Showing 60213 results

Archival description
Welsh
Advanced search options
Print preview View:

42 results with digital objects Show results with digital objects

Beibl teuluol

Beibl teuluol J. T. ac Elizabeth Rees, Bronceiro, yn cynnwys cofnodion achyddol. Y cofnod olaf a nodwyd yw marwolaeth Ceredig Phillips Rhys yn 2015.

Bronceiro

Gweithredoedd eiddo a phapurau ystâd Bronceiro, Bow Street, Ceredigion. Gellir olrhain cysylltiadau'r teulu Rees gyda Bronceiro pan briododd J. T. Rees gydag Elizabeth Davies, merch Bronceiro. Daeth y cysylltiadau teuluol i ben pan werthwyd y cartref yn 2017.

Capel y Garn

Papurau a chofnodion Capel Y Garn (MC), Bow Street, Ceredigion, yn cynnwys cyfrifon casgliad at gronfa adnewyddu Capel Y Garn, 1900; papurau parthed Sasiwn Haf a gynhaliwyd yn Y Garn, 1905, yn cynnwys cofnodion y pwyllgor lleol; rhaglenni cymanfaoedd canu Undeb Cerddorol Dosbarth Y Garn, 1910-1926 (gyda bylchau) a chymanfa'r canmlwyddiant, 1972; rhaglenni cyfarfodydd y Nadolig, 1940au-1960au; cyfrifon yr Ysgol Sul, 1963-1969; llyfr nodiadau ar gymanfaoedd canu'r plant, yn llaw J. T. Rees; a chopïau o 'Trem yn Ôl' o waith T. Ifor Rees. Bu J. T. Rees a T. Ifor Rees yn aelodau a swyddogion yng Nghapel Y Garn, gyda J. T. Rees yn flaenor, arweinydd y gân, trysorydd, trefnwr cyhoeddiadau ac yn ymddiriedolwr; a T. Ifor Rees yn drysorydd, ac athro a thrysorydd Ysgol Sul Y Garn.

Morfudd Rhys Clark

Casgliad bychan o bapurau Morfudd Rhys (Morfudd Rhys Clark ar ôl iddi briodi). Fe'i ganed yn 1920, yr hynaf o blant T. Ifor ac Elizabeth Rees, a threuliodd rywfaint o amser yn Bolifia yn cynorthwyo ei thad yn ei waith, yn dilyn ei benodiad cyntaf yno yn 1943. Mae'r casgliad yn cynnwys adroddiadau ysgol Morfudd, 1932-1938, pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Dr Williams yn Nolgellau; dyddlyfr ar gyfer taith Ysgol Dr Williams i'r Eidal, 1938; wyth dyddiadur poced ar gyfer 1941-1948; llyfryn yr ysgrifennodd, yn dwyn y teitl "Evocaciones Bolivianas" a chyflwynodd i'w thad yn 1946; dyddlyfr ar gyfer 1947 (wedi'i ysgrifennu gan ddefnyddio dyddiadur ar gyfer y flwyddyn 1945); tystysgrifau; a llythyrau wedi'u cyfeirio ati, 1935-2004. Bu farw Morfudd Rhys Clark yn 2015, a thrwy ei merch, Gwenan, y cyflwynwyd yr archif hon o bapurau T. Ifor Rees a'i dad, J. T. Rees i'r Llyfrgell yn 2016, ac ychwanegiad yn 2018 [gweler disgrifiad lefel Fonds am fanylion pellach].

Papurau Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

  • GB 0210 CYMFFYN
  • Fonds
  • 1982-2014

Papurau'r gymdeithas, a nodiadau ac ymchwil yn ymwneud â ffynhonnau unigol, eu hanesion a'u cyflwr presennol, a'u llên.

Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Papurau

Papurau, gan gynnwys gohebiaeth, 2006-2012, papurau cyfarfodydd cyngor y gymdeithas ('pwyllgor' ers 2014), 1997-2014 (2010-2014 yn bennaf), copïau o 'Llygad y ffynnon', rhifau 21, 28-29, 31 a 34-35 (2006-2013), ac adroddiad ar Ffynhonnau Mair, Whitewell, Sir y Fflint.

Gohebiaeth

Llythyrau ac ebyst, yn cynnwys gohebiaeth gyda pherchnogion a rheolwyr tir, darparwyr grantiau, a chynghorau cymuned. Hefyd nodiadau ymchwil, dyfyniadau a llungopïau o nifer o ffynhonnau unigol, yn eu plith Ffynnon Ddyfnog, p. Llanrhaeadr, Ffynnon Fihangel, p. Ffestiniog, and Ffynnon Llawr Dol-serau, p. Dolgellau, ffynhonnau plwyfi Llancarfan a Llangynwyd a'r Gogarth, ac ofergoelion ffynhonnau, yn cynnwys credoau pen a phenglog, cerrig gwynion a melltithio.

Gohebiaeth

Llythyrau ac ebyst, yn cynnwys gohebiaeth gydag aelodau, gohebwyr lleol, cymdeithasau a sefydliadau (yn gynnwys y Comisiwn Elusennau, Eisteddfod Môn 1999, Wellsprings Fellowship, Sacred Land Project a Chymdeithas Edward Llwyd), cynghorau cymuned a phapurau bro. Hefyd cyfansoddiad, agendas, cofnodion a papurau eraill yn ymwneud â chyfarfodydd cyffredinol a phwyllgor ('cyngor' ar ôl 1998), 1996-2003; rhestrau clercod cynghorau cymuned a thref ym Môn, Gwynedd, Conwy, sir Ddinbych, Ceredigion a sir Gaerfyrddin, c.1998; a chyfeiriadau ag sawl ffynnon unigol, yn cynnwys Ffynnon Bedr, p. Llanbedrycennin.

Nodiadau ar ffynhonnau

Nodiadau llawysgrif, llungopïau ac allbrintiau yn ymwneud â nifer o ffynhonnau unigol, yn cynnwys Ffynnon Bryn Fendigaid, p. Aberffraw, ffynhonnau Llandrindod, Ffynnon Cegin Arthur, p. Llanddeiniolen, Ffynnon Gwynwy, p. Llangelynnin, Ffynnon Geinwen, p. Llangristiolus, Ffynnon Dydecho, p. Llanymawddwy, Ffynnon Sara, p. Llangar, Ffynnon Gemig, p. Llan Sain Siôr, Ffynnon Cwm Ewyn, p. Pennant Melangell, a Ffynnon Fair, Wicwer. Hefyd copïau o ffeiliau'r Comisiwn Henebion ar ffynnon yn Erw-ddwfr, p. Trawsfynydd, ac ar Ffynnon Oledd, p. Llanaber; llyfryn y Swyddfa Gymreig ar Ffynnon Gybi, Llangybi, Gwynedd (HMSO, 1982); 'The eye in the landscape: the newsletter of the Wellsprings Fellowship' (rhifau 1-2, Hydref 1997 a Gaeaf 1999), a'u newyddlen rhif 1, 1999.

Nodiadau ar ffynhonnau

Nodiadau ysgrifenedig, lluniadau technegol, llythyrau, llungopïau ac allbrintiau yn ymwneud â gwahanol ffynhonnau, gan gynnwys Ffair Capel Ffynnon, p. Cefn, Ffynnon Dydecho, p. Cemais, Ffynnon Deilo, p. Llandeilo Llwydiarth, Ffynnon Tudno, p. Llandudno, Ffynnon Llandyfân, Ffynnon Cegin Arthur, p. Llanddeiniolen, Crochan Llanddwyn, Ffynnon Elian, p. Llanelian, Ffynnon Engan, p. Llanengan, Ffynnon Croft Hir, p. Llangattock Feibion Afel, Ffynnon Gyngar, p. Llangefni, Ffynnon Gollen, p. Llangollen, Ffynnon Ddyfnog, p. Llanrhaeadr-yng-Nghinmerch, Ffynnon Fair, p. Llanrhos, Ffynnon Seiriol, Penmon, Ffynnon Fair, Penrhys, Ffynnon Gwenfaen, p. Rhoscolyn, a Ffynnon Ffraid, p. Swyddffynnon. Hefyd, rhestr o ffynhonnau Môn; rhestr o gyfeiriadau i ffynhonnau Clywd [yn Archifdy sir Ddinbych?]; erthygl gan Eirlys a Ken Lloyd Gruffydd, 'Defodau paganaidd ein ffynhonnau sanctaidd' (d.d., 12 tt.); ac erthygl ar 'Tair ffynnon yng Nghernyw', sef Ffynnon Sancreed, p. Sancreed, Ffynnon Alsia, p. St Buryan, a Ffynnon Madron, Penzance (d.d., 3 tt.).

Ffynnon Beuno a ffynhonnau eraill

Cyfeiriadau, torion papur newydd, lluniau, ebyst a llythyrau yn ymwneud â sawl ffynnon, yn enwedig Ffynnon Beuno, p. Clynnog, ond hefyd yn cynnwys Ffynnon Armon, p. Capel Garmon, Ffynnon Elan, p. Dolwyddelan, Ffynnon Bedr, p. Llanbedrycennin, Ffynnon Elian, p. Llanelian, Ffynnon Faglan, p. Llanfaglan, Ffynnon Adwy Ddaugae, p. Llanrug, Ffynnon Fair, Penrhys, a Ffynnon Gwenfrewi, p. Treffynnon. Hefyd torion papur newydd yn ymwneud â ffynnon dienw uwchben Ystrad Fflur; rhestr o ffynhonnau ac eglwysi cysylltiedig ym Môn a Llŷn; 'Llygad y ffynnon', rhif 27 (Nadolig 2009); a 'Wellsprings', no. 16 (Awst 2010).

Nodiadau ar ffynhonnau

Adroddiadau, cyfeiriadau, darluniau a ffotograffau o amryw ffynhonnau, yn cynnwys Ffynnon Fair, p. Aberdaron, Ffynnon Beuno, p. Clynnog Fawr, ffynhonnau Llandrindod, ffynhonnau'r Gogarth, p. Llandudno, Capel Ffynnon Fair, p. Llanelwy, Ffynnon Faglan, p. Llanfaglan, Ffynnon Gathen, p. Llangathen, St Anne's Well, p. Llanmihangel, Ffynnon Ddyfnog, p. Llanrhaeadr Dyffryn Clwyd, Ffynnon Fair, p. Llanrhos, Ffynnon Fyw, p. Mynytho, Ffynnon Pilalau, p. Pilalau, Ffynnon Aelrhiw, p. Rhiw, Ffynnon Ffraid, p. Swyddffynnon, a Ffynnon Gwenfrewi, p. Treffynnon. Hefyd llungopïau o erthyglau yn ymwneud â spa Trefriw, Sir Gaernarfon, [c.1930au]; cyfeirnodau grid ffynhonnau a enwir A-G; 'Wellsprings', rhif 11 (Mawrth 2009), a chyfieithiad o 'Llygad y ffynnon', rhif 31 (Nadolig 2011) i Saesneg gan Sefydliad Wellsprings.

Nodiadau ar ffynhonnau

Cyfeiriadau, torion papur newydd, lluniau, ebyst a llythyrau yn ymwneud ag amryw ffynnon, yn cynnwys Ffynnon Bedr, p. Llanbedrycennin, Ffynnon Eilian, p. Llaneilian, Ffynnon Elli, p. Llanelli, Capel Ffynnon Fair, p. Llanelwy, Ffynnon Cadfan, p. Llangadfan, Ffynnon Fair, p. Llanrhos, Ffynnon Gwenfrewi, p. Treffynnon, a Ffynnon Padog, Ysbyty Ifan. Hefyd erthyglau ar ffynhonnau'r Gogarth, Llandudno, rhai o bapur bro 'Y Pentan'; 'Hanes ffynhonnau Trawsfynydd', traethawd i 'Steddfod Stesion Trawsfynydd 2007 (tt. 1-3 a 5 yn unig); ac adroddiad 'Preliminary management recommendations' Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn ymwneud â Ffynnon Eilian, Llaneilian, 2013.

Papurau Dic Jones = Dic Jones Papers

  • GB 0210 DICJONES
  • Fonds
  • 1949-2017

Papurau'r Prifardd a'r amaethwr Dic Jones, sy'n cynnwys: cerddi (llawysgrif, teipysgrif ac argraffiedig) a rhyddiaith (llawysgrif a theipysgrif) gan Dic Jones a cherddi i Dic Jones gan rai o'i gyd-feirdd; deunydd o'r wasg yn cofnodi mynych lwyddiannau ac anrhydeddau Dic Jones yn y maes llenyddol; adolygiadau o rai o weithiau Dic Jones; ysgrifau coffa a rhai o'r llu teyrngedau i Dic Jones a gyhoeddwyd wedi ei farwolaeth; gohebiaeth at Dic Jones a'i wraig Siân; a deunydd amrywiol yn ymwneud yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol â Dic Jones.
Hefyd yn cynnwys, fel rhan o'r archif, papurau o eiddo'r Prifardd Idris Reynolds, cyfaill agos i Dic Jones, sy'n cynnwys deunydd gan neu'n ymwneud â Dic Jones.

= Papers of the Chief Bard and farmer Dic Jones, which comprise: manuscript, typescript and printed poetry and manuscript and typescript prose by Dic Jones and poetry addressed to Dic Jones by some of his fellow poets; press material recording Dic Jones's multiple achievements and honours within the literary field; reviews of some of the works of Dic Jones; obituaries and some of the many tributes to Dic Jones published following his death; correspondence to Dic Jones and his wife Siân; and miscellaneous material which directly or indirectly relates to Dic Jones.
Also comprising, as part of the archive, papers belonging to Idris Reynolds, a Chief Bard and close friend of Dic Jones, which contain material by or relating to Dic Jones.

Jones, Dic, 1934-2009

Papurau Dic Jones

Papurau'r Prifardd a'r amaethwr Dic Jones, sy'n cynnwys: cerddi (llawysgrif, teipysgrif ac argraffiedig) a rhyddiaith (llawysgrif a theipysgrif) gan Dic Jones a cherddi i Dic Jones gan rai o'i gyd-feirdd; deunydd o'r wasg yn cofnodi mynych lwyddiannau ac anrhydeddau Dic Jones yn y maes llenyddol; adolygiadau o waith Dic Jones; ysgrifau coffa a rhai o'r llu teyrngedau i Dic Jones a gyhoeddwyd wedi ei farwolaeth; gohebiaeth at Dic Jones a'i wraig Siân; a deunydd amrywiol yn ymwneud yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol â Dic Jones.

Llwyddiannau ac anrhydeddau Dic Jones

Deunydd yn ymwneud â mynych lwyddiannau ac anrhydeddau Dic Jones o fewn y byd llenyddol/eisteddfodol, gan gynnwys copïau o ymgeisiadau barddonol, beirniadaethau a thystysgrifau a enillwyd gan Dic mewn eisteddfodau a thalyrnau, gan gynnwys tystysgrif awdl y Gadair ar destun 'Y Cynhaeaf' yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberafan a'r Cylch 1966 a Chyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberteifi a'r Cylch 1976, sef yr achlysur ddadleuol pan orfodwyd Dic i ildio'r Gadair oherwydd iddo dorri rheolau'r gystadleuaeth (gw., er enghraifft: https://bywgraffiadur.cymru/article/c10-JONE-LEW-1934#?c=0&m=0&s=0&cv=0&manifest=https%3A%2F%2Fdamsssl.llgc.org.uk%2Fiiif%2F2.0%2F1477272%2Fmanifest.json&xywh=994%2C1332%2C593%2C511); deunydd yn ymwneud â'r Radd er Anrhydedd a gyflwynwyd i Dic gan Brifysgol Cymru Caerdydd, Gorffennaf 1988; a deunydd yn ymwneud ag urddo Dic yn Archdderwydd, 2008.

Results 1 to 20 of 60213