Dangos 711650 canlyniad

Disgrifiad archifol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

4026 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Adolygiadau

Adolygiadau o’i weithiau ac adolygiadau ganddo, 1911-1960, a gyhoeddwyd yn Yr Eurgrawn yn bennaf, ynghyd â rhai yn Y Beirniad, Yr Efrydydd, Y Traethodydd a Y Dysgedydd.

Adlais,

Sgôr mewn llawysgrif a llungopïau o'r alaw 'Adlais' gan Gilmor Griffiths, geiriau gan Dorothy Jones (Langwm). Dau wahanol gywair.

Adeilad, chyfleusterau, a phrosiectau'r Ganolfan

Gohebiaeth, 1990-1993, yn ymwneud ag adeilad y Ganolfan, yn trafod gweithgareddau codi arian, gwaith i wella adeilad y Ganolfan a’i chyfleusterau, trefniadau agoriad swyddogol yr adeilad newydd yn Mai 1993, a phrosiectau ymchwil; yn cynnwys llythyrau oddi wrth Geraint H. Jenkins; Eric Thomas; Kenneth Morgan; Elwyn Jones; D.I. George; Andrew Hawke; Emyr Roberts; J. D. Pritchard; T. Gwynfor Griffith; P.S. Robinson; Jan Gendall; R. Geraint Gruffydd; Ralph A. Griffiths; Moosong Goh; Miranda Aldhouse-Green; Glenys Goetinck; a William Gillies.

Addysg i oedolion

Llyfrau nodiadau yn cynnwys nodiadau darlithiau ar gyfer cyrsiau a gynhaliwyd gan Gymdeithas Addysg y Gweithwyr (WEA) yng Nghorwen a Dinbych, Dinbych a Henllan a'r Rhyl ar lenyddiaeth Gymraeg.

Achos llys HTV, yn cynnwys datgeliadau i'r llys

Papurau gweinyddol, gohebiaeth, a chofnodion cyfarfod, 1978-1979 a 1989-1992, yn ymwneud ag achos llys Plas Pistyll ac ymgyfreitha cysylltiedig. Mae’r ffeil yn cynnwys cyfieithiad o ddatgeliadau, yn cynnwys gohebiaeth a phapurau (1989-1992), yn ymwneud â’r ymddiriedolaeth, datblygu Plas Pistyll, costau, cynllun busnes, cyfweliadau, copïau o’r tystysgrifau cofrestru morgais, copi o’r sgript rhaglen ‘Y Byd ar Bedwar’ (1992) a chofnodion cyfarfod, manylion costau a chredwyr; bwndl wedi’i labelu ‘File/Bundle 2’, yn cynnwys gohebiaeth a phapurau amrywiol (1989-1992), yn ymwneud a phrynu Plas Pistyll , y cynlluniau datblygu, a materion ariannol; a chopïau o atodiadau wedi’i rhifo 1, 3-6, yn cynnwys papurau a gohebiaeth (1978-1979 a 1989-1991), yn ymwneud a prynu a datblygu Plas Pistyll, a chopïau o gweithredoedd ymddiriedolaeth.

‘Y Fforwm Llydewig’

Gohebiaeth a phapurau, 1989, yn ymwneud â ddegfed Fforwm y Ganolfan, ‘Y Fforwm Llydewig’, yn cynnwys rhaglen; rhestr o fynychwyr; slipiau ateb; a llythyrau, yn trafod trefnu'r Fforwm, oddi wrth Morfydd E. Owen; R. Geraint Gruffydd; Llinos Roberts-Young; Per Denez; K.G. Churchill; Caroline Brett; Wendy Davies; Yann-Ber Piriou; Brynley F. Roberts; Glanville Price; Anne Lewis-Loubignac; Dafydd Jenkins; Manon Wyn Roberts; a Richard Crowe.

Benefice: St. Nicholas,

Documents: Deed of mortgage (copy), Plans and specifications of work in respect of which loan is raised, with relevant papers, Bond for securing money raised by loan, Statement of account of money advanced.

Benefice: St. Nicholas,

Documents: Deed of mortgage (copy), Plans and specifications of work in respect of which loan is raised, with relevant papers, Bond for securing money raised by loan.

Benefice: Ystradyfodwg,

Documents: Deed of mortgage, Plans and specifications of work in respect of which loan is raised, with relevant papers, Commission issued by bishop for enquiry to be made into condition of buildings etc. involved, or copy of same, and return to same, Bond for securing money raised by loan.

Benefice: Ystradyfodwg (St. John,

Documents: Deed of mortgage, Bond for securing money raised by loan, See LL/Bounty/33 for Plans and specifications of work in respect of which loan is raised, with relevant papers.

Canlyniadau 1021 i 1040 o 711650