Showing 121 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales National Assembly for Wales Archive Cyfres / Series Welsh
Print preview View:

Pwyllgor Rhanbarth y Gogledd (A-DEB-41),

Ffeiliau Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor. Gall y ffeiliau hyn cynnwys yr agenda ar gyfer y cyfarfodydd, cofnodion, adroddiadau, dogfennau print a gohebiaeth.
Roedd Pwyllgor Rhanbarth y Gogledd yn cynnwys ardaloedd Alun, Glannau Dyfrdwy, Caernarfon, Dyffryn Clwyd, Gorllewin Clwyd, De Clwyd, Conwy, Delyn, Wrecsam ac Ynys Môn. Swyddogaeth y pwyllgor rhanbarth oedd rhoi cyngor i'r Cynulliad ar faterion oedd yn effeithio ar y rhanbarth; effaith polisïau'r Cynulliad yn y rhanbarth; gwaith cyrff cyhoeddus yn y rhanbarthau.

Pwyllgor Ymchwilio i’r heintiad E.coli yng Nghymru (A-DEB-45),

Ffeiliau Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor. Gall y ffeiliau hyn yn cynnwys yr agenda ar gyfer y cyfarfodydd, cofnodion, adroddiadau, gohebiaeth, gwahoddiadau a mynychwyr, ac eitemau printiedig.
Cylch gorchwyl y Pwyllogr oedd trafod telerau ac amodau ar gyfer ymchwiliad to Io dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005 ac adrodd ar ei gasgliadau i’r Cynulliad Cenedlaethol erbyn 7 Rhagfyr 2005.

Pwyllgor Rheolau Sefydlog (A-DEB-49)

Ffeiliau Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor. Gall y ffeiliau hyn cynnwys yr agenda ar gyfer y cyfarfodydd, cofnodion, adroddiadau, gohebiaeth, gwahoddiadau a mynychwyr, ac eitemau printiedig.

Roedd Atodlen 11 Mesur Llywodraeth Cymru yn darparu i'r Cynulliad Cenedlaethol gynnig rheolau sefydlog a fydd yn berthnasol i drafodion y Cynulliad ar ôl etholiad 2007. Wedi i’r Cynulliad gytuno ar y cynigion, fe'u hanfonwyd at Ysgrifennydd Gwladol Cymru a wnaeth y rheolau sefydlog newydd yn ffurfiol. Felly, sefydlodd Cynulliad Cenedlaethol bwyllgor cynghorol o dan Reol Sefydlog 8.1 i argymell rheolau sefydlog ar gyfer y Cynulliad ar ei newydd wedd. Cylch gorchwyl y Pwyllgor oedd gwneud pob ymdrech i argymell rheolau sefydlog newydd a fydd yn sicrhau cymeradwyaeth mwyafrif o ddau draean yn y cyfarfod llawn a pharatoi adroddiad a fydd yn amlinellu rheolau sefydlog newydd arfaethedig i'w hystyried yn y cyfarfod llawn. Nod y Pwyllgor oedd cyflwyno adroddiad ar 31 Ionawr 2007 neu cyn hynny. Daeth y Pwyllgor i ben ar 1 Mawrth 2007.

Pwyllgor Cyfle Cyfartal (A-DEB-13),

Ffeiliau Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor. Gall y ffeiliau hyn yn cynnwys yr agenda ar gyfer y cyfarfodydd, cofnodion, adroddiadau, gohebiaeth, gwahoddiadau a mynychwyr, ac eitemau printiedig.
Diben y Pwyllgor Cyfle Cyfartal oedd sicrhau bod gan y Cynulliad drefniadau effeithiol i hyrwyddo'r egwyddor o gyfle cyfartal i bob person wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau a chynnal ei fusnes. Cynigwyd gwahoddiad sefydlog i'r Comisiwn Cyfle Cyfartal, y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, y Comisiwn Hawliau Anabledd, Stonewall Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg fod yn bresennol yng nghyfarfodydd y Pwyllgor fel cynghorwyr.

Pwyllgor Materion Ewropeaidd (A-DEB-14),

Ffeiliau Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor. Gall y ffeiliau hyn yn cynnwys yr agenda ar gyfer y cyfarfodydd, cofnodion, adroddiadau, gohebiaeth, gwahoddiadau a mynychwyr, ac eitemau printiedig.
Prif swyddogaethau'r Pwyllgor oedd adolygu perthynas y Cynulliad â’r rhanbarthau, cenhedloedd eraill a sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd, a'i ddulliau o hysbysu a chynghori'r sefydliadau ynglŷn ag anghenion Cymru; trefniadau'r Cynulliad ar gyfer cysylltu ag UKREP a chydag adrannau llywodraeth y DU ar faterion Ewropeaidd; dulliau a gweithdrefnau'r Cynulliad ar gyfer ystyried dogfennau, materion a chwestiynau sy'n deillio o sefydliadau Ewropeaidd gan roi sylw arbennig i'r angen am gysylltu ag Aelodau Seneddol sy'n gyfrifol am graffu ar faterion Ewropeaidd sy'n berthnasol i Gymru yn benodol; perthynas y Cynulliad â rhanbarthau a chenhedloedd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd a chysylltiad y Cynulliad â sefydliadau Ewropeaidd a rhyngwladol.

Results 1 to 20 of 121