Dangos 43 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Gwilym Tudur (Wyt ti'n cofio?)
Rhagolwg argraffu Gweld:

‘Dogfennau diddorol y Gymdeithas’

Taflen yn hysbysebu ‘Rali enfawr i anrhydeddu gwir dywysogion Cymru, ac i gofio brad Cilmeri 1282 yng Nghaernarfon 1 Mawrth 1969'; llythyr odd wrth Dafydd Iwan, 1970; taflen ‘Neges oddi wrth Gymdeithas yr Iaith Gymraeg i holl lowyr Cymru sydd ar streic’, 1985.

Cyhoeddiadau

Deunydd printiedig, 1980-1984, gan gynnwys Y Gymraeg yng nghwrs addysg yr ysgolion. Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i gynigion ymgynghorol Ysgrifennydd Gwladol Cymru, 1980; Cynllun iaith i’r Rhyl, 1981; Tai yn yr ardaloedd gwledig. Cyfrifoldebau Cyngor Dosbarth, 1981; rhaglen waith i Gorff Datblygu Addysg Gymraeg, 1983; Awdurdod iach i Wynedd, 1983' ; Awdurdod afiach Gwynedd, 1983; Byw yn y wlad. Tai cyngor a’r gymdeithas wledig Gymraeg yng Ngheredigion (Adroddiad gan Grŵp Ardaloedd Cymraeg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ?1983; Cymru 2000, 1984; Cynllunio dyfodol i’r iaith yng Ngheredigion, 1984; a Deddf newydd i’r iaith. Argymhellion, ?1984.

Cyhoeddiadau

Deunydd printiedig, 1970-1979, gan gynnwys Carchar dros ei iaith/In jail for his language [Ffred Ffransis] gan Gwilym Tudur, 1970; Achos yr arwyddion ffyrdd, 1971; Harri Williams (Berth), Cerddi gobaith, 1972; Mae’n hwyl bod yn Gymro, ?1972; Phil Bach, Achos y naw, 1972; Symbolau cyfiawnder. Arwyddion dwyieithog yng Nghymru. Hanes cyflawn ymgyrch arwyddion ffyrdd dwyieithog, 1972; Cymdeithas Amddiffyn Derwen Gam, adroddiad Rheinallt Evans a Cynog Dafis i bwyso ar Gyngor Dosbarth Gwledig Aberaeron, 1973; Bywyd i’r iaith, 1973; A allwn aros hyd 1976?, 1973; Llawlyfr y chwyldro, 1973; Ffred Ffransis, [B]lwyddyn ymhlith ein pobl, anerchiad,1974; Statws cyhoeddus yr iaith Gymraeg a Chyngor Sir Clwyd, 1977; Statws cyhoeddus yr iaith Gymraeg a Chyngor Sir Powys, ?1977; Memorandwm awdurdod cefn gwlad, 1974; Wynebwn yr her, 1976; Yr iaith mewn masnach (pamffled ymgyrchu), 1977; Yr ymgyrch dai (pamffled ymgyrchu), 1977; Yr iaith mewn llywodraeth (pamffled ymgyrchu), 1977; Cymdeithasiaeth (pamffled ymgyrchu), 1977; Calendr Cymdeithas yr Iaith 1979; Ffurfio a rhedeg cell ysgol, 1979; a Cynog Dafis, Cymdeithaseg iaith a’r Gymraeg, [1978].

Cyhoeddiadau

Deunydd printiedig, 1964-[1969], gan gynnwys Y Cyfamodwr. Hanes brwydr yr iaith hyd yma, 1966; The Welsh Language Society: what it’s all about?, 1966; ac Areithiau Eisteddfod Aberafan, 1966; Darlledu yng Nghymru: cyfoethogi neu ddinistrio'n bywyd cenedlaethol, [1969]; a Pam? peintio peintio peintio, 1969.

Cyhoeddiadau

Deunydd printiedig, gan gynnwys, Cynllunio dyfodol i’r iaith yng Ngogledd Preseli, 1985; S4C. Pwy dalodd amdani? Hanes ymgyrch ddarlledu Cymdeithas yr Iaith, [1985]; Yr unfed awr ar ddeg. Y Gymraeg mewn addysg yn Ne Morgannwg, 1985-1986; Cynllunio dyfodol i’r iaith, 1986; Tai yng Nghymru. Y sector breifat. Tystiolaeth i’r Pwyllgor dethol ar faterion Cymreig, 1986; Cynllunio dyfodol i’r iaith ar Ynys Môn, 1986; Y grym di-drais. Nodion Ffred Ffransis, 1986; Cownteri Cymraeg. Yr hanes hyd yn hyn!, 1986; Cau ysgol-lladd cymuned. Dogfen drafod ar ddyfodol ysgolion cymuned, 1986; Cymdeithasiaeth - yr ail ffrynt. Ysgrifennwyd y nodiadau hyn gan Ffred Ffransis tra roedd yng ngharchar, Hydref 1986; Ffred Ffransis, Wastad ar y tu fas, 1987; Hywel James, Tystiolaeth Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros Ddeddf Iaith newydd, 1987; Polisi Iaith Gwynedd. Chwalu’r myth, 1987; Rhyddid i’r ifanc, 1989, ynghyd â rhaglen I’r gad! Sioe i ddathlu 50 mlynedd o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, rifiw a berfformiwyd yn Theatr Fach y Maes, [Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg] yn 2012.
Ceir llungopi hefyd o adroddiad Gareth Roberts, Treffynnon,‘Cofio Pont Trefechan’, [papur bro] Y Glannau, Ebrill 2013.

Deunydd ymchwil

Papurau ymchwil, [1953]-1990, yn cynnwys torion gwreiddiol o'r wasg, ynghyd â nifer o lungopïau o ddogfennau megis gohebiaeth, cylchlythyrau a datganiadau i’r wasg yn ymwneud ag ymgyrchoedd a gweithgareddau Cymdeithas yr Iaith.

Effemera

Effemera yn perthyn i Gymdeithas yr Iaith, [1962]-[1988], gan gynnwys tocyn aelodaeth cynnar, [1962]; ‘Gwrthodwch dalu am deledu sy’n lladd yr iaith’, [1970au]; poster: ‘Ble mae’r Corff Datblygu Addysg Gymraeg?, [1986]: Cadwch Morfa’n fychan’, [1986] ac enghreifftiau o fathodynnau amrywiol, gan gynnwys, ‘Deddf Iaith Newydd’, ‘Popeth yn Gymraeg’, 'Carcharwch Ffred', 1986/1987.

Llythyrau A-I

Llythyrau oddi wrth Eileen a Trefor Beasley, Carl Clowes, Ithel Davies, John Davies, Menna Elfyn, Gwynfor Evans, Meg Elis, Meredydd Evans, Meinir Ffransis, Raymond Garlick, Dafydd Iwan ac eraill, 1984-1987, ynghyd â llungopïau o lythyrau oddi wrth Gwilym Tudur at amryw ohebyddion.

Llythyrau cyn ac ar ôl cyhoeddi'r gyfrol

Llythyrau ac ebyst yn dyddio o gyfnod cynnar ac yn ddiweddarach na Wyt ti'n cofio?, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Gareth Miles, Fred Francis [Ffred Ffransis], ynghyd â llythyrau a thorion yn ymwneud â'r sefyllfa yng Ngwlad y Basg yn 1977; e-bost oddi wrth Meic Stephens yn holi Gwilym Tudur am enwau'r protestwyr ar Bont Trefechan ar 2 Chwefror 1963; a llythyr oddi wrth Arwel Gruffydd, Theatr Genedlaethol Cymru, 2012, yn ymwneud â pherfformiad theatrig i ddathlu hanner can mlynedd ers protest Pont Trefechan.

Llythyrau J-O

Llythyrau a cherdyn post, 1984-1988, oddi wrth Geraint Jones, Harri Pritchard Jones, R. Tudur Jones, Robyn Lewis, Cen Llwyd, Gareth Miles, John Ogwen, Dafydd Orwig ac eraill, ynghyd â llungopïau o lythyrau oddi wrth Gwilym Tudur at amryw ohebyddion.

Llythyrau P-W

Llythyrau, 1984-1987, oddi wrth Mici Plwm, Helen Prosser, John Rowlands, Toni Schiavone, Meic Stephens, Angharad Tomos, Steffan Webb, Dafydd Wigley, Eirug Wyn ac eraill, ynghyd â llungopïau o lythyrau oddi wrth Gwilym Tudur at amryw ohebyddion.

Nodiadau Angharad Tomos

Nodiadau Angharad Tomos ar hanes Cymdeithas yr Iaith, 1979-1986, ar gyfer y gyfrol Wyt ti’n cofio? : chwarter canrif o frwydr yr iaith, ynghyd â “Mae’r achos yn parhau …”. Llawlyfr ar weithredu uniongyrchol (Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, 1987), gan gynnwys rhestri o’r swyddogion, aelodau’r senedd a grwpiau, 1962-1987.

Papurau Gwilym Tudur (Wyt ti'n cofio?)

  • GB 0210 GWIDUR
  • Fonds
  • [1950]-[2013]

Papurau Gwilym Tudur, [1950]-[2013], a grynhowyd ganddo wrth ymchwilio ar gyfer ei gyfrol Wyt ti'n cofio?: chwarter canrif o frwydr yr iaith a gyhoeddwyd gan Wasg y Lolfa, Tal-y-bont, yn 1989, gan gynnwys atgofion a phrofiadau llygad-dystion a fu’n ganolog i frwydr yr iaith. = Papers of Gwilym Tudur, [1950]-[2013], accumulated by him whilst researching for his book Wyt ti'n cofio?, published by Y Lolfa, Tal-y-bont, in 1989, including eyewitness recollections of Welsh language campaigners.

Am y cyhoeddiad gweler, er enghraifft: https://openlibrary.org/books/OL21710491M/Wyt_ti%27_n_cofio = For the publication see, for example: https://openlibrary.org/books/OL21710491M/Wyt_ti%27_n_cofio

Tudur, Gwilym

Canlyniadau 1 i 20 o 43