Dangos 125 canlyniad

Disgrifiad archifol
Cyfres / Series Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

Pwyllgor Ymchwilio i’r heintiad E.coli yng Nghymru (A-DEB-45),

Ffeiliau Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor. Gall y ffeiliau hyn yn cynnwys yr agenda ar gyfer y cyfarfodydd, cofnodion, adroddiadau, gohebiaeth, gwahoddiadau a mynychwyr, ac eitemau printiedig.
Cylch gorchwyl y Pwyllogr oedd trafod telerau ac amodau ar gyfer ymchwiliad to Io dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005 ac adrodd ar ei gasgliadau i’r Cynulliad Cenedlaethol erbyn 7 Rhagfyr 2005.

Toriadau papurau newydd,

Toriadau o bapurau newydd a chylchgronau cerddoriaeth gan gynnwys 'Melody Maker', 'NME', 'Vox', 'MOJO', 'Western Mail', 'Golwg' a'r 'Daily Post'. Mewn trefniant cronolegol bras, a'i baratoi ar gyfer ei roi mewn llyfrau lloffion.

Cylchgronau a phapurau cerddoriaeth,

Casgliad o gylchgronau cerddoriaeth sy’n cynnwys erthyglau am y Super Furry Animals. Teitlau'n cynnwys 'Melody Maker', 'NME', 'Select', 'Q', 'Vox', 'Sothach', 'Y Selar', 'Golwg' ac eraill. Cedwir y papurau’n yn y drefn gronolegol wreiddiol Carl Clowes.

Pwyllgor ar y Papur Gwyn - Trefn Lywodraethu Well i Gymru (A-DEB-43),

Ffeiliau Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor. Gall y ffeiliau hyn yn cynnwys yr agenda ar gyfer y cyfarfodydd, cofnodion, adroddiadau, gohebiaeth, gwahoddiadau a mynychwyr, ac eitemau printiedig. Cyhoeddwyd y Papur Gwyn ar ddyfodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trefn Lywodraethu Well i Gymru) ar 15 Mehefin 2005. Mae'n cynnig newidiadau i strwythur y Cynulliad, ei bwerau deddfwriaethol a'i drefniadau etholiadol. Cylch gorchwyl y Pwyllgor yw ystyried y cynigion a nodwyd yn y Papur Gwyn i’r graddau eu bod yn berthnasol i strwythur newydd arfaethedig y Cynulliad a’i bwerau deddfwriaethol arfaethedig; Cymryd tystiolaeth gan sefydliadau ac unigolion sydd â diddordeb uniongyrchol yn strwythur newydd arfaethedig y Cynulliad a’i bwerau deddfwriaethol arfaethedig.

Pwyllgor Rhanbarth y Canolbarth a'r Gorllewin. (A-DEB-03),

Ffeiliau Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor. Gall y ffeiliau hyn cynnwys yr agenda ar gyfer y cyfarfodydd, cofnodion, adroddiadau, dogfennau print a gohebiaeth.
Roedd Rhanbarth y Canolbarth a'r Gorllewin yn cwmpasu Brycheiniog a Sir Faesyfed; Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr; Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro; Ceredigion; Llanelli; Meirionnydd Nant Conwy; Sir Drefaldwyn; a Phreseli Sir Benfro. Swyddogaeth y pwyllgor rhanbarth oedd rhoi cyngor i'r Cynulliad ar faterion oedd yn effeithio ar y rhanbarth; effaith polisïau'r Cynulliad yn y rhanbarth; gwaith cyrff cyhoeddus yn y rhanbarthau.

Canlyniadau 1 i 20 o 125