Mae'r ffeil yn cynnwys erthyglau Cymraeg, megis drafftiau o 'Y Môr a Phrydain', 'Lili', a 'Darlun Celt Bach yr Affrig' a ysgrifennwyd yn Kimberley. Cyhoeddwyd 'Lili yn Cymru'r Plant, Hydref 1897 a 'Darlun Celt Bach yr Affrig' yn Cymru'r Plant, Hydref 1901.
Mae'r ffeil yn cynnwys erthyglau Saesneg, megis drafftiau o 'Treorchy', 'Mabon's Day' a 'The qualities of a Sunday school teacher'. Cyhoeddwyd 'Treorchy', 'Mabon's Day' a 'The qualities of a Sunday school teacher' yn David Bowen, Blagur Awen Ben Bowen, Caernarfon, 1915.
Mae'r ffeil yn cynnwys drafft o 'Durtur y Deffro' a gyhoeddwyd yn 1897 a llyfrau nodiadau yn cynnwys 'Y Ffurfafen'. 'Gardd Gethsemane', 'Yr Iesu a wylodd' a marwnadau.
Mae'r ffeil yn cynnwys llawlyfr Undeb Bedyddwyr Cymru, 1950, llyfr nodiadau 'Storiau'r Plant' yn cynnwys erthyglau llawysgrif a thoriadau papur newydd a ymddangosodd yn Seren yr Ysgol Sul, a phapurau amrywiol yn ymwneud ag Undeb y Bedyddwyr, Undeb y Bedyddwyr Ieuanc Cymru, 'Seren y Plant', a Seren yr Ysgol Sul, 1922-1954.
Mae'r ffeil yn cynnwys toriadau ar amrywiol bynciau gan gynnwys ysgrifau coffadwraeth i Lizzie Bowen, gwraig David Bowen, toriadau yn ymwneud â Chapel Horeb, Pump-Hewl, Llanelli a rhai emynau printiedig.
Llythyrau, 1930-[1945], gan gynnwys nifer a dderbyniodd gan ei deulu yn ystod y cyfnod y bu'n astudio yng Ngholeg Iâl, yr Unol Daleithiau ac yn ymwneud â'r gymrodoriaeth. Ceir llythyrau hefyd oddi wrth William R. Rutland a llythyrau oddi wrth Mrs Fitzgerald, ei noddwraig.
Manylion bywgraffyddol am ei yrfa academaidd a'i gynnyrch llenyddol ar gyfer Who's who in the world?, 1978, ac ar gyfer cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru (Awduron mewn ysgolion), [1977]-1991, ynghyd â'i anerchiad etholiadol fel ymgeisydd etholaeth Llanelli, [etholiad cyffredinol 1966] a 'Rhagolygon wedi ymddeol'.