Showing 2 results

Archival description
Welsh
Print preview View:

Llythyrau,

Llythyrau, 1980-1984. Ymhlith y gohebwyr mae Gwynfor Evans (yn mynegi'i fwriad i ymprydio hyd angau pe bai angen os na fyddai'r Llywodraeth Geidwadol newydd yn newid ei meddwl a sefydlu sianel Gymraeg newydd), Geraint Bowen, [D.] Myrddin [Lloyd] (3) a Gwyneth Lewis. Ceir llythyrau o gefnogaeth adeg achos llys Pennar Davies a charcharu'i fab Hywel Pennar gan gynnwys rhai oddi wrth Mered[ydd] [Evans], Menna Elfyn a Saunders Lewis (2), ynghyd â thaflen y cyfarfod a gynhaliwyd i gydnabod ei wasanaeth yng nghapel Ebeneser Newydd, Abertawe, 1983, a'i anerchiad 'Dydd Blynyddol y Coleg Coffa', 1984.

Lloyd, D. Myrddin (David Myrddin), 1909-1981

Papurau D. Myrddin Lloyd,

  • GB 0210 DMYRLLOYD
  • fonds
  • 1915-1981 /

Papurau, 1915-1981, D. Myrddin Lloyd, yn cynnwys llythyrau a anfonwyd ato, 1926-1981; gohebiaeth, 1977-1980, ynglŷn â chyfrol Euros Bowen, Beirdd Simbolaidd Ffrainc (Caerdydd, 1980); llyfrau nodiadau, 1937-1953, yn ymwneud â llenyddiaeth Cymru a gwledydd eraill Ewrop; nodiadau ar Emrys ap Iwan (Robert Ambrose Jones); papurau yn ymwneud â'i ymchwil ar y Gogynfeirdd; sgriptiau radio, 1946-1978; a chopïau llawysgrif a theipysgrif o'i waith; ynghyd â phapurau yn ymwneud â'i wraig, Elizabeth Mary Lloyd. = Papers, 1915-1981, of D. Myrddin Lloyd, including letters addressed to him, 1926-1981; correspondence, 1977-1980, relating to the volume by Euros Bowen, Beirdd Simbolaidd Ffrainc (Cardiff, 1980); notebooks, 1937-1953, pertaining to Welsh and other European literature; notes on Emrys ap Iwan (Robert Ambrose Jones); papers relating to his research on the Gogynfeirdd; radio scripts, 1946-1978; and manuscript and typescript copies of works by him; together with papers relating to his wife, Elizabeth Mary Lloyd.

Lloyd, D. Myrddin (David Myrddin), 1909-1981