Dangos 2 canlyniad

Disgrifiad archifol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Peate, Iorwerth Cyfeiliog, 1901-1982 -- Correspondence Ffeil Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

Gohebiaeth ynglŷn â Colofn Pobl Ieuainc y Tyst

  • NLW MS 14027D.
  • Ffeil
  • 1924

Gohebiaeth, Mawrth-Mai 1924, rhwng Beriah Gwynfe Evans a Iorwerth C. Peate yn amlygu ffrae rhyngddynt ynglŷn â golygu Colofn Bobl Ieuainc yn y Tyst. = Correspondence, March-May 1924, between Beriah Gwynfe Evans and Iorwerth C. Peate revealing a quarrel between them regarding the editing of a youth column in the Tyst.
Ymddiswyddodd Peate fel is-olygydd y golofn ar ôl i Evans, y golygydd, wrthod cyhoeddi darn ganddo yn beirniadu adolygiad (yn y Tyst, 6 Mawrth 1924, Atodlen Llen, t. i) o act gyntaf Blodeuwedd, drama Saunders Lewis (a gyhoeddwyd yn y Llenor, 2 (1924), 231-244). Cyhoeddwyd eglurhad gan Peate o'r digwyddiadau (ff. 14-17) yn Baner ac Amserau Cymru, 5 Mehefin 1924, t. 5. Ceir fersiwn arall o'r eglurhad ar ff. 20-34. Ceir hefyd lythyr, 5 Mehefin 1924, i Evans oddiwrth H. M. Hughes, awdur yr adolygiad gwreiddiol (f. 35). = Peate resigned as sub-editor of the column after Evans, the editor, refused to print a piece by him criticizing a review (in the Tyst, 6 March 1924, Literature Supplement, p. i) of the first act of Saunders Lewis' play Blodeuwedd (as published in Llenor, 2 (1924), 231-244). Peate's explanation of events (ff. 14-17) was published in Baner ac Amserau Cymru, 5 June 1924, p. 5. Another version of the explanation is ff. 20-34. There is also a letter, 5 June 1924, to Evans from H. M. Hughes, author of the initial review (f. 35).

Peate, Iorwerth Cyfeiliog, 1901-1982

Llythyrau amrywiol,

Ymhlith y gohebwyr mae W. J. Gruffydd (1); E. Morgan Humphreys (1); Rhiannon Davies Jones (1); John Lloyd, ei dad (1); Thomas Parry (2); Iorwerth Peate (2); Goronwy Roberts (1); David Thomas (Lleufer); a G. J. Williams (1).

Gruffydd, W. J. (William John), 1881-1954