Dangos 3 canlyniad

Disgrifiad archifol
Hughes, Thomas Rowland ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

Llythyrau a drafftiau

44 llythyr a drafftiau o 58 cerdd, 5 erthygl, 3 ysgrif, 2 stori fer ac un drama, 1925-1944, yn cynnwys cyfraniadau gan T. Rowland Hughes, 1942, R. T. Jenkins, 1943, D. Miall Edwards, 1935, G. J. Roberts, 1944, B. T. Hopkins, 1927, H. Meurig Evans, 1936, H. D. Lewis, 1936, L. Haydn Lewis, 1938, Meurig Walters, 1938, Waldo Williams, 1939, T. I. Ellis, 1940, J. T. Jones, 1938, D. Tecwyn Lloyd, 1940, T. E. Nicholas, 1941, Alun T. Lewis, 1941, D. Jacob Davies, 1941, J. M. Edwards, 1940, E. Tegla Davies, 1925. Mae'r ffeil yn cynnwys hefyd restr 'Barddoniaeth' rhwng 1927 ac 1941, ond ni restrir rhan helaeth o'r ffeil ynddo.

Hughes, Thomas Rowland

Sgriptiau radio

Sgriptiau radio, 1936-1952 (gyda bylchau), y bu Norah Isaac yn actio ynddynt neu'n llefarydd. Yn eu plith mae 'Gwener y Grôg' gan T. Rowland Hughes, 1936; a 'Pryddestau radio. Y Patrwm' gan T. Glynne Davies, 1952.

Hughes, Thomas Rowland

Storïau'r Tir Du

Drafftiau llawysgrif o'r storïau a gyhoeddwyd yn Storïau'r Tir Du yn 1949: 'Y gorlan glyd', 1948; 'Colbo Jones yn ymuno â'r fyddin', 1941, gyda llythyr oddi wrth Tom Parry, 1941, yn ei gwrthod am ei bod yn rhy hir, a llythyr oddi wrth T. Rowland Hughes, 1941, yn ei gwrthod am yr un rheswm; 'Y Capten a'r Genhadaeth Dramor' (teipysgrif), 1943; a 'Ceinwen', 1949. Ceir 'Meca'r Genedl' mewn rhifyn o'r Fflam, Nadolig 1946, wedi'i diwygio; ynghyd ag adolygiadau o'r gyfrol, 1950.

Hughes, Thomas Rowland