Showing 3783 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales file Welsh
Print preview View:

4 results with digital objects Show results with digital objects

Problemau cymdeithasol

Mae'r ffeil yn cynnwys datganiadau i'r wasg ac adroddiadau yn ymwneud â phroblemau cymdeithasol yng Nghymru, 1987-1989.

'Priodas waed'

Sgript 'Priodas waed', cyfieithiad o ddrama Federico Garcia Lorca, a gyflwynwyd gan Gwmni Coleg y Drindod, Caerfyrddin yn [Eisteddfod Genedlaethol Y Drenewydd, 1965], ynghyd â manylion am y cynhyrchiad o [Raglen y Dydd]. [Troswyd y ddrama i'r Gymraeg gan John Davies a John Rowlands a'i golygu gan Gareth Alban Davies].

Pregethau,

  • NLW MS 16126B.
  • file
  • 1812-1819 /

Pregethau, 1812-1819, gan, ac yn llaw, y Parch. Joshua Watkins, gweinidog Penuel, Eglwys y Bedyddwyr, Caerfyrddin. Mae mynegai i'r pregethau ar ddechrau'r gyfrol. = Sermons, 1812-1819, by, and in the hand of, the Rev. Joshua Watkins, minister of Penuel Baptist Church, Carmarthen. An index to the sermons appears at the beginning of the volume.

Watkins, J. (Joshua) 1769 or 70-1841

Pregethau,

  • NLW MS 16210i-viiiB.
  • file
  • 1846-1885 /

Nodiadau pregethau, 1846-1885, gan y Parch. Samuel Jones, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yng Nghastell-nedd, Cefncoedycymer a Chaerdydd. = Sermon notes, 1846-1885, by the Rev. Samuel Jones, Calvinistic Methodist minister at Neath, Cefncoedycymer and Cardiff.

Jones, Samuel, 1812-1886.

Pregethau,

  • NLW MS 23885B.
  • file
  • [18 gan., canol]-1807 /

Llyfr nodiadau yn cynnwys dwy bregeth ar gyfer y Pasg, [18 gan., canol]. Mae arnodiadau, mewn llaw ddiweddarach, yn dangos eu bod wedi eu pregethu yn Llanegryn, sir Feirionnydd, ar amryw o achlysuron rhwng 1791 a 1807. = A notebook containing two Easter sermons, [mid 18 cent.], in Welsh. Annotations, in a later hand, indicate that they were preached at Llanegryn, Merionethshire, on various occasions between 1791 and 1807.
Mae tair gweddi y tu mewn i'r cloriau, yn ôl pob tebyg yn llaw Robert Morgan, curad Llangelynnin, sir Feirionnydd. = Inside the covers are three prayers, apparently in the hand of Robert Morgan, curate of Llangelynnin, Merionethshire.

Morgan, Robert, fl. 1778-1784.

Pregethau i'r plant

Mae'r ffeil yn cynnwys pregethau i'r plant, Yr Arglwydd Iesu a'r Plant',Yr Aelwyd a'r plant' ac `Y Bedyddwyr a'r plant'. Hefyd, ceir yn un o'r llyfrau nodiadau fanylion treuliau cwrdd chwarter rhan uchaf Sir Gaerfyrddin am 1934-1935.

Pregethau cynnar,

  • NLW ex 2744.
  • file
  • 1746-1786.

Pregethau cynnar, 1746-1786, gan awdur anhysbys. = Early sermons, 1746-1786, by an unknown author.

Pregethau Cymraeg

Mae'r ffeil yn cynnwys pregethau Cymraeg yn bennaf, [1910]-[1954], gyda rhai Saesneg, rhestrau o bregethau, a toriadau o bregethau a ymddangosodd yn ?Seren Cymru a Seren yr Ysgol Sul.

Pregethau amrywiol,

Pregethau Saesneg, [1943]-[1980], yn bennaf. Ceir 'Pregethau'r Adfent' gan gynnwys ei bregeth 'Yr allwedd i hanes' a ddarlledwyd ar 'Oedfa'r Bore' yn 1980. Mae rhestr o'r pregethau yn yr amlen leiaf.

Pregethau a nodiadau pregethau

Mae'r ffeil yn cynnwys pregethau, cynlluniau pregethau a nodiadau gan Ben Bowen, gan gynnwys drafftiau o 'Y Lili', 'Duw yn Ateb' a 'Milwr Iesu Grist'; nodiadau o bregethau a glywodd Ben Bowen, 1896-1899, ynghyd â nodyn gan E. K. Jones yn rhestru enwau rhai o'r traddodwyr. Cyhoeddwyd 'Y Lili', 'Duw yn Ateb' a 'Milwr Iesu Grist' yn David Bowen (gol.), Rhyddiaith Ben Bowen, Caerdydd, 1909.

Jones, E. K. (Evan Kenffig), 1863-1950

Pregethau

Pregethau unigol a rhai mewn llyfrau nodiadau heb eu dyddio [ond credir eu bod yn deillio o'r flwyddyn 1913 pan oedd D. J. Williams yn ei drydedd flwyddyn yn y Brifysgol yn Aberystwyth a bu'n sefyll arholiad i bregethwyr lleyg], un ohonynt yn nodi lle bu'n pregethu, 1913-1914, ynghyd â llyfr nodiadau'n cynnwys pwyntiau a wnaed mewn Ysgol Haf yr [Ysgol Sul] yn Llanwrtyd, 1920.

Pregethau

Llyfr nodiadau'n cynnwys pregeth (Hebreaid 12.1.2) gan Crwys, 1892; ?pregeth 'Yr Eglwys yn Ioan'; ynghyd â nodiadau pregethau a luniodd yn ystod blynyddoedd olaf ei fywyd a nodiadau Beiblaidd, [1892]-[1968].

Pregethau

Mae'r ffeil yn cynnwys hefyd nodiadau ar William Thomas (Islwyn).

Pregeth,

  • NLW MS 16191A.
  • file
  • 1842 /

Pregeth, 1842, ar Lyfr y Pregethwr 9.5 gan ac yn llaw 'Richard Hughes, Pendery' [y Parch. Richard Hughes, Rheithor Llanfallteg, sir Gaerfyrddin, mae'n debyg]. = An autograph sermon, 1842, on Ecclesiastes 9.5 by 'Richard Hughes, Pendery' [probably the Rev. Richard Hughes, Rector of Llanfallteg, Carmarthenshire].

Hughes, Richard, -1855.

Pregeth o Lyfr Exodus,

  • NLW MS 23793C.
  • file
  • [?1772] /

Cyfrol yn cynnwys pregeth ar Exodus 20.7, [?1772], yn llaw y Parch. Robert Bulkeley, curad Llandyfrydog a Llandrygarn gyda Bodwrog, a churad parhaol Bodewryd, sir Fôn. = A volume containing a sermon on Exodus 20.7, [?1772], in the hand of the Rev. Robert Bulkeley, curate of Llandyfrydog and Llandrygarn with Bodwrog and perpetual curate of Bodewryd, Anglesey.
Traddodwyd y bregeth ym Modedern, Llandrygarn gyda Bodwrog a Llanfechell, sir Fôn, rhwng 1772 a 1785 (rhestrwyd y lleoliadau ar y clawr blaen a t. 27). Ychwanegwyd dalennau rhyddion at y gyfrol cyn iddi gyrraedd LlGC (ff. 4a, 12a, 22a). = The sermon was preached at Bodedern, Llandrygarn with Bodwrog and Llanfechell, Anglesey, between 1772 and 1785 (locations listed on front cover and p. 27). Leaves formerly loose within the volume have been tipped in prior to their donation to NLW (ff. 4a, 12a, 22a).

Bulkeley, Robert, 1736-1792.

Results 681 to 700 of 3783