Showing 1388 results

Archival description
File Welsh
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Gwaith cynnal a chadw; llif arian; cyflog a swyddi; digwyddiadau; yr ŵyl ieithoedd EWROSGOL Cymru; sêl Plas Pistyll; achos HTV yn erbyn cyfreithwyr Hugh James

Gohebiaeth a phapurau, 1990-97, yn ymwneud â materion gweinyddol amrywiol, yn cynnwys grantiau, llif arian a chyfrifon, cyflog a swyddi, digwyddiadau; marchnata; a gwaith cynnal a chadw. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys papurau a gohebiaeth yn ymwneud â Gŵyl ieithoedd Ewrosgol Cymru (1991); sêl Plas Pistyll (1995-1996); achos HTV yn erbyn cyfreithwyr Hugh James (1996-1997); copi o Adroddiad Bwrdd yr Iaith Gymraeg (1995), a copi o Cynllun Strategol Nant Gwrtheyrn (1997).

Gwaith yr Iesu,

Copi mewn llawysgrif o drefniant Gilmor Griffiths o 'Gwaith yr Iesu', o'r alaw 'Saron' gan Thomas Hughes, Gendros, ar gyfer S.A.T.B., geiriau Cymraeg gan Elfed.

Gweithgareddau staff; swyddi; amserlenni; hyforddiant staff; a pholisïau staff

Gohebiaeth a phapurau, 1986-2013, yn ymwneud â materion staff, yn cynnwys gweithgareddau staff (1993); ffurflenni oriau gwaith (1992-1993); disgrifiadau swydd (1991-1993); adroddiad y cyfarwyddwr (1987); hyfforddiant staff (1992); hysbysebu swyddi (2001-2007); a pholisïau staff (1997-2013). Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys disg hyblyg wedi ei theitlo ‘Disgrifiadau Swydd’ (1993).

Gwella'r ffordd; swyddfa Llithfaen; pryniant Plas Pistyll; y Ganolfan Ewropeaidd yr Ieithoedd Llai eu Defnydd; cynlluniau adeilad o tai'r Nant; estyniad Caffi Meinir

Gohebiaeth a phapurau, 1986-1990, yn trafod gwella’r ffordd i’r Nant, yn cynnwys un ffotograff lliw (1988); materion yr Ymddiriedolaeth, y swyddfa yn Llithfaen, materion ariannol, a chofnodion cyfarfod (1989); pryniant a chynlluniau Plas Pistyll, swyddi, grantiau, y Ganolfan Ewropeaidd, marchnata, swyddfa Llithfaen, a chynlluniau pensaernïol o dai’r Nant (1990). Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys papur trafod (1986); ac adroddiad cynnydd a chost (1986).

Gwennol y bondo,

Sgôr mewn llawysgrif a llungopïau o 'Gwennol y bondo' gan Gilmor Griffiths, geiriau gan Dorothy Jones. Trefniant ar gyfer lleisiau merched neu blant (S.A.).

Results 701 to 720 of 1388