- 12.
- Ffeil
- 1982.
"Croeso i fyd Lola. Abertawe, Haf 1982". Un o’r ffansyns cyntaf rheolaidd yn y Gymraeg oedd ‘Amser Siocled’ dan olygyddiaeth Geraint Williams, cyn lowr o Ystadgynlais. Bu Geraint Williams yn gysylltiedig a grwpiau fel Crys a Trobwll yn y dyddiau cynnar a fe gyhoeddodd gaset amlgyfrannog o’r enw “Pwy Fydd Yma Mewn Can Mlynedd’ ar ei label ‘Lola’. Mae'r rhifyn yma yn cynnwys darn ar sut i wneud caset, rhestr recordiau Gary Melville, a chyfweliad gyda'r Celfi Cam.