannau offerynnau ensemble gwynt ar gyfer 'Mary Carol' gan Gilmor Griffiths.
Trefniant o'r alaw 'Men of Harlech' gyda geiriau Saesneg ar gyfer Rhyl Operatic Society. Llungopi o sgôr gyda geiriau.
Trefniant o'r alaw 'Merry widow waltz' ar gyfer y Rhyl Operatic Society. Llungopi o lawysgrif o drefniant Gilmor Griffiths o waith Franz Lehár.
Llungopi o drefniant o'r alaw draddodiadol 'Migildi Magildi' ar gyfer Gwledda Canoloesol, yng Nghastell Rhuthun. Sgôr, sol-ffa gyda geiriau.
Llyfr gwaith Gilmor Griffiths sy'n cynnwys brasluniau, nodiadau a cherddoriaeth 'Min y môr', sef y gwaith creadigol olaf iddo gyfansoddi erbyn Eisteddfod yr Urdd.
Cerddoriaeth gan Gilmor Griffiths 'Molawd i Gymru', ar gyfer S.A.T.B., geiriau gan Leslie Harries. Cyfansoddwyd ar gyfer Pasiant y Plant yn Eisteddfod yr Urdd, Yr Wyddgrug, 1958.
Trefniant o'r alaw 'My little Welsh home', cyfansoddiad a geiriau gan W. S. Gwynn Williams, ar gyfer Gwledda Canoloesol, yng Nghastell Rhuthun. Llawysgrifau o sgôr, ac un anghyflawn, gyda geiriau.
Cyfansoddiad o'r alaw 'Nant y Felin' mewn dau wahanol gywair. Heb eiriau.
Llawysgrif dau o gyfansoddiadau Gilmor Griffiths ar gyfer pedwar llais. Heb eiriau.
Llungopi o daflen sy'n cynnwys sgorau, gyda geiriau, ar gyfer 'Noel', 'Gloria' a 'Balulalow', y geiriau gan Mairlyn Lewis.
Llungopi o gyfansoddiad Gilmor Griffiths o 'Noel', geiriau Saunders Lewis. Trefnwyd ar gyfer unawd ar gyfer cyngerdd ysgol.