Print preview Close

Showing 3783 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales file
Print preview View:

4 results with digital objects Show results with digital objects

Drama,

Drama hir neu drioleg o ddramâu byrion (Tlws y ddrama); drama fer : comedi i'w perfformio gan actorion dan 26; rhaglen arbennig : sgript wreiddiol ar gyfer sioe lwyfan i ysgolion meithrin a throsi drama Gymraeg hir i un o ieithoedd cyfandir Ewrop ar wahân i'r Saesneg.

Barddoniaeth,

Awdlau : 'Y môr'; casgliad o gerddi heb fod dros 200 llinell : 'Melodïau'; cywyddau : 'Un wennol ...'; englyn cydymdeimlad; englynion crafog : 'Bacha hi o'ma'; deg o gwpledi epigramatig; telynegion : 'Dawns'; wyth o dribannau : 'Gwaith'; cerddi rhydd : 'Ôl traed'; salmau : 'I'r cymanaswyr' a baledi: 'Cwango'.

Barddoniaeth,

Awdlau : 'Gwaddol'; pryddestau i nifer o leisiau heb fod dros 200 liinell : 'Branwen'; englynion : 'Geiriadur'; englynion ysgafn : englyn cerdyn post gan rywun ar wyliau; cywydd i goffáu E. Meirion Roberts; soned : 'Crefftwr'; telynegion : 'Cadwyn'; emynau : 'Gobaith' a chyfrolau o gerddi digri gwreiddiol.

Cyfansoddiadau cerddorol,

Cyfansoddi cainc o naws anthem genedlaethol mewn arddull gyfoes; emyn-donau; unawdau ar gyfer contralto/bas a phiano; ensemble offerynnol ar gyfer rhwng 4 ac 8 o rannau; ensemble lleisiol ar gyfer grŵp rhwng 4 ac 6 o rannau; cyfansoddiad gwreiddiol ar gyfer côr gyda chyfeiliant; trefniant o ddwy gân werin wrthgyferbyniol ar gyfer côr amatur; trefniant o ddwy gân werin wrthgyferbyniol ar gyfer cerddorfa amatur a ffolio o waith amrywiol i fod rhwng 4 ac 8 munud wedi'i gyflwyno ar dâp ac/neu sgôr (cystadleuaeth i ieuenctid).

Barddoniaeth,

Awdlau: 'Dadeni'; Dilyniant o gerddi: 'Muriau'; englynion: 'Camera'; englynion ysgafn: 'Codi sgwarnog'; telynegion mewn mydr ac odl: 'Carreg ateb'; cywyddau o 18 llinell: 'Arwr'; Haicw: 'Casgliad rhwng 20 a 40 mewn nifer; salmau cyfoes (hunanddewisiad); cerddi ar batrwm un o ugeinedau Euros Bowen (hunanddewisiad); cerddi ysgafn/crafog: 'Opera sebon'; chwech o dribanau: 'Troeon trwstan'; a chasgliad o englynion a/neu benillion ar gyfer cardiau cyfarch.

Rhyddiaith

Straeon byrion ag iddynt gefndir crefyddol; chwech ysgrif bortread; rhagarweiniad i farddoniaeth gyfoes Gymraeg; detholiad o ryddiaith y pulpud oddi ar 1900; blodeugerdd o farddoniaeth Ffrainc; traethawd : 'Cyfraniad pobl Sir Benfro i fywyd Llundain' a deuddeg o ysgrifau cofiannol ar gymeriadau enwog yn hanes Cymru.

Rhyddiaith,

Cofiannau i gymeriad dychmygol (y fedal ryddiaith); cyfres o dair stori fer; tair ysgrif ysgafn; trafodaeth ar syniadau diwinyddol yr Athro J. R. Jones; traethawd ar ddylanwadau gwyddoniaeth ar fywyd cefn gwlad er y rhyfel diwethaf a chasgliadau o tua 30 o anerchiadau crefyddol byrion ar gyfer plant ysgolion cynradd.

Barddoniaeth (emyn-trosiadau i'r Gymraeg),

Emynau : 'Fel y byddont oll yn un'; cadwyn fer o englynion : 'Y llynnoedd'; carolau Nadolig; penillion yn null y Ficer Pritchard, yn ceryddu Cymru heddiw a storïau ar gân addas ar gyfer gweithgarwch llafar i ysgolion; cyfrolau o farddoniaeth wreiddiol; casgliad o 50 o ddarnau o farddoniaeth grefyddol Gymraeg a throsiadau i'r Gymraeg o gerdd o waith unrhyw fardd Eingl-Gymreig.

Results 101 to 120 of 3783