Dangos 33 canlyniad

Disgrifiad archifol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Papurau Emlyn Evans Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

Papurau Emlyn Evans

  • GB 0200 EMLEVA
  • Fonds
  • 1908-2014

Papurau Emlyn Evans, 1908-2014, yn ymwneud â'i yrfa yn y byd argraffu a'i weithgarwch ym myd llyfrau pan oedd yn byw yn Llundain, Llandybïe, ac yna'n ddiweddarach pan ddychwelodd i fyw i'w fro enedigol ym Methesda.

Evans, Emlyn, 1923-

Papurau personol

Papurau, 1909-1993, yn cynnwys torion o'r wasg yn ymwneud â'i deulu, tystlythyrau, 'braslun o'i yrfa', sgyrsiau a ddarlledwyd ar Radio Cymru, ynghyd ag atgofion ei weddw Mrs Eileen Morley Jones o'i bywyd yn Llundain.

Torion o'r wasg am y teulu

Torion yn ymwneud â llwyddiant y teulu, 1909-1929, ynghyd ag anerchiad priodasol i’w rieni a thorion yn ymwneud â mawolaeth ei Dad.

Torion yn ymwneud â'i benodiad i'r wasg

Torion o erthyglau yn ymwneud â'r rheolwr newydd, 'Emlyn Evans: Gwerthfawrogiad' a gyhoeddwyd yn Y Ddinas, Awst 1957, a'r rheswm am ei ymddiswyddiad yn 1964, ynghyd â chopi o 'Memorandwm ac Erthyglau Cwmni Christopher Davies (Cyhoeddwyr) Cyf.', 1949.

Tystlythyrau

Llythyrau, 1964-1972, a dderbyniodd pan oedd yn ymgeisio am swyddi yn y byd addysg ac yn cefnogi'i gais.

Y Ddinas

Torion o erthyglau a gyfrannodd i'r golofn 'Sylwadau' yn Y Ddinas (cylchgrawn Cymry Llundain), 1953-1955, a llythyr ato oddi wrth Caradog Prichard, 1955, 'Emlyn Evans: Gwerthfawrogiad', Y Ddinas, Awst 1957, ynghyd ag erthyglau diweddarach a gyhoeddwyd yn Llais Ogwan a Y Goleuad.

Prichard, Caradog, 1904-1980

Y Genhinen

Papurau'n deillio o'i gyfnod fel golygydd y cylchgrawn gan gynnwys llythyrau oddi wrth lenorion amlwg.

Y Pentan

Papurau'n ymwneud â grŵp trafod Y Pentan yn ardal Dyffryn Ogwen, gan gynnwys nifer o gerddi a luniodd ar gyfer eisteddfodau'r Pentan, 1958-1997, a cherddi sydd wedi'u cynnwys yn ei gyfrol O’r niwl a’r anialwch lle cyhoeddwyd detholiad o’i gerddi caeth a rhydd]. Bu'n ysgrifennydd Y Pentan a cheir rhaglenni ar gyfer 1993-94 a 2012-2013.

Canlyniadau 21 i 33 o 33