Showing 6 results

Archival description
Only top-level descriptions Fonds Welsh drama -- 20th century
Print preview View:

Archif Cwmni Theatr Hwyl a Fflag,

  • GB 0210 HWYLFFLAG
  • Fonds
  • 1974-1995 (crynhowyd1981-1995) /

Papurau, 1974-1995 (1981-1994 yn bennaf), yn cynnwys sgriptiau, manylion parthed gwahanol weithdai a chynyrchiadau (gan gynnwys rhai gan gwmnïau eraill), papurau gweinyddol a chyllidol, cofnodion a gohebiaeth pwyllgorau, a phapurau yn ymwneud â pherfformwyr, theatrau a sefydliadau theatrig eraill yng Nghymru (yn cynnwys Cymdeithas Theatr Cymru, 1975-1990, Theatr Gymraeg Gwynedd, 1985-1988, Cymdeithas Ddrama Cymru, 1991-1992, a Chymdeithas Celfyddydau Perfformiadol Cymru, 1983-1994), ynghyd â lluniau, posteri a rhaglenni = Papers, 1974-1995 (mainly 1981-1994), comprising scripts, details regarding various workshops and productions (including some by other companies), administrative and financial papers, committee minutes and correspondence, and papers relating to performers, theatres and other Welsh theatrical organizations (including Cymdeithas Theatr Cymru, 1975-1990, Theatr Gymraeg Gwynedd, 1985-1988, Cymdeithas Ddrama Cymru, 1991-1992, and the Society of Performing Arts in Wales, 1983-1994), together with photographs, posters and programmes.

Cwmni Hwyl a Fflag.

Papurau Gwenlyn Parry

  • GB 0210 GWENLYN
  • Fonds
  • [1962]-1993

Papurau Gwenlyn Parry, [1962]-1993, yn cynnwys sgriptiau a phapurau amrywiol yn ymwneud â'i ddramâu llwyfan, [1966]-1992, a'i ddramâu teledu, radio a ffilm, [1966]-[1991]; papurau'n ymwneud ag addasiad teledu Gwenlyn Parry ac Endaf Emlyn o nofel Caradog Prichard, Un Nos Ola Leuad, [1966]-1991; sgriptiau gweithiau gan eraill, [1966]-1991; papurau amrywiol yn ymwneud â'i waith, megis rhageiriau ac erthyglau, 1968-[1991]; deunydd printiedig, 1962-1991; a phapurau personol a theyrngedau, 1962-1993. = Papers of Gwenlyn Parry, [1962]-1993, comprising scripts and various papers relating to his stage plays, [1966]-1992, and television and radio dramas, [1966]-[1991]; papers relating to Gwenlyn Parry and Endaf Emlyn's television adaptation of Caradog Prichard's novel Un Nos Ola Leuad, [1966]-1991; scripts of works by others, [1966]-[1991]; various work-related papers, such as prefaces and articles, 1968-[1991]; printed material, 1962-1991; and personal papers and tributes, 1962-1993.

Parry, Gwenlyn

Papurau Eisteddfod Genedlaethol Cymru: Dramâu, Pasiantau a Sioeau cerdd

  • GB 0210 EGCDRA
  • Fonds
  • [?1929]-[2013] (gyda bylchau)

Sgriptiau dramâu amrywiol, [?1929]-[2013] (gyda bylchau), gan gynnwys dramâu gwreiddiol, addasiadau o ddramâu, a dramâu a gomisiynwyd gan yr Eisteddfod Genedlaethol.

Eisteddfod Genedlaethol Cymru: Dramâu, Pasiantau a Sioeau cerdd

Papurau Idwal Jones

  • GB 0210 IDWNES
  • Fonds
  • 1915-1957

Llythyrau, 1915-1936, yn bennaf at ei deulu tra bu'n gwasanaethu yn y fyddin, 1915-1919; teipysgrifau a llawysgrifau o'i ddramâu a sgriptiau radio, 1920-1936, a thorion papur newydd o adolygiadau, 1926-1940; barddoniaeth, caneuon, parodïau, rhyddiaith a deunydd arall, 1924-1932; copi teipysgrif o 'Ann y Wernolau',drama gan ei fam, Mrs Teifi Jones, 1921; a deunydd amrywiol a ychwanegwyd gan D. Gwenallt Jones tra bu'n ymchwilio ar gyfer Cofiant Idwal Jones, 1934-1957. = Letters, 1915-1936, mainly to his family whilst serving in the army, 1915-1919; typescripts and manuscripts of plays and radio scripts, 1920-1936, and newspaper cuttings of reviews, 1926-1940; poetry, songs, parodies, prose and other material, 1924-1932; a typescript copy of 'Ann y Wernolau', a play by his mother, Mrs Teifi Jones, 1921; and miscellaneous material added by D. Gwenallt Jones while researching Cofiant Idwal Jones, 1934-1957.

Derbyniwyd bocs ychwanegol o bapurau gan Mrs Eirain Rees (nee Jones), Medi 2008. Mae'r grŵp yn parhau heb ei gatalogio.

Jones, Idwal, 1895-1937

Eisteddfod Genedlaethol Cymru: cyfansoddiadau a beirniadaethau

  • GB 0210 CYFANS
  • Fonds
  • 1887-2019 (gyda bylchau)

Cyfansoddiadau amrywiol a gyflwynwyd i gystadlaethau llenyddol a cherddorol Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 1887-2019. Yn eu plith ceir awdlau, pryddestau, cywyddau, englynion, englynion ysgafn, baledi, sonedau, straeon byrion, blogiau, llên meicro a dramâu. Ceir gweithiau ar gyfer y Fedal Ryddiaith, Gwobr Daniel Owen, Ysgoloriaethau Emyr Feddyg a Geraint Morris, ynghyd ag emyn-donau a chyfansoddiadau Tlws y Cerddor a chyfansoddi dawns. Cyflwynwyd cystadlaethau i ieuenctid a chystadleuaeth y gadair a thlws rhyddiaith i ddysgwyr ac i'r rhai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes. = A variety of literary and musical compositions entered at National Eisteddfodau, 1887-2018, including odes and poetry in free metre, ballads, short stories, blogs, micro literature and plays. Entries for the Prose Medal, Daniel Owen Memorial Prize, Emyr Feddyg and Geraint Morris Scholarships, together with musical compositions such as the Musicians' Medal, hymn-tunes and dance composition are also included. Competitions for young people, Welsh learners including a chair and prose competition and a competition for those who have lived in Patagonia throughout their lives have been introduced.

Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Papurau Gwynfor

  • GB 0210 GWYFOR
  • Fonds
  • [c. 1889]-1969

Papurau Thomas Owen Jones (Gwynfor), [c. 1889]-1969, yn cynnwys gohebiaeth, llyfrau nodiadau, dyddiadur, dramâu, storiâu, cerddi, traethodau, sgyrsiau a darlithoedd, adroddiadau a thorion o'r wasg yn ymwneud â Gwynfor a byd y ddrama yng Nghymru, a chopïau o gerddi a anfonwyd ato gan Thomas Gwynn Jones (1871-1949), Robert Williams Parry (1884-1956), ac eraill; ynghyd â llythyrau at Madge Jones,1941-1969, ynglŷn â Gwynfor a'i waith. = Papers of Thomas Owen Jones (Gwynfor), [c. 1889]-1969, comprising correspondence, notebooks, a diary, plays, stories, poems, essays, talks and lectures, reports and press cuttings relating to Gwynfor and the drama movement in Wales, and copies of poems addressed to him by Thomas Gwynn Jones (1871-1949), Robert Williams Parry (1884-1956), and others; together with letters to Madge Jones, 1941-1969, concerning Gwynfor and his work.

Gwynfor, 1875-1941