Showing 54 results

Archival description
Papurau Alun Eirug Davies Welsh
Advanced search options
Print preview View:

Llythyrau

Llythyrau, [1950]-[2012], yn ymwneud â'i ddiddordebau academaidd a'i gyhoeddiadau.

Llythyrau o Ganada

Llythyrau, 1982-1993, oddi wrth ei frawd William/Bill [Gwilym Eirwyn Eirug Davies] yng Nghanada a phapurau'n ymwneud â’i stad, 2006-2008.

Papermaking in Wales 1658-2000

Papurau, 1970-2006, yn ymwneud ag ymchwil Alun Eirug Davies i’r diwydiant gwneud papur a’i erthygl ‘Paper-mills and paper makers in Wales’ a gyhoeddwyd yn Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Haf, 1967, a’i lyfr Papermaking in Wales (2010), gan gynnwys torion o’r wasg ac allbrintiau wedi’u golygu.

Papurau Alun Eirug Davies

  • GB 0210 ALEIRUG
  • Fonds
  • [1908]-[2017]

Papurau llenyddol ac academaidd Alun Eirug Davies, ynghyd â phapurau ei dad T. Eirug Davies, [1908]-[2017], sy'n cynnwys gohebiaeth, dyddiaduron, barddoniaeth, pregethau a phapurau eraill. = Literary and academic papers of Alun Eirug Davies, together with the papers of his father T. Eirug Davies, [1908]-[2017], comprising correspondence, diaries, poetry, sermons and other papers.

Davies, Alun Eirug, 1932-

Papurau amrywiol

Rhaglen seremoni graddio Prifysgol Cymru a gynhaliwyd yn Aberystwyth, 1931, pan dderbyniodd Tom Eirug Davies radd MA, a thaflen Cymdeithas Hanes Annibynwyr Cymru yn nodi mai'r Parch. T. Eirug Davies oedd yr Ysgrifennydd.

Papurau T. Eirug Davies

Papurau T. Eirug Davies yn cynnwys ei ohebiaeth, dyddiaduron, barddoniaeth, a chyfansoddiadau a anfonodd i gystadlaethau’r Eisteddfod Genedlaethol.

Davies, T. Eirug (Thomas Eirug), 1892-1951

Papurau teuluol

Effemera personol teuluol, gan gynnwys hen ffotograffau a gyhoeddwyd yng nghyfrol Alun Eirug Davies, T. Eirug Davies, 1892-1951: portread mewn llun a gair, a ffotograffau amrywiol yn adlewyrchu ei ddiddordebau personol fel hanes lleol.

Papurau teuluol

Copïau o dystysgrifau geni a phriodi, ac ewyllysiau’r teulu; geirda i Jennie Thomas, darpar wraig T. Eirug Davies, yn llaw John Morris Jones, 1920; copi, 1995, o dystysgrif priodas Tom Eirug Davies a Jane Thomas yn Eglwys Ebenezer, Llanelwy, 1 Mawrth 1921; cerddi gan T. Eirug Davies i’w dad yn bedair ugain oed yn 1945 a’i fam yn bedair ugain oed yn 1950; taflen gwasanaeth angladd ei Dad, [1949]; copi o’r Tyst, Hydref 1951 yn cynnwys cerdd ‘Y Dysgedydd (Tom Eirug Davies); a chopi anghyflawn o deyrnged i Lyn Eirug Davies, gwraig Alun Eirug Davies.

Papurau ymchwil Alun Eirug Davies

Papurau ymchwil Alun Eirug Davies, [1911]-[2017], yn ymwneud â’i gyhoeddiadau a pharatoi llyfrau am ei Dad y Parch. T. Eirug Davies, bardd a golygydd, ynghyd â phapurau ei Dad.

Davies, Alun Eirug, 1932-

Results 21 to 40 of 54