Showing 125 results

Archival description
Cyfres / Series Welsh
Print preview View:

Pwyllgor ar y Papur Gwyn - Trefn Lywodraethu Well i Gymru (A-DEB-43),

Ffeiliau Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor. Gall y ffeiliau hyn yn cynnwys yr agenda ar gyfer y cyfarfodydd, cofnodion, adroddiadau, gohebiaeth, gwahoddiadau a mynychwyr, ac eitemau printiedig. Cyhoeddwyd y Papur Gwyn ar ddyfodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trefn Lywodraethu Well i Gymru) ar 15 Mehefin 2005. Mae'n cynnig newidiadau i strwythur y Cynulliad, ei bwerau deddfwriaethol a'i drefniadau etholiadol. Cylch gorchwyl y Pwyllgor yw ystyried y cynigion a nodwyd yn y Papur Gwyn i’r graddau eu bod yn berthnasol i strwythur newydd arfaethedig y Cynulliad a’i bwerau deddfwriaethol arfaethedig; Cymryd tystiolaeth gan sefydliadau ac unigolion sydd â diddordeb uniongyrchol yn strwythur newydd arfaethedig y Cynulliad a’i bwerau deddfwriaethol arfaethedig.

Y Pwyllgor Ariannu Ysgolion (A-DEB-44),

Ffeiliau Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor. Gall y ffeiliau hyn cynnwys yr agenda ar gyfer y cyfarfodydd, cofnodion, adroddiadau, dogfennau print a gohebiaeth.
Cylch gorchwyl y Pwyllgor oedd adolygu holl ffynonellau incwm, pa fodd bynnag y caiff ei gynhyrchu, sy'n creu cyllid ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd a gynhelir; adolygu'r modd y caiff arian ei ddosbarthu rhwng ysgolion a gynhelir, cynradd ac uwchradd ac unedau cyfeirio disgyblion; ystyried effaith cynlluniau'r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth y DU ar gyllid ysgolion; gwneud argymhellion i Gynulliad Cenedlaethol ynghylch symleiddio'r system a'i gwneud yn gliriach. Archwilio ac adolygu pa mor ymarferol fyddai cyflwyno system ariannu dair blynedd ar gyfer ysgolion.

Toriadau papurau newydd,

Toriadau o bapurau newydd a chylchgronau cerddoriaeth gan gynnwys 'Melody Maker', 'NME', 'Vox', 'MOJO', 'Western Mail', 'Golwg' a'r 'Daily Post'. Mewn trefniant cronolegol bras, a'i baratoi ar gyfer ei roi mewn llyfrau lloffion.

Cylchgronau a phapurau cerddoriaeth,

Casgliad o gylchgronau cerddoriaeth sy’n cynnwys erthyglau am y Super Furry Animals. Teitlau'n cynnwys 'Melody Maker', 'NME', 'Select', 'Q', 'Vox', 'Sothach', 'Y Selar', 'Golwg' ac eraill. Cedwir y papurau’n yn y drefn gronolegol wreiddiol Carl Clowes.

Results 1 to 20 of 125