- NLW MS 14402B.
- File
- [1780au]
Cyfrol yn cynnwys barddoniaeth a chaneuon yng Nghymraeg a Saesneg, ynghyd â rhai testunau rhyddiaith Cymraeg, a gopïwyd, [1780au], gan Humphrey Jones o Gastell Caereinion, sir Drefaldwyn. = A volume of Welsh and English poetry, with some Welsh prose texts, transcribed, [1780s], by Humphrey Jones of Castle Caereinion, Montgomeryshire.
Ceir yn y llawysgrif gerddi Cymraeg gan John Thomas o sir Drefaldwyn (tt. 2-11), John Thomas 'o bentre'r Fidog' [Pentrefoelas] (tt. 12-14), Robert Evan[s] o Feifod (tt. 16-17) a David Evans o Lanfair Caereinion (tt. 23-24), pedwar cywydd gan Morys Probert [ap Robert], Huw Llwyd Cynfel ac eraill (tt. 46-52), a phedwar englyn (tt. 52, 54). Mae'r cerddi Saesneg, ar amrywiaeth o bynciau (tt. 1, 14-15, 19-23, 25-29, 44-45, 53), yn cynnwys y gân 'On Masons and Masonry' gyda'r dôn mewn hen nodiant (t. 53). Fe gynhwysir hefyd adysgrif o'r cyfan o'r gyfrol Histori Nicodemus… A osodwyd allan gan Dafydd Jones (Yr Amwythig, [?1745]) (tt. 30-43); a rysáit meddyginiaethol ar gyfer clefyd y brenin, neu'r mandwyn (tu mewn i'r clawr blaen). = The manuscript includes Welsh poems by John Thomas of Montgomeryshire (pp. 2-11), John Thomas 'o bentre'r Fidog' [Pentrefoelas] (pp. 12-14), Robert Evan[s] of Meifod (pp. 16-17) and David Evans of Llanfair Caereinion (pp. 23-24), four cywyddau by Morys Probert [ap Robert], Huw Llwyd Cynfel and others (pp. 46-52), and four englyns (pp. 52, 54). The English poems, on various subjects (pp. 1, 14-15, 19-23, 25-29, 44-45, 53), includes a song 'On Masons and Masonry' accompanied by the tune in staff notation (p. 53). Also included is a transcript of the whole of the volume Histori Nicodemus… A osodwyd allan gan Dafydd Jones (Shrewsbury, [?1745]) (pp. 30-43); and a medical recipe for the 'King’s Evil', or scrofula (inside front cover).
Jones, Humphrey, 1719-1810