Showing 7 results

Archival description
Bowen, Euros. Welsh
Print preview View:

Dyddiadur

Dyddiadur T. Llew Jones ar gyfer 1971, sy'n cynnwys cofnodion yn ymwneud â'i ddiddordebau a'i fywyd bob dydd. = Diary of T. Llew Jones for 1971, giving an account of his daily life and interests.
Cynhwysa'r gyfrol gyfeiriadau at farddoniaeth Euros Bowen (f. 7 verso) ac at awdl gan Donald Evans (f. 16 recto), cystadlaethau gwyddbwyll Iolo Ceredig Jones (passim), John Alun Jones (passim), Alun Cilie (passim), Dic Jones (passim), marwolaeth Waldo Williams (ff. 20 verso-21 verso), ac ymddangosiad llys gan Dafydd Iwan (ff. 18 verso, 20); hefyd at Ysgol Gynradd Coed-y-bryn, Llandysul (passim) ac Ysgol Gynradd Trewen, Cwm-cou (f. 37 verso), ac at ddirywiad yr iaith Gymraeg yn Rhydlewis ac Aber-banc (f. 37 verso). = The volume contains references to the poetry of Euros Bowen (f. 7 verso) and to an awdl by Donald Evans (f. 16 recto), Iolo Ceredig Jones' participation in chess tournaments (passim), John Alun Jones (passim), Alun Cilie (passim), Dic Jones (passim), the death of Waldo Williams (ff. 20 verso-21 verso), and a court appearance by Dafydd Iwan (ff. 18 verso, 20); also references to Coed-y-bryn Primary School, Llandysul (passim) and Trewen Primary School, Cwm-cou (f. 37 verso), and to the decline of the Welsh language in Rhydlewis and Aber-banc (f. 37 verso).

Dyddiadur,

Llyfr nodiadau, 1957-1976, yn eiddo i T. Llew Jones, a ddefnyddiwyd yn achlysurol fel dyddiadur rhwng Tachwedd 1957 a Mawrth 1963 (ff. 1-61), gyda chofnodion unigol ar gyfer 16 Mehefin 1971 a 16 Hydref 1976 (ff. 61 verso-66). Ceir adroddiad, Chwefror-Mawrth 1963, o restiad ac erlyniad Emyr Llewelyn, a gyhuddwyd o danio ffrwydryn yng Nghwm Tryweryn, Bala (ff. 50 verso-61, 63). = Notebook, 1957-1976, of T. Llew Jones, used sporadically as a diary between November 1957 and March 1963 (ff. 1-61), with single entries for 16 June 1971 and 16 October 1976 (ff. 61 verso-66). Included is an account, February-March 1963, of the arrest and prosecution of Emyr Llewelyn, accused of causing an explosion at Cwm Tryweryn, Bala (ff. 50 verso-61, 63).
Cynhwysa'r gyfrol gyfeiriadau at Waldo Williams (ff. 2-45 verso passim), a'i gystudd olaf a'i farwolaeth (ff. 61 verso-64), Gwenallt (ff. 6, 52 verso), Proinsias Mac Cana (f. 6 recto-verso), Saunders Lewis (ff. 7 recto-verso), Alun Cilie (ff. 15, 20 verso, 38 verso, 64 verso-65), Cassie Davies (f. 17), Dic Jones (ff. 20 verso, 22), John Alun Jones (ff. 22, 52 verso, 54), W. Rhys Nicholas (ff. 22, 60 verso), Euros Bowen (ff. 29 verso-30 verso), Bobi Jones (ff. 31, 52 verso), Dilwen M. Evans (f. 32 recto-verso), Dewi Emrys (f. 41 verso), W. R. P. George (ff. 51, 58), Gwilym Tudur (f. 56 verso-57), ac Elwyn Jones (ff. 59 verso-60 verso); ceir cyfeiriadau hefyd at gystadlaethau'r Gadair yn Eisteddfodau Cenedlaethol Glyn Ebwy, 1958 (ff. 3 verso-4, 9, 31 verso, 33 verso-36), a Chaernarfon, 1959 (ff. 39 verso-40 verso), sinema symudol yn Nhregroes (ff. 4 verso-5), Cymdeithas Lyfrau Ceredigion (f. 13 recto-verso), cyfarfod Plaid Cymru yn Aberaeron (f. 16 recto-verso), cyfarfod yr Urdd yn Llandysul (f. 17 verso), a barddoniaeth Gymraeg (ff. 29 verso-31).

Enghreifftiau o'i ddychan,

'Buchedd Euraus Yffeirat' [yn gwneud hwyl am ben Euros Bowen, gweler Bro a Bywyd D. Tecwyn Lloyd am adysgrif], ynghyd â theipysgrif erthygl ddychanol 'Dryll o hen lawysgrif' gan Llywelyn Pinkerton Emerson [D. Tecwyn Lloyd] i Studia Celtica Japonica.

Gradd DLitt Euros Bowen,

Cais J. Gwyn Griffiths i anrhydeddu Euros Bowen gyda gradd er anrhydedd yn 1984 [fe'i derbyniodd yn 1986], gan gynnwys llythyrau oddi wrtho, Glanmor Williams, B. F. Roberts, Caerwyn Williams, Bedwyr [Lewis Jones] a Bobi Jones, ynghyd ag adolygiad J. Gwyn Griffiths, [1991], o gyfieithiad Euros Bowen o Philoctetes gan Sophocles.

Llythyrau (Cyfnod Coleg Bala-Bangor),

Llythyrau gan gynnwys rhai oddi wrth Lewis Valentine, Aneirin Talfan Davies, Dom Hubert Dauphin, Euros [Bowen], ynghyd â llythyr oddi wrth Pennar Davies at J. E. Daniel, 1946. Ceir llungopïau [Densil Morgan] o [Blwyddiadur a Llawlyfr yr Annibynwyr, 1946-1950], yn rhestru'r myfyrwyr yn Athrofa Bala-Bangor.

Valentine, Lewis.

Llythyrau,

Llythyrau, 1953-[1999], gan gynnwys rhai oddi wrth Bleddyn J. Roberts, Katrin [Kate Bosse-Griffiths], Iorwerth Jones, Prys Morgan, Aneirin Talfan Davies, Mathonwy Hughes, R. Brinley Jones, Gwilym R. Jones, Gwilym Rees Hughes, Gareth [Alban Davies] (2), D. Ellis Evans (2), Melfyn R. Williams, Bobi Jones (2), John Tudno Williams (2), Brinley Rees, Dafydd Orwig (3), [D.] Myrddin [Lloyd], Cyril Williams (4), Gwilym H. Jones (3), W. D. Davies (4), Marian Henry Jones (5), Euros [Bowen], Nigel Jenkins, Gwilym Ll[oyd] Edwards (2), Alan Llwyd, Telfryn [Pritchard] (5), W. Eifion Powell, Cedric Maby, Mari Ellis, Gerald Morgan, Dafydd Islwyn, Ned Thomas (2), Alun R. Jones (2), Simon Brooks, Rob[at] [Gruffudd], D. Densil Morgan, Pennar [Davies] (2) ac Aneirin [Talfan Davies]. Ceir drafftiau o rai o lythyrau J. Gwyn Griffiths ar ddiwedd y rhediad.

Roberts, Bleddyn J. (Bleddyn Jones)

Llythyrau,

Llythyrau, [1943]-[1961]. Ymhlith y gohebwyr mae Gwenallt, T. Charles Edwards (2), D. J. Wiliams, Saunders Lewis, Dr Noëlle Davies, Keidrych Rhys (2) ac Euros [Bowen], ynghyd ag enghreifftiau o emynau Saesneg a luniwyd ganddo.