Showing 748 results
Archival description- 270.
- File
Part of Papurau Gwenith Gwyn,
'Some of the Place-Names of the Ceiriog Valley with their Historical and Literary Associations'. Ymdriniaeth, yn bennaf, â'r enw 'Ty Gwyn'. 3 tud.
Darlith 'Some Place-Names in the Ceiriog Valley'. Teipysgrif (tud. 1-7).
- 271.
- File
Part of Papurau Gwenith Gwyn,
Anghyflawn.
- 274.
- File
Part of Papurau Gwenith Gwyn,
'Geiriau Dyffryn Ceiriog - Yn bennaf y geiriau nad oedd yr ysgrifennydd yn gyfarwydd iawn a hwy o'r blaen, gyda brawddegau eglurhaol'. Llyfr nodiadau (t.1-9) a chwe tudalen rydd. Anorffenedig.
'Geir-res' (A-D). Anorffenedig. 3 tud.
- 276.
- File
Part of Papurau Gwenith Gwyn,
Nodiadau Saesneg ar Y Waun a'r cylch (3 tud.).
- 285.
- File
Part of Papurau Gwenith Gwyn,
- 290.
- File
Part of Papurau Gwenith Gwyn,
Sylwadau mewn pensel (1 dud.), yn cynnwys y nodyn a ganlyn: 'Traddodiad i'r Barbwr a grogwyd ar y geraint a'i wraig fod un adeg yn cadw ysgol i blant yn un o res o dai lle y mae gerddi yr Hand yn awr. Symudwyd yr Ysgol i Ffynnon y Cel. Yn lladd ei wraig yng ngwydd plant yr Ysgol. Y crogbren yn rhan o hen ysgubor Y Vivod.'.
- 297.
- File
Part of Papurau Gwenith Gwyn,
'The Old Houses, Shops, Etc., of Oswestry. Some of their Occupants. By Isaac Watkin'. Toriadau (o'r Border Counties Advertizer?), wedi'u glynu'n llyfr (tt. 1-18).
- 329.
- File
Part of Papurau Gwenith Gwyn,
Llyfr nodiadau, yn cynnwys:. A 'Dwy bregeth o eiddo Joh Edwards Tynyfron, arweinydd cyntaf y Bedyddwyr Albanaidd yn Nglynceiriog'. O'r Greal, Mawrth 1865, (tt. 1-7). B 'William Griffiths Tyn-y-mynydd Glynceiriog. Prif ffeithiau ysgrif goffaol Dew Mawrth yn y Greal am Tachwedd 1867' (tt. 7-9). C Rhestr yn Saesneg o blant di-fedydd yng Nghofrestr Plwyf Croesoswallt (tt. 10-13).
- 334.
- File
Part of Papurau Gwenith Gwyn,
'Borau Oes Ceiriog' (13 tud.), yn cynnwys, er enghraifft, hanes dylanwad Moses Hwmffra, gwas ym Mhen y Bryn, arno (yr oedd yn rhigymwr ac yn ddarllenwr) a dylanwad ei fam, Phoebe Hughes (Evans, gynt). 'O ochor ei dad disgynnai o deulu tywysogol Powys: o ochor ei fam disgynnai o deulu hynod am eu talent i rigymu a'u gwybodaeth lysieuol ... Ar ol dychwelyd o Loeger a chyn priodi ymdaflodd Phoebe Evans i ysbryd rhan uchaf Dyffryn Ceiriog yn nechra y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cyrchai i eglwys plwyf Llanarmon Dyffryn Ceiriog ... Yna ar ol cinio elai at Hafod Adams fferm hynafol ar lan y Galedwyn i ddawnsio a chwara gyda ienctid y cylch. Byddai yno grwth neu delyn bob prynhawn Sul trwy yr haf. Yr oedd hefyd yn ffyddlon i'r Twmpathau Chwara, a cherddai filltiroedd i weld action anterliwdiau. Cofiai dorraeth o hen rigymau a chwedlau ...'.
- 336.
- File
Part of Papurau Gwenith Gwyn,
'Enwogion Dyffryn Ceiriog'. Llyfr (tt. 1-23), yn cynnwys nodiadau byrion ar 26 o enwogion, yn eu plith: Y Parch John Jones, awdur carolau; Edward Roberts (Iorweth Goch) 'Bardd Carolau ac Anterliwdydd'; John Jones, telynor a chrythor; Phoebe Hughes, mam Ceiriog; Racher Jones y Crythor (brawd John Jones); Sara Davies, 'meddyges lysieuol ddihafa ... a chantores'; Edward Isaac, gof a 'rhedegwr di-guro'; Richard Evans, 'gwr hoff o chwaraeon'.
- 338.
- File
Part of Papurau Gwenith Gwyn,
'William Harris' (5 tud.). Genedigol o Langynog, sir Gaerfyrddin. Bu'n weinidog ar Seion, Glyn Ceiriog, 1779-1885, blwyddyn ei farw yn 28 mlwydd oed. Yr oedd ei briod, Dinah, yn barddoni. Gw. e.e. ei thribannau, 'Cosyn Sur o'r Cilnant, (t. 5).
- 357.
- File
Part of Papurau Gwenith Gwyn,
Llyfr nodiadau, yn cynnwys:. A 'Hanes Cymanfaoedd y Bobl a Elwir Yn Fedyddwyr Yn Y Flwyddyn M.D.cc., XCIV. (tt. 1-17). B 'Enwau yn Llanengan, Sir Gaerynarfon, a'u hystyron. Gan 'Bachgen' Sef Mr Huw Roberts (Ceiriad) Abersoch. Yn awr, Penrhiwceibr'. Yn llawysgrifen Gwenith Gwyn (tt. 18-21).
- 359.
- File
Part of Papurau Gwenith Gwyn,
'Nodiadau ar Hen Arferion, gwisgoedd, ofergoelion, a hynafiaethau Cymreig a groniclwyd wrth eu gwrando gan W. R. J. Llyfr nodiadau (tt. 1-13). Ar yr wyneb ddalen ceir y pennawd 'Ofergoelion Gorllewin Maldwyn'.
- 372.
- File
Part of Papurau Gwenith Gwyn,
Dalen yn cynnwys 'Rhai Pethau Wyf yn Cofio Gan y Parch R. D. Roberts, Llwynhendy. Pennod VI (o'r Greal) ac ychydig nodiadau ychwanegol gan Gwenith Gwyn.
- 381.
- File
Part of Papurau Gwenith Gwyn,
'Barr, Barre, Barri'. Llyfr nodiadau (tt. 1-34), yn trafod yr enwau hyn yn fanwl, gan gyfeirio at gytrasau mewn sawl iaith.