Showing 2 results

Archival description
Elfyn, Menna Welsh
Print preview View:

Ffotograffau eraill

Ffotograff, [1984], o Elinor Bennett a Meinir Heulyn; Elinor Bennett yn canu’r delyn ym mhabell Colourscape, Clapham Common, [1995]; Auxerre, 1997; gyda Menna Elfyn yn Rhosygilwen (West Wales Arts); a seremoni agor y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, pan berfformiwyd gwaith comisiwn John Metcalf, ‘Castell Dolbadarn’, am y tro cyntaf gan Elinor Bennett, [2004].

Llythyrau,

Llythyrau, 1980-1984. Ymhlith y gohebwyr mae Gwynfor Evans (yn mynegi'i fwriad i ymprydio hyd angau pe bai angen os na fyddai'r Llywodraeth Geidwadol newydd yn newid ei meddwl a sefydlu sianel Gymraeg newydd), Geraint Bowen, [D.] Myrddin [Lloyd] (3) a Gwyneth Lewis. Ceir llythyrau o gefnogaeth adeg achos llys Pennar Davies a charcharu'i fab Hywel Pennar gan gynnwys rhai oddi wrth Mered[ydd] [Evans], Menna Elfyn a Saunders Lewis (2), ynghyd â thaflen y cyfarfod a gynhaliwyd i gydnabod ei wasanaeth yng nghapel Ebeneser Newydd, Abertawe, 1983, a'i anerchiad 'Dydd Blynyddol y Coleg Coffa', 1984.

Lloyd, D. Myrddin (David Myrddin), 1909-1981