Showing 8 results

Archival description
Papurau Alun Eirug Davies File Welsh
Advanced search options
Print preview View:

Cerddi

Cerddi llawysgrif a theipysgrif gan T. Eirug Davies, 1913-1951, gan gynnwys ‘Unigedd’, pryddest a anfonodd i gystadleuaeth y bryddest, Eisteddfod Bala Bangor, 1913; soned ‘Pori’, Eisteddfod y Brifysgol, 1919; 'Rhyfel’, Eisteddfod y Brifysgol. Ceir cerddi hefyd ar gyfer eisteddfodau lleol fel ‘Y gof’ a cherddi a anfonodd i’r Western Mail, ynghyd â chopi o gerdd deyrnged ‘Er cof am Eirug’ gan S. B. Jones, a gyhoeddwyd yn Y Tyst, 25 Hydref 1951.

Cyfansoddiadau

Cerddi a thraethodau buddugol ac anfuddugol a anfonodd T. Eirug Davies i’r Eisteddfod Genedlaethol, gan gynnwys ‘Nifer o ganeuon byrion’, cydradd fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1921; pryddest ‘Y tannau coll’, Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman 1922; pryddest ‘Dafydd ap Gwilym’ a soned 'Henaint', Eisteddfod Genedlaethol Pontypŵl 1924; casgliad o farddoniaeth (y goron), Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1926; a'i draethawd buddugol ‘Traethawd hanesyddol a beirniadol ar Ddiwinyddiaeth yng Nghymru o 1860 hyd heddyw’, Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1926.

Darlithiau ac anerchiadau

Darlithiau ac anerchiadau, gan gynnwys ‘Eifion Wyn’, Tachwedd 1926, ‘Llenyddiaeth a bywyd yng Nghymru’, Gŵyl Ddewi, 1928, a ‘John Roberts, Llanbrynmair (1767-1834)’, 1934.

Dyddiaduron

Dyddiaduron T. Eirug Davies, 1914-1951. Mae dyddiadur 1928 yn cynnwys ychwanegiadau diweddarach fel cerddi gan T. Eirug Davies, 1938-1939, torion o'r wasg am farwolaeth ei wraig yn 1951, nodiadau am hanes lleol Gwernogle, ynghyd â phapurau rhydd [Alun Eirug Davies].

T. Eirug Davies, 1892-1951: portread mewn llun a gair

Papurau yn ymwneud â’r gyfrol T. Eirug Davies, 1892-1951: portread mewn llun a gair wedi'i golygu gan Alun Eirug Davies yn 2008, gan gynnwys copi teipysgrif gyda chywiriadau a chardiau mynegai yn cynnwys ei nodiadau ymchwil. Ceir hen ffotograffau gwreiddiol, rhai newydd a deunydd a atgynhyrchwyd.

Traethawd MA

[Cofiant deg pennod i Gwilym Hiraethog gan T. Eirug Davies sy'n cynnwys llyfryddiaeth a nodiadau a ysgrifennodd tua 1934 ac a gyhoeddwyd yn Y Cofiadur, rhif 70, Mehefin 1970], ynghyd â llungopi o ran o'i draethawd MA: ‘Cyfraniad Dr William Rees (Gwilym Hiraethog) i fywyd a llên ei gyfnod’, 1931.

Tystysgrifau addysg

Tystysgrifau addysg Alun Eirug Davies, 1947, 1950, Ysgol Sir Tregaron, a thystysgrif am radd BA, [1954], ac MA yn 1968, Prifysgol Cymru, Aberystwyth.

Ysgrifau coffa

Torion gwreiddiol o'r wasg a llungopïau, 1950-2002, yn cynnwys ysgrifau coffa i T. Eirug Davies, ei rieni ac aelodau eraill o'i deulu.