Dangos 33 canlyniad

Disgrifiad archifol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Papurau Emlyn Evans Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

Anerchiadau ac erthyglau

Anerchiadau ac erthyglau amrywiol, gan gynnwys 'Na foed heddwch', cylchgrawn Byw, Mehefin 1964; ‘How books are made’, 1965; ‘Pennod o hunangofiant’, 1976; 'Cofio Huw Derfel', 1990; 'Gall cau capeli'r Carneddi a'r Gerlan brofin ergyd farwol i Ddyffryn Ogwen', llythyr agored at drigolion Bethesda a gyhoeddwyd yn Llais Ogwan, 1993; ‘John Wycliffe a’i amserau’, Y Pentan, 2001; a ‘Tair ffrwd ein hetifeddiaeth’, Y Pentan, 2004.

Barn

Rhestr gan Miranda Morton, o 'Erthyglau gan ac am Emlyn Evans yn Barn 1962-1991’, ynghyd â llythyr oddi wrthi ato yn 1995 a thrawsgrifiad o'r cyfweliad rhyngddynt. Cyflwynwyd doethuriaeth iddi yn 2002 am ei thraethawd ar 'Hanes Barn, 1962-1991'.

Cerddi'r Parchedig John Roberts, [Llanfwrog]

Tri llyfryn teipysgrif a gyflwynwyd i Emlyn Evans a’i wraig Eileen gan eu cyn-weinidog y Parchedig John Roberts, Caernarfon, gyda'r teitlau ‘Ebyrth gorfoledd’, ‘Ambell gyffro’ yn cynnwys emynau a cherddi ganddo, a ‘Bardd yr Haf’ yn cynnwys cerddi coffa i'r bardd R. Williams Parry.

Cwpanaid o de : a diferion eraill

Papurau'n ymwneud â chyhoeddi cyfrol R. T. Jenkins, wedi'i dethol a'i golygu gan Emlyn Evans yn 1997, gan gynnwys rhaglen lansio'r gyfrol ym Mhrifysgol Bangor yn 1997.

Cyfansoddiadau cerddorol Richard Evans

Emyn-donau gan Richard Evans (Alaw Ffrydlas, Bethesda, 1883-1949), tad Emlyn Evans, gan gynnwys 'Capel Curig' a gyhoeddwyd yn Y Drysorfa, Ebrill 1928, a 'Carneddi'. Anfonwyd rhai ohonynt i gystadleuaeth ‘y dôn gynulleidfaol’ yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac i eisteddfodau lleol.

Cyfnod Bethesda

Papurau, 1958-[2013], yn cynnwys anerchiadau ac erthyglau ganddo, papurau'n ymwneud â'i gyhoeddiadau a'r Pentan, grŵp trafod yn ardal Bethesda.

Cyfnod Llundain

Papurau, 1932-2009, yn ymwneud yn bennaf â'r cyfnod a dreuliodd yn Llundain yn hybu'r bywyd diwylliannol Cymreig yno.

Cymdeithas Llyfrau Cymraeg

Deunydd cyhoeddusrwydd yn ymwneud â Chymdeithas Llyfrau Cymraeg Llundain y bu Emlyn Evans yn ysgrifennydd ac yn llywydd arni yn Llundain, torion o'r Faner, 1956, yn ymwneud â changhennau o'r Gymdeithas Lyfrau yng Nghymru, a phapurau cyffredinol.

Dramâu

Rhaglen 'Y celyn a'r iorwg', drama mewn tair act, 1954, a berfformiwyd gan Gwmni Drama Cymdeithas Ddiwylliannol Jewin ac a droswyd i'r Gymraeg gan Emlyn Evans; sgript 'Y ffenestri tro', drama mewn un act a droswyd ganddo, [1963]; 'Ffransis o Assisi', drama mewn pedair golygfa; a sgript 'Ieuan Gwynedd, drama mewn pedair act, [1952].

'Dylanwadau'

Cyfres o bum sgwrs a ddarlledwyd ar Radio Cymru yn 1993 yn y gyfres 'Dylanwadau'. Maent yn trafod yr 'Amgylchfyd', 'Llyfrau', 'Lleisiau’r Gorffennol', 'Digwyddiadau cyfoes' a 'Cerddoriaeth'.

Eglwys Jewin

Bu Emlyn Evans yn ysgrifennydd Eglwys Jewin. Ceir adroddiadau'r eglwys, 1955-1979, rhestri testunau a rhaglenni eisteddfodau'r plant, 1949-1961, a rhaglenni cyngherddau mawreddog, 1952-1957.

Llythyrau

Ceir llythyrau yn deillio o'i gyfnod yn rheolwr-gyfarwyddwr Llyfrau’r Dryw, Llandybïe, 1957-1965.

Canlyniadau 1 i 20 o 33