Showing 21 results

Archival description
Papurau Emlyn Evans File
Print preview View:

Torion yn ymwneud â'i benodiad i'r wasg

Torion o erthyglau yn ymwneud â'r rheolwr newydd, 'Emlyn Evans: Gwerthfawrogiad' a gyhoeddwyd yn Y Ddinas, Awst 1957, a'r rheswm am ei ymddiswyddiad yn 1964, ynghyd â chopi o 'Memorandwm ac Erthyglau Cwmni Christopher Davies (Cyhoeddwyr) Cyf.', 1949.

Cerddi'r Parchedig John Roberts, [Llanfwrog]

Tri llyfryn teipysgrif a gyflwynwyd i Emlyn Evans a’i wraig Eileen gan eu cyn-weinidog y Parchedig John Roberts, Caernarfon, gyda'r teitlau ‘Ebyrth gorfoledd’, ‘Ambell gyffro’ yn cynnwys emynau a cherddi ganddo, a ‘Bardd yr Haf’ yn cynnwys cerddi coffa i'r bardd R. Williams Parry.

Y Genhinen

Papurau'n deillio o'i gyfnod fel golygydd y cylchgrawn gan gynnwys llythyrau oddi wrth lenorion amlwg.

Cwpanaid o de : a diferion eraill

Papurau'n ymwneud â chyhoeddi cyfrol R. T. Jenkins, wedi'i dethol a'i golygu gan Emlyn Evans yn 1997, gan gynnwys rhaglen lansio'r gyfrol ym Mhrifysgol Bangor yn 1997.

Llythyrau

Ceir llythyrau yn deillio o'i gyfnod yn rheolwr-gyfarwyddwr Llyfrau’r Dryw, Llandybïe, 1957-1965.

Dramâu

Rhaglen 'Y celyn a'r iorwg', drama mewn tair act, 1954, a berfformiwyd gan Gwmni Drama Cymdeithas Ddiwylliannol Jewin ac a droswyd i'r Gymraeg gan Emlyn Evans; sgript 'Y ffenestri tro', drama mewn un act a droswyd ganddo, [1963]; 'Ffransis o Assisi', drama mewn pedair golygfa; a sgript 'Ieuan Gwynedd, drama mewn pedair act, [1952].

Anerchiadau ac erthyglau

Anerchiadau ac erthyglau amrywiol, gan gynnwys 'Na foed heddwch', cylchgrawn Byw, Mehefin 1964; ‘How books are made’, 1965; ‘Pennod o hunangofiant’, 1976; 'Cofio Huw Derfel', 1990; 'Gall cau capeli'r Carneddi a'r Gerlan brofin ergyd farwol i Ddyffryn Ogwen', llythyr agored at drigolion Bethesda a gyhoeddwyd yn Llais Ogwan, 1993; ‘John Wycliffe a’i amserau’, Y Pentan, 2001; a ‘Tair ffrwd ein hetifeddiaeth’, Y Pentan, 2004.

Tystlythyrau

Llythyrau, 1964-1972, a dderbyniodd pan oedd yn ymgeisio am swyddi yn y byd addysg ac yn cefnogi'i gais.

Cyfansoddiadau cerddorol Richard Evans

Emyn-donau gan Richard Evans (Alaw Ffrydlas, Bethesda, 1883-1949), tad Emlyn Evans, gan gynnwys 'Capel Curig' a gyhoeddwyd yn Y Drysorfa, Ebrill 1928, a 'Carneddi'. Anfonwyd rhai ohonynt i gystadleuaeth ‘y dôn gynulleidfaol’ yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac i eisteddfodau lleol.

Y Ddinas

Torion o erthyglau a gyfrannodd i'r golofn 'Sylwadau' yn Y Ddinas (cylchgrawn Cymry Llundain), 1953-1955, a llythyr ato oddi wrth Caradog Prichard, 1955, 'Emlyn Evans: Gwerthfawrogiad', Y Ddinas, Awst 1957, ynghyd ag erthyglau diweddarach a gyhoeddwyd yn Llais Ogwan a Y Goleuad.

Prichard, Caradog, 1904-1980

Eglwys Jewin

Bu Emlyn Evans yn ysgrifennydd Eglwys Jewin. Ceir adroddiadau'r eglwys, 1955-1979, rhestri testunau a rhaglenni eisteddfodau'r plant, 1949-1961, a rhaglenni cyngherddau mawreddog, 1952-1957.

Cymdeithas Llyfrau Cymraeg

Deunydd cyhoeddusrwydd yn ymwneud â Chymdeithas Llyfrau Cymraeg Llundain y bu Emlyn Evans yn ysgrifennydd ac yn llywydd arni yn Llundain, torion o'r Faner, 1956, yn ymwneud â changhennau o'r Gymdeithas Lyfrau yng Nghymru, a phapurau cyffredinol.

Results 1 to 20 of 21