Dangos 5 canlyniad

Disgrifiad archifol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Gillies, William Ffeil Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

Adeilad, chyfleusterau, a phrosiectau'r Ganolfan

Gohebiaeth, 1990-1993, yn ymwneud ag adeilad y Ganolfan, yn trafod gweithgareddau codi arian, gwaith i wella adeilad y Ganolfan a’i chyfleusterau, trefniadau agoriad swyddogol yr adeilad newydd yn Mai 1993, a phrosiectau ymchwil; yn cynnwys llythyrau oddi wrth Geraint H. Jenkins; Eric Thomas; Kenneth Morgan; Elwyn Jones; D.I. George; Andrew Hawke; Emyr Roberts; J. D. Pritchard; T. Gwynfor Griffith; P.S. Robinson; Jan Gendall; R. Geraint Gruffydd; Ralph A. Griffiths; Moosong Goh; Miranda Aldhouse-Green; Glenys Goetinck; a William Gillies.

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylliedig

Cofnodion Cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Ionawr, Mai, a Hydref 2004; agendâu, Mai 2004 a Mai 2005; copi o’r Adolygiad Rolau, Swyddogaethau a Strwythur Prifysgol Cymru a’i Pherthynas â’r Sefydliadau yn y Dyfodol (2005); amcangyfrifon ariannol, 2004-2005 i 2008-2009 (2005); a chofnodion cyfarfod yr Is-bwyllgor Ymarferiad Asesu Ymchwil (2004 a 2005). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion ariannol (2004), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Vera Bowen; R. Geraint Gruffydd; Branwen Jarvis; Jenny Childs; Linda Tiller; Geraint H. Jenkins; William Gillies; Catherine McKenna; a Barry Cunliffe.

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Hydref 2003 ac Ionawr 2004; agenda, Ionawr 2004; a chopi o Adroddiad Blynyddol y Ganolfan, 2002-2003 (2003). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (2003-2004), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Ruth ab Ieuan; John T. Koch; Dana Thomas; William Gillies; Catherine McKenna; Barry Cunliffe; Penny Dransart; Ian George; Geraint H. Jenkins; Beryl Wyn Jenkins; Nicola Williams; Ann Parry Owen; Richard Wyn Jones; R. Geraint Gruffydd; a Lynn Williams.

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod ac agendâu Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Mai 2006 a Hydref 2006; adroddiad blynyddol y Ganolfan, 2005-2006 (2006); adroddiad ariannol 2005-2006 (2006); copi o gylchlythyr y Ganolfan, rhif 9 (Haf 2006); a chopi o’r Adolygiad o’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd a’r Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 2006. Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (2006), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Ann Parry Owen; Vera Bowen; John T. Koch; William Gillies; Alun Daniel; Máirín Ní Dhonnchadha; a Linda Tiller.