Print preview Close

Showing 246 results

Archival description
Only top-level descriptions file
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Llyfrau lloffion Llanowain,

  • NLW ex 2478.
  • file
  • 1927-1994 /

Tri o lyfrau lloffion a gedwid gan y diweddar O. Trevor Roberts (y llenor 'Llanowain'), Rhuthun, a fu'n byw yn Lerpwl, yn cynnwys llythyrau, ffotograffau, torion o'r wasg ac adolygiadau o'i gyhoeddiadau, ynghyd â llyfr nodiadu yn cynnwys rhai cerddi a anfonodd i eisteddfodau.

Roberts, Owen Trevor.

Cerdd gan Niclas y Glais,

  • NLW Facs 1046.
  • file
  • 2011 /

Llungopi o benillion gan T. E. Nicholas ('Niclas y Glais', 1879-1971) i William Lewis, ffermwr cefnog a diacon yng nghapel y Glais. Mae'n bosib iddo ei ysgrifennu yn ystod ei gyfnod fel gweinidog yn y Glais rhwng 1904 1 1914.

Nicholas, T. E. (Thomas Evan)

Hanes eglwysi'r Bedyddwyr yn Ynys Môn,

  • NLW ex 2427.
  • file
  • 2005.

Hanes Eglwys Bethel (B), Rhosybol, 1841-2002, Eglwys Sardis, Dulas, (dathlu canmlwyddiant a hanner, 1983) gan y rhoddwr; ac Eglwys Bethania, Llaneilian (allan o'r Greal).

'Cân y caniadau',

  • NLW ex 2130.
  • file
  • [1960] /

Llawysgrif holograff o 'Cân y Caniadau' sef 'trosiad telynegol' gan Cynan a gyflwynodd i Olwen Caradoc Evans ym mis Ebrill 1960.

Cynan, 1895-1970.

Papurau Llyfni Huws,

  • NLW Misc. Records 303.
  • file
  • 1889-1962.

Casgliad o bapurau Llyfni Huws, yn ymwneud â'r delyn a chanu penillion, sef llythyrau oddi wrth O. M. Edwards, ac 'Eifion Wyn'; darlith deipiedig a draddodwyd yn Tylorstown ; llythyr teipiedig yn dwyn y teitl "Adloniant Hen Delynor"; llun 'Dewi Havhesp'; a thorion o'r Cymro yn cynnwys lllythyrau gan Llyfni Huws ar y delyn a cherdd dant.

Papurau Mrs Morfudd Hughes Ellis, Caernarfon, a'i thad, R. E. Hughes,

  • NLW Misc. Records 521.
  • file
  • 1887-1913.

A small bundle of papers and a few volumes which belonged to the late Mrs. Morfudd Hughes Ellis and her father, R. E. Hughes. They include four essays, 1887-1892, submitted for competition at Salem (C.M.) Chapel, Pwllheli; notebook of the "Blue Ribbon Army" of Engedi (C.M.) Chapel, Caernarfon, 1882, as well as papers read to the literary society at Engedi; a volume containing an index, A-G, of articles contained in Welsh periodicals of the period 1890-1913; notebook of the hospitality committee of the monthly meeting held at Engedi, 12 December 1913; food ration books from the First World War period; hymn-tunes composed by R. E. Hughes; sermon notes etc.

Papurau'r Parch. J. Caradog Williams,

  • NLW Misc. Records 411.
  • file
  • 1932-1975.

Papurau'r Parch. J. Caradog Williams yn ymwneud yn bennaf â'i waith fel gweinidog gyda'r Annibynwyr, gan gynnwys dau lythyr, 1942-1944, oddi wrth carcharor rhyfel yn yr Almaen. = Miscellaneous papers relating mainly to the donor's work as a Congregational Minister, including two letters, 1942-1944, from a prisoner of war in Germany.

Cangen Rhondda Fach o Undeb Dirwestol Merched y De,

  • NLW Misc. Records 395.
  • file
  • 1926-1940.

Llyfr nodiadau yn cynnwys cyfrifon yn ymwneud â changen Rhondda Fach o Undeb Dirwestol Merched y De. = Notebook containing some accounts relating to Rhondda Fach branch of Undeb Dirwestol Merched y De.

Untitled

Enoc Evans (Neco) 1874-1952,

  • NLW ex 2719.
  • file
  • 2011.

Cerddi'r bardd Enoc Evans, Llanfihangel Ystrad, mewn teipysgrif, wedi'u casglu ynghyd gan Meredudd Daniels, [2011].

Evans, Enoch.

Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Pwllheli : : Cofnodion y Pwyllgor Cyllid,

  • NLW MS 16609C.
  • file
  • 1953-1955.

Cofnodion teipysgrif a phapurau perthynol, 1953-1955, i Bwyllgor Cyllid Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Pwllheli, 1955, a'i is-bwyllgorau. = Typescript minutes and related papers, 1953-1955, of the Finance Committee of the National Eisteddfod of Wales, Pwllheli, 1955, and its sub-committees.
Trafodwyd ychydig o waith y pwyllgor gan ei ysgrifennydd D. G. Lloyd Hughes yn ei ysgrif 'Y cam arall â Harri Gwynn', Barn, 366/367 (1993), 15-17. = The committee's work is discussed briefly by it's secretary D. G. Lloyd Hughes in his article 'Y cam arall â Harri Gwynn', Barn, 366/367 (1993), 15-17.

Eisteddfod Genedlaethol Cymru (1955 : Pwllheli). Pwyllgor Cyllid.

Cofiant Thomas Edward Ellis, Cyfrol I

  • NLW MS 16362C.
  • file
  • [?1942]-[1944]

Llawysgrif, wedi ei baratoi ar gyfer y wasg, o fywgraffiad T. I. Ellis o'i dad, Thomas Edward Ellis, Cofiant: Cyfrol I (1859-1886) (Lerpwl, 1944). = Manuscript, prepared for the press, of T. I. Ellis's biography of his father, Thomas Edward Ellis, Cofiant: Cyfrol I (1859-1886) (Liverpool, 1944).
Ysgrifennwyd y llawysgrif yn bennaf ar ddalennau rhydd o lyfrau ateb arholiadau. Mae cywiriadau, arnodiadau a throednodiadau wedi eu hychwanegu mewn pensil; mae nifer o frawddegau a rhai paragraffau wedi eu dileu, yn arbennig ar ff. 2, 19, 213 a 223, ac mae newidiadau ac ychwanegiadau sylweddol wedi eu darparu ar ddalennau ychwanegol. Mae'r newidiadau yma wedi eu hymgorffori yn y fersiwn cyhoeddedig. = The manuscript is written mostly on loose leaves from exam answer books. Corrections, annotations and footnotes have been added in pencil; several sentences and some whole paragraphs have been deleted, in particular on ff. 2, 19, 213 and 223, with major alterations and additions supplied on additional leaves. These alterations are incorporated in the published version.

Ellis, T. I. (Thomas Iorwerth), 1899-1970

Papurau Gwenllian Gwyn Jones,

  • NLW ex 2397.
  • file
  • [1959]-2004.

Papurau Gwenllian Gwyn Jones, [1959]-2004, awdur llyfrau i blant ac a ddarluniwyd ganddi, yn cynnwys torion am ei llyfrau, a theyrnged a draddododd y Parch. Glyn Tudwal Jones yn ei hangladd, 17 Rgagfyr 2004, ynghyd â phapurau'n ymwneud â Syr Geraint Evans a grynhowyd gan y rhoddwr, ffrind iddo, gan gynnwys torion o'r wasg a rhaglen ar gyfer ei berfformiad yn L'elisir d'amore, 1984, yn y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden.

Jones, Gwenllian Gwyn.

Achos Ysgol Casmael/Puncheston School,

  • NLW ex 2388.
  • file
  • 1990-1995.

Gohebiaeth, 1990-1995, yn ymwneud ag achos i ddadgategoreiddio Ysgol Casmael, Sir Benfro, o fod yng nghategori A yn ieithyddol, sef rhoi blaenoriaeth i'r Gymraeg, i fod yn gategori B, sef i roi blaenoriaeth i'r Saesneg. = Correspondence, 1990-1995, relating to the case of decategorising Puncheston School, Pembrokeshire, from being a category A school, where linguistically Welsh was given prominence, to a category B school, which would give prominence to English.

Results 201 to 220 of 246