Nofelau'n ymwneud â bywyd y môr (y fedal ryddiaith); straeon byrion; gweithiau gwreiddiol ar ffurf cyfres o lythyrau; cadwyn o dair ysgrif; mynegeion i gylchgrawn Cymraeg heb ei fynegeio a llawlyfr o weddïau.
Cyfrolau o ryddiaith greadigol ar y thema 'Caethiwed' neu 'Gorfoledd' (y fedal ryddiaith); straeon byrion; straeon byrion digri; casgliad o goelion unrhyw ardal; pum erthygl; casgliad o atgofion am Evan Roberts; dwy bennod o nofel i blant a dwy bennod o gyfieithiad o'r gwreiddiol.
Straeon byrion : 'Perthyn'; ysgrifau : 'Hiwmor bro'; portread o gymwynasydd bro; sgwrs ddychmygol rhwng eisteddfodwr ddoe a heddiw; pigion o ddyddiadur mis : rhywun mewn cyfyng gyngor; casgliad yn cynnwys amrywiaeth o bytiau gwaelod tudalen ar batrwm deunydd llenwi-bwlch Reader's Digest a chasgliad o ddeg o straeon arswyd i ddarllenwyr tua 12-14 oed.
Straeon byrion : 'Gwewyr'; casgliad o chwe phortread; cyfres o dair stori ar gyfer yr arddegau; tair sgwrs ar dâp addas ar gyfer yr arddegau; stori wir : hanes llofruddiaeth neu achos llys a ddenodd sylw yn y cyfnod diweddar a llyfr crwydro ar y thema o ddilyn un o afonydd Cymru.
Nofelau heb eu cyhoeddi (Gwobr Goffa Daniel Owen); cystadleuaeth i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes ac yn dal i fyw yn Ariannin (atgofion personol bywyd a gwaith); casgliad o ryddiaith mewn unrhyw gyfrwng : 'Teulu dyn'; nofelau cyfoes byr a chasgliad o straeon am ysbrydion.
Stori fer: yn seiliedig ar unrhyw ddihareb; portreadau o dri chymeriad lleol ar gyfer papur bro; sgwrs rhwng dau ar 'Deg o'm cas bethau' yn null Room 101; erthygl hyd at 5000 o eiriau: datblygiad chwyldroadol mewn unrhyw faes o ddechrau'r ugeinfed ganrif ymlaen; ysgrif ar ymdeimlad o le; tywys-daith o amgylch tref neu ddinas; tair ymson gan dri unigolyn yn ymateb i'r un sefyllfa ddirdynnol; a llyfr o deithiau mewn ardal arbennig.
Darn neu ddarnau o ryddiaith ar ffurf benodol (Ysgoloriaeth Emyr Feddyg); stori fer wedi ei lleoli dramor; casgliad o 10 stori ar ffurf llên meicro ar y thema 'Perthynas'; stori ffantasi i bobl ifanc; ysgrif bortread; un bennod o hunangofiant; a darn o ryddiaith yn dychanu unrhyw sefydliad Cymreig.
Straeon byrion yn ymwneud â byd y cyfryngau; pigion o ddyddiadur myfyriwr; cyfrol o storïau gwreiddiol yn ymwneud â byd chwaraeon, i blant 12-15 oed; cyfrol o storïau gwreiddiol ar gyfer darllenwyr ysgol uwchradd; llyfryn i'r carafaniwr dibrofiad; erthygl : 'Coron yr Eisteddfod Genedlaethol am ryddiaith?'; cystadleuaeth i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes : 'Fy ysgol i' a nofel i blant 11-13 oed;
Tair erthygl ar arferion a choelion gwerin cyfoes; nofel ar ffurf dyddiadur bachgen ysgol; straeon yr aelwyd; arweinlyfr neu gyflwyniad ffeithiol a chyfieithiadau o ddwy bennod o nofel dditectif gan Raymond Chandler.
'Ffantasi'; astudiaeth feirniadol o weithiau Islwyn Ffowc Elis hyd at 1961; traethawd : 'Dylanwad y plas ar unrhyw ardal'; traethawd : 'Diwinyddiaeth rhyddhad' a cychwyn cyfrol ar batrwm The Observer Book of ...