Showing 54 results

Archival description
Papurau Alun Eirug Davies Welsh
Advanced search options
Print preview View:

Personalia

Atgynhyrchiad o ‘Lampeter celebrities’ gan Matt a gyhoeddwyd yn y Sunday Graphic yn cynnwys digrifluniau o gymeriadau lleol.

Pregethau

Nifer iawn o nodiadau pregethau, rhai ar gardiau post, ynghyd â chopi o J. D. Vernon Lewis, Llyfr y Salmau (Abertawe, 1967), yn cynnwys pregethau rhydd.

T. Eirug Davies, 1892-1951: portread mewn llun a gair

Papurau yn ymwneud â’r gyfrol T. Eirug Davies, 1892-1951: portread mewn llun a gair wedi'i golygu gan Alun Eirug Davies yn 2008, gan gynnwys copi teipysgrif gyda chywiriadau a chardiau mynegai yn cynnwys ei nodiadau ymchwil. Ceir hen ffotograffau gwreiddiol, rhai newydd a deunydd a atgynhyrchwyd.

Torion o'r wasg

Torion o’r wasg yn ymwneud â llwyddiant T. Eirug Davies yn ennill y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Aberafan 1932 am ei bryddest ‘A ddioddefws a orfu’ ac yn Eisteddfod Genedlaethol Castell Nedd 1936 am ei bryddest ‘Y gorwel’, ynghyd ag englyn gan E. J. Lloyd yn ei longyfarch, ac fel beirniad ar y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun 1936.

Torion o'r wasg

Torion o'r wasg o'r Western Mail a'r Tyst, 1920-1967, yn cynnwys erthyglau gan T, Eirug Davies, ysgrifau coffa iddo ac adolygiadau o'i waith a gyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth.

Traethawd

Traethawd anfuddugol T. Eirug Davies: ‘Cyfraniad Gwilym Hiraethog i fywyd a llên ei gyfnod’, Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl 1929, gyda sylwadau gan T. Gwynn Jones, y beirniad.

Jones, T. Gwynn (Thomas Gwynn), 1871-1949

Traethawd MA

[Cofiant deg pennod i Gwilym Hiraethog gan T. Eirug Davies sy'n cynnwys llyfryddiaeth a nodiadau a ysgrifennodd tua 1934 ac a gyhoeddwyd yn Y Cofiadur, rhif 70, Mehefin 1970], ynghyd â llungopi o ran o'i draethawd MA: ‘Cyfraniad Dr William Rees (Gwilym Hiraethog) i fywyd a llên ei gyfnod’, 1931.

Tystysgrifau

Tystysgrifau gwobrau y dyfarnwyd iddo yn Eisteddfod Genedaethol Caernarfon 1921, Pontypŵl 1924, Pwllheli 1925, Caergybi 1927, a Llanelli 1930.

Tystysgrifau addysg

Tystysgrifau addysg Alun Eirug Davies, 1947, 1950, Ysgol Sir Tregaron, a thystysgrif am radd BA, [1954], ac MA yn 1968, Prifysgol Cymru, Aberystwyth.

Ymddeoliad

Cyfrol ‘Rhoddedig i Alun M. E. Davies ar ei ymddeoliad o Lyfrgell y Brifysgol, Mawrth 1997’ ar ôl 36 mlynedd yn gweithio yn Llyfrgell Prifysgol Aberystwyth yn cynnwys casgliad o luniau.

Yr Eisteddfod Genedlaethol

Cyfansoddiadau buddugol ac anfuddugol, 1921-[1928], a anfonwyd gan T. Eirug Davies i'r Eisteddfod Genedlaethol, ynghyd â thystysgrifau, 1921-1930, a thorion o'r wasg, 1932-1936, yn ymwneud â'i lwyddiant fel bardd y goron a beirniad.

Ysgrifau coffa

Torion gwreiddiol o'r wasg a llungopïau, 1950-2002, yn cynnwys ysgrifau coffa i T. Eirug Davies, ei rieni ac aelodau eraill o'i deulu.

Results 41 to 54 of 54