Showing 2 results

Archival description
Only top-level descriptions Edwards, W. Llewelyn (William Llewelyn), 1908-2000
Print preview View:

Papurau W. Llewelyn Edwards,

  • NLW ex 2928
  • Ffeil = File
  • [1915]-[1993]

Papurau ychwanegol, [1915]-[1993], y cerddor William Llewelyn Edwards, yn cynnwys drafft o’i gyfrol gyntaf o emyn-donau Clychau’r maes (Llandysul, 1976) gyda’r hen nodiant yn ei law; llyfrau lloffion yn cofnodi ei lwyddiannau cerddorol a darlledu eu emyn-donau ar ‘Caniadaeth y Cysegr’; llythyrau yn ei longyfarch ar ennill y wobr gyntaf am gyfansoddi emyn-dôn yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1982; a nodiadau cefndirol ar ei emyn-donau. Ceir traethawd ‘Golwg ar fywyd a gwaith William Llewelyn Edwards, Bron Rhiwel, Llandre, Bow Street, cyfansoddwr emyn donau’ gan Anwen Ebenezer, a chyfrol ’Iesu bia’r gân’ yn cynnwys emyn-donau J. T. Rees a fu’n dysgu cerddoriaeth i William Llewelyn Edwards.

Edwards, W. Llewelyn (William Llewelyn), 1908-2000

Emyn-donau a phapurau eraill William Llewelyn Edwards

  • NLW ex 2100
  • File
  • 1920-1996

Casgliad o lungopïau o emyn-donau W. Llewelyn Edwards (1908-2000); llyfrau nodiadau yn cynnwys nodiadau ar gyfer rhaglenni 'Caniadaeth y Cysegr' o dan ei arweiniad a gynhaliwyd yng Nghapel y Garn, 1958-1972, a chymanfaoedd canu eraill a gynhaliwyd yn lleol, 1965-1976; llyfr nodiadau ar achlysur Cymanfa Ganu a gynhaliwyd i ddathlu canmlwyddiant geni'r cerddor J. T. Rees, 1957; llyfr nodiadau yn cynnwys ei emyn-donau a ddefnyddiwyd yn 'Caniadaeth y Cysegr', 1992; torion o emyn-donau a ymddangosodd yn Trysorfa'r Plant, 1951-1959; nodiadau ar gerddoriaeth; ynghyd â thystysgrifau amrywiol, 1920-1996, am ei lwyddiant mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol ar gyfansoddi emyn-donau ac am lwyddo mewn arholiadau canu'r piano a sol-ffa yn bennaf; a phapurau'n ymwneud â chanlyniadau'r arholiadau sol-ffa gan gynnwys llythyr, 1956, yn ei hysbysu iddo gael ei benodi yn un o arholwyr Coleg y Tonic Sol-ffa.

Edwards, W. Llewelyn (William Llewelyn), 1908-2000