Showing 207 results

Archival description
Papurau D. Tecwyn Lloyd, Welsh
Print preview View:

Ysgrifau coffa,

Torion o ysgrifau coffa, 1963-1992, a gyhoeddwyd ym mhapurau newydd Y Cyfnod a'r Corwen Times gan mwyaf, gan gynnwys teyrnged i Maurice James, 1968, ac i Ann Lloyd, ei lysfam, 1986.

Yr Eidal,

Papurau, 1948-[1988], yn ymwneud â'r cyfnod a dreuliodd fel Cymrawd Ymchwil yn Rhufain gan gynnwys adroddiad 'Taith i'r Eidal' ac astudiaeth o dafodieithoedd.

Ymweliadau tramor,

Papurau'n ymwneud â'i ymweliad ag Iwgoslafia, Medi 1976, gydag Undeb y Llenorion, taith Côr Meibion Bro Glyndwr i'r Iseldiroedd, 1988, a thaith i Fflandrys i goffáu Hedd Wyn, 1992. Ceir ei basbort hefyd, 1958-1968.

Welsh Recorded Music Society,

Papurau’n ymwneud â’r gymdeithas hon, 1947-1951, gan gynnwys llythyrau, 1949-1950, y mwyafrif ohonynt at yr ysgrifennydd Gethin Pugh, Coleg Harlech, cofnodion, 1951 a rhaglen recordio ar gyfer 1948.

Welsh Recorded Music Society.

Tystysgrifau,

Tystysgrifau, 1914-1992, gan gynnwys tystysgrif geni Tecwyn Lloyd, 1914, tystysgrifau priodas, 1955 a 1984, tystysgrif marwolaeth Frances Lloyd, 1980, a Tecwyn Lloyd, 1992.

Tystysgrifau,

Tystysgrifau, 1927-1938, gan gynnwys rhai arholiadau'r Ysgol Sul, am ennill gwobrau llenyddol yn Eisteddfod Myfyrwyr Colegau Bangor, 1937, ac am lwyddo mewn arholiad cwrs ymarfer dysgu, 1938.

'Trwy'r gwynt a'r glaw',

Rhannau gwrthodedig o Meirion Lloyd Jones, ''Trwy'r gwynt a'r glaw', ynghyd â llythyr oddi wrth T. Gwynn Jones yn amgau ei adroddiad am y gwaith i Hughes a'i Fab.

Jones, Meirion Lloyd.

Traethodau,

Traethawd 'Golwg ar hanes ardal Llawrybetws neu Nantffreuer: o Bethel i lawr i Gaefaes' a ysgrifennodd D. Tecwyn Lloyd ar hanes lleol bro ei febyd, 'o gof personol ac amryfal gofnodion', gan ganolbwyntio ar anheddau'r ardal.

Traethawd MA,

Traethawd: 'Natur a datblygiad y dehongliad o Gymru gan awduron Eingl-Gymreig a beirniadaeth lenyddol', Prifysgol Lerpwl, 1961 ynghyd â thaflen y seremoni, Mehefin 1961.

Traethawd BA Saunders Lewis,

Copi, 1966, o draethawd BA Anrhydedd 'Imagery and poetic themes of S. T. Coleridge', Prifysgol Lerpwl, 1920, gan Saunders Lewis, ac mae'r gwreiddiol ar gadw yn Llyfrgell y Brifysgol honno.

Torion o'r wasg,

Torion o’r wasg, [1926]-[1966], gan gynnwys adolygiadau o weithiau Saunders Lewis, o’i golofn ‘Saunders Lewis yn trafod …’ yn Y Faner, a cherddi ganddo.

Results 1 to 20 of 207